Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2253 (Cy.163)

      Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090303 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2253 (Cy.163)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 14 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 66(1), 77(4), 78(6) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 [1] (fel y'i darllenir gyda rheoliad 14 o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Eithriadau) (Cymru a Lloegr) 2000 [2]) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru [3], ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r buddiannau sydd o dan sylw, a chan ei fod wedi'i ddynodi [4]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 [5] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) 1999
    
2. Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) 1999 [6] eu diwygio mewn perthynas â Chymru yn unol â rheoliadau 3 a 4 isod.

     3. Yn rheoliad 6 - 

     4. Caiff Atodiad 1 i Ran II o Atodlen 2 ei ddiwygio fel a ganlyn - 

"Tryptophan Part C of the Annex to Directive 2000/45/EC OJ No. L174, 13.7.2000,"


    (b) yn lle'r darpariaethau yng ngholofnau 2 a 3 ynghylch yr eitem ar Vitamin A gyfer Fitamin A rhoddir y darpariaethau canlynol:

"Part A of the Annex to Directive 2000/45/EC OJ No. L174, 13.7.2000, p.32."


ac

    (c) ar ôl yr eitem ar gyfer Fitamin A ychwanegir yr eitem ganlynol yng ngholofnau 1 i 3:

"Vitamin E Part B of the Annex to Directive 2000/45/EC OJ No. L174, 13.7.2000, p.32."


Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi 2000
    
5. Yn Rheoliadau Deunyddiau Porthi 2000 [8], caiff rheoliad 26, paragraff (b) o reoliad 27 ac is-baragraff (ch)(i) o'r rheoliad hwnnw eu hepgor.

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999
     6.  - (1) Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 [9] eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn - 

    (a) yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) isod, ar ôl y geiriau "the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999.", lle bynnag y'u gwelir, mewnosodir y geiriau ", as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001," [10]; a

    (b) yn rheoliad 106(2), caiff is-baragraff (c) ei ddileu.

    (2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw rheoliadau 98(8) a (9), 99 a 106(1).

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999
     7. Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999[11]h) eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn - 

    (a) yn rheoliad 8, ar ôl y geiriau "the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999" ychwanegir y geiriau "as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001"; a

    (b) yn rheoliad 10, yn yr addasiad ar adran 76(8), (9) a (10) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, ar ôl y geiriau "the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999" ychwanegir y geiriau "as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001"; ac

    (c) yn rheoliad 11, yn lle'r geiriau "not a feeding stuff", rhoddir y geiriau "neither a feeding stuff, nor a premixture to which Part A or Part B of Commission Directive 2000/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryptophan in feedingstuffs applies".

     8. Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999 eu diwygio mewn perthynas â Chymru drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 11 - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
12].


D.Elis Thomas
Llywydd y CynulliadCenedlaethol

14 Mehefin 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) 1999 ac yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2000/45/EC sy'n sefydlu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer dod o hyd i fitamin A, fitamin E a tryptophan mewn deunyddiau porthi (OJ Rhif L174, 13.7.2000, t.32).

    
2. Mae'r Rheoliadau - 

    (a) yn diwygio Rheoliadau 1999 drwy ragnodi dull dadansoddi diwygiedig ar gyfer dod o hyd i fitamin A, a dulliau newydd ar gyfer dod o hyd i fitamin E a tryptophan, mewn deunyddiau porthi ac, yn achos fitaminau A ac E, mewn rhag-gymysgeddau (rheoliad 4), a

    (b) yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny, i Reoliadau Deunyddiau Porthi 2000, i Reoliadau Deunyddiau Porthi (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 ac i Reoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 3 a 5 - 8).

     3. Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.


Notes:

[1] 1970 p.40. Diwygiwyd y diffiniad o "the Ministers" gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (OS 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1.back

[2] OS 2000/656.back

[3] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), mae swyddogaethau "the Ministers" yn arferadwy bellach yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[4] OS 1999/2788.back

[5] 1972 p.68.back

[6] OS 1999/1663, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[7] OJ Rhif L174, 13.7.2000, t.32.back

[8] OS 2001/343(Cy.15).back

[9] OS 1999/1872, a addaswyd gan OS 2001/343(Cy.15).back

[10] OS 1999/1871 yw'r cyfeirnod ar gyfer Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Cynhyrchion Söotechnegol) 1999, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[11] OS 1999/2325, a addaswyd gan OS 2001/343(Cy.15).back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090303 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 6 August 2001