Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2236 (Cy. 162 )

      Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Diwygio) (Cymru) (Rhif 8) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Diwygio) (Cymru) (Rhif 8) 2001, ISBN 0 11 090244 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2236 (Cy. 162 )

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Diwygio) (Cymru) (Rhif 8) 2001

  Wedi'i wneud 19 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 20 Mehefin 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, yn gweithredu ar y cyd drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8(1), 17(1), a 23 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] a phob pwer arall sy'n eu galluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Diwygio) (Cymru) (Rhif 8) 2001; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 20 Mehefin 2001.

Diwygiadau i Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983 ("Gorchymyn 1983")[2] i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, yn unol â'r erthygl hon.

    (2) Yn lle erthygl 24, rhowch  - 

    (3) Yn lle erthygl 27, rhowch  - 

    (4) Yn lle erthygl 34A, rhowch - 

    (5) Yn lle erthygl 37C, rhowch - 

Darpariaethau trosiannol
    
3. Bydd Gorchmynion Datganiadol a wnaed o dan Ran III o Orchymyn 1983 cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yn effeithiol fel bod darpariaethau Rhan III o Orchymyn 1983 fel y'u diwygir gan y Gorchymyn hwn, yn gymwys yn yr ardaloedd hynny a nodwyd yn y Gorchmynion Datganiadol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cendlaethol Cymru


ar 19 Mehefin 2001


D. Elis Thomas
Y Llywydd


Llofnodwyd ar 19 Mehefin 2001


Alum Michael
Gweinidog Gwladol


NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983 (O.S. 1983/1950) fel y mae'n gymwys i Gymru.

Disodlir erthyglau 24 a 34A (anifeiliaid ar dir comin) er mwyn darparu na chaiff y perchennog neu'r person sy'n rheoli unrhyw anifail ar dir comin neu dir sydd heb ei amgau symud yr anifail hwnnw oddi ar y tir hwnnw ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, neu os y bydd hysbysiad a roddwyd gan arolygydd milfeddygol yn cyfarwyddo hynny.

Disodlir erthyglau 27A a 37CA. (cneifio a dipio defaