Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2263 (Cy.164)

      Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001, ISBN 0 11090340 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2263 (Cy.164)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001

  Wedi'u gwneud 19 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 1 Medi 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo[1] gan adrannau 44, 138(7) ac (8), a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[2], a pharagraffau 4, 15(1) a (2), 16 a 17 o Atodlen 9, paragraff 1 o Atodlen 10, paragraffau 1 i 5 ac 8 o Atodlen 11 a pharagraffau 4 a 5 o Atodlen 12 iddi:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2001.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir ac ysgolion newydd yng Nghymru[
3].

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "y Rheoliadau Trosiannol Cyntaf" ("the First Transistional Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trosi i Fframwaith Newydd)1998 [5]; ac

    ystyr "yr Ail Reoliadau Trosiannol" ("the Second Transitional Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Trosi i Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 [6].

Diwygio'r prif reoliadau
     3. Diwygir y prif reoliadau yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.

Y rhaglith, cymhwyso a dehongli
    
4.  - (1) Yn rhaglith y prif reoliadau, yn lle "paragraph 5 of Schedule 12" rhoddir "paragraphs 4 and 5 of Schedule 12".

    (2) Yn rheoliadau 2 o'r prif reoliadau - 

    (3) Ym mharagraff (2) o reoliad 14 o'r prif reoliadau, ar ôl "First Transitional Regulations" mewnosodir ", regulation 13 of the First Transitional Regulations as it applies by virtue of regulation 20 of those regulations,".

Cyfnod mewn swydd
    
5. Ar ôl paragraff (1)(b) o reoliad 16 o'r prif reoliadau mewnosodir yr is-baragraff canlynol  - 

Llywodraethwyr yn ymddiswyddo ac yn cael eu diswyddo
    
6.  - (1) Ym mharagraffau (2) a (3) o reoliad 17 o'r prif reoliadau, ar ôl y geiriau "may resign", yn y ddau le y maent yn digwydd, mewnosodir "as governor".

    (2) Yn rheoliad 18 o'r prif reoliadau  - 

     7. Yn rheoliad 19(3) o'r prif reoliadau, ar ôl "nominating body" mewnosodir "(although the nominating body may also make representations if they so wish)".

Clerc y Corff Llywodraethu
    
8. Ym mharagraff (3) o reoliad 23 o'r prif reoliadau, yn lle "Subject to regulation 24, where" rhoddir "Where".

Cadeirydd y Corff Llywodraethu
    
9.  - (1) Yn rheoliad 29 o'r prif reoliadau  - 

    (2) Yn rheoliad 30 o'r prif reoliadau  - 

    (3) Yn rheoliad 31(9) o'r prif reoliadau, yn lle "is elected." rhoddir "is elected, but for these purposes regulation 38(2) (chairman's casting vote) shall not apply.".

Llywodraethwyr cyfetholedig
     10.  - (1) Yn rheoliad 34(6) o'r prif reoliadau, yn lle "a co-opted governor's removal" rhoddir "the removal of a co-opted governor or an additional co-opted governor".

    (2) Ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i'r prif reoliadau, yn lle'r atalnod llawn terfynol, rhoddir hanner colon ac ar ôl hwnnw yr is-baragraff canlynol:

Cworwm
    
11. Yn rheoliad 37 o'r prif reoliadau  - 

Trafodion y Corff Llywodraethu
     12. Yn rheoliad 38 o'r prif reoliadau  - 

Dirprwyo
    
13. Yn rheoliad 42 o'r prif reoliadau  - 

Pwyllgorau
     14.  - (1) Yn rheoliad 46 o'r prif reoliadau  - 

    (2) Yn rheoliad 47 o'r prif reoliadau, ar ôl paragraff (6) mewnosodir y paragraff canlynol  - 

    (3) Yn rheoliad 49 o'r prif reoliadau, ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol  - 

    (4) Yn rheoliad 51(4) o'r prif reoliadau, ar ôl "paragraph (1)" mewnosodir "and paragraph (3)".

