Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) (Diddymu) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) (Diddymu) 2001, ISBN 0 11090253 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cendedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 57(6) a 63(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw'r Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) (Diddymu) 2001. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Mehefin 2001. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. 2. - (1) Diddymir trwy hyn Reoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001[3]. Arwyddwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]) Dafydd Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Dyddiedig 26 Mehefin 2001 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru, yn diddymu Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001 (OS 2001/1506 (Cy. 104)), a oedd yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo deiliad trwydded reoli gwastraff i dderbyn a chadw, neu i dderbyn a thrin neu waredu carcasau (neu rannau o garcasau) mathau penodol o anifail a gigyddwyd o ganlyniad i fesurau a gymerwyd mewn cysylltiad â chlwy'r traed a genau. Notes: [1] 1990 p.43back [2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
ISBN 0 11090253 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 5 July 2001 |