Mynd i gyfarfodydd pwyllgorau
    
15. Yn rheoliad 56 o'r prif reoliadau  - 

Cyfyngiadau ar bwy gaiff gymryd rhan yn y trafodion
    
16.  - (1) Yn rheoliad 57 o'r prif reoliadau  - 

    (2) Yn Atodlen 7 i'r prif reoliadau  - 

Rhieni-lywodraethwyr
    
17. Ym mharagraff 4(a) o Atodlen 2 i'r prif reoliadau, yn lle "of" rhoddir "for".

Cymhwyso ac anghymhwyso
    
18. Ym mharagraff 4(5) o Atodlen 6 i'r prif reoliadau  - 

Trosiannol
    
19. Yn Atodlen 8 i'r prif reoliadau  - 

Diwygio'r Rheoliadau Trosiannol Cyntaf
    
20. Yn rheoliad 13(10) o'r Rheoliadau Trosiannol Cyntaf, yn lle "paragraphs 1 to 10, 12, 13, 15 and 16", rhoddir "paragraphs 1 - 11, 14 and 16".

Diwygio'r Ail Reoliadau
    
21. Yn yr Ail Reoliadau Trosiannol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mehefin 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2001. Maent yn diwygio Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999 y cyfeirir atynt fel "y prif reoliadau". Mae effaith y diwygiadau yn cael ei hesbonio isod.

Mae rheoliad 5 yn darparu mai pedair blynedd fydd cyfnod llywodraethwr sefydledig yn ei swydd os na chydymffurfir â'r darpariaethau ynghylch hysbysu.

Mae rheoliad 7 yn diwygio prif reoliad 19 er mwyn sicrhau, os oes corff llywodraethu yn ystyried diswyddo llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol, y caiff y corff a enwebodd y llywodraethwr hwnnw gyflwyno sylwadau yn y cyfarfod perthnasol ei hun.

Mae rheoliad 9 yn diwygio prif reoliadau 29 a 30 drwy fewnosod cyfeiriadau at adran 18 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n enwebu cadeirydd y corff llywodraethu yn achos ysgol y mae arni angen mesurau arbennig, mae hyn yn sicrhau na all y corff llywodraethu ddiswyddo'r sawl sydd wedi'i enwebu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 9 hefyd yn diwygio prif reoliad 31 drwy ddileu hawl y cadeirydd i gael pleidlais fwrw yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod corff llywodraethu neu gorff llywodraethu dros dro pryd y mae cadeirydd y corff hwnnw i gael ei ethol.

Mae rheoliad 11 yn diwygio prif reoliad 37 drwy resymoli'r gofynion ynghylch y cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyrff llywodraethu. Yn benodol, mae'n sicrhau bod angen cworwm o ddau draean er mwyn i gorff llywodraethu ddirprwyo swyddogaeth i bwyllgor neu unigolyn. Mae rheoliad 11 hefyd yn ymestyn y darpariaethau ynghylch y cworwm o ddau draean i sicrhau eu bod yn gymwys wrth ddiswyddo aelodau o gyrff llywodraethu dros dro ac wrth ethol cadeirydd corff llywodraethu a chorff llywodraethu dros dro.

Mae rheoliad 12 yn diwygio prif reoliad 38 i'w gwneud yn ofynnol bod penderfyniad corff llywodraethu i gau ysgol yn cael ei gadarnhau mewn ail gyfarfod o'r corff hwnnw a gynhelir o leiaf 28 diwrnod ar ôl y penderfyniad gwreiddiol. Mae hefyd yn atal trafodion corff llywodraethu rhag cael eu hanilysu oherwydd diffyg wrth benodi'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd.

Mae rheoliad 13 yn diwygio prif reoliad 42 i atal cyrff llywodraethu rhag dirprwyo penderfyniadau ynghylch aelodaeth neu drafodion eu pwyllgorau. Mae'n darparu y gall penderfyniadau ar benodi a diswyddo clercod i'r corff llywodraethu neu i un o bwyllgorau'r corff llywodraethu, a chyfrifoldebau dros bennu targedau, gael eu dirprwyo i bwyllgorau ond nid i unigolion.

Mae rheoliad 14 yn diwygio prif reoliad 46 i'w gwneud yn ofynnol bod gweithdrefn un o bwyllgorau'r corff llywodraethu yn cael ei phenderfynu gan y corff llywodraethu ac i atal person nad yw'n aelod o'r corff llywodraethu rhag bod yn gadeirydd un o bwyllgorau'r corff llywodraethu. Mae rheoliad 14 hefyd yn diwygio prif reoliadau 47 a 49 i'w gwneud yn glir bod yr isafswm gofynion ynghylch cyfansoddiad pwyllgorau diswyddo staff, pwyllgorau apelau diswyddo a phwyllgorau derbyn hefyd yn gweithredu fel y cworwm ar gyfer cyfarfodydd y pwyllgorau hyn.

Mae rheoliad 15 yn mewnosod paragraffau (A1) a (A2) newydd ym mhrif reoliad 56, gan ganiatáu i bennaeth ysgol gael yr hawl i fynd i unrhyw un o gyfarfodydd unrhyw un o bwyllgorau ei chorff llywodraethu, ac eithrio yn achos pwyllgorau diswyddo staff, pwyllgorau apelau diswyddo, pwyllgorau disgyblu disgyblion neu os oes cyfyngiad penodol ar waith er mwyn sicrhau tegwch.

Mae rheoliad 16 yn diwygio Atodlen 7 i'r prif reoliadau. Mae'n ymestyn y cyfyngiad sy'n atal person rhag bod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y corff llywodraethu lle mae penodiad y person hwnnw ei hun i swyddi penodol neu ei ddiswyddiad ohonynt yn cael ei ystyried, a hynny i gynnwys penodi i neu ddiswyddo o swydd is-gadeirydd y corff llywodraethu neu un o bwyllgorau'r corff llywodraethu. Mae'r cyfyngiad ar bleidleisio mewn cyfarfodydd o'r fath yn cael ei ymestyn yn yr un modd. Mae rheoliad 16 hefyd yn ei gwneud yn glir na chaiff aelod o'r staff fod yn bresennol mewn cyfarfod tra bydd penodiad olynydd i'r aelod staff hwnnw yn cael ei drafod, ac na chaiff bleidleisio ar y penodiad hwnnw.

Mae rheoliad 18 yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 6 i'r prif reoliadau drwy ymestyn y gwaharddiad ar ailbenodi yn sgil methiant parhaus â mynychu cyfarfodydd i lywodraethwyr partneriaeth.

Mae rheoliad 19 yn cywiro rhai o'r darpariaethau trosiannol manwl a gynhwyswyd yn Atodlen 8 i'r prif reoliadau. Mae rheoliad 21 yn diwygio rheoliad 57 o Reoliadau Addysg (Trosi i Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 er mwyn sicrhau nad yw'r uchafswm arferol o bedair blynedd yn gymwys ar gyfer cyfnod swydd llywodraethwr a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag ysgol y mae arni angen mesurau arbennig.

Mae rheoliadau 4(2)(a), 6(1), 6(2)(a), 10, 12(a), 15(b), 16(1)(a), 18(b) a 19(c) yn cynnwys mân ddiwygiadau, naill ai i egluro ystyr y prif reoliadau neu o ganlyniad i ddiwygiadau o sylwedd a geir yn y Rheoliadau diwygio hyn.

Mae rheoliadau 4(1), 4(2)(b), 4(3), 6(2)(b), 8, 9(1)(c), 9(2)(b), 13(a)(i) a (iii), 14(4), 16(1)(b), 17, 20 a 21(a) yn cywiro gwallau drafftio.


Notes:

[1] Cafodd yr holl bwerau hyn eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a chafodd yr holl bwerau hyn mewn perthynas â Chymru, ac eithrio'r rhai a roddwyd gan adran 144, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Cafodd y pwerau a roddwyd gan adran 144 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).back

[2] 1998 p.31; i gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back

[3] I gael ystyr "ysgolion a gynhelir" ("maintained schools") a "ysgolion newydd" ("new schools") gweler y prif reoliadau.back

[4] O.S. 1999/2242 (Cy.2).back

[5] O.S. 1998/2763.back

[6] O.S. 1999/362.back

[7] Rhoes adran 18 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 y per hwn i'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafodd y per mewn perthynas â Chymru ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[8] O.S. 1999/2243 (Cy.3).back

[9] O.S. 1999/1812.back

[10] O.S. 1999/1811.back

[11] Rhoddwyd y per i benodi llywodraethwr i'r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 18 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ond cafodd y per mewn perthynas â Chymru ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090340 4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 19 September 2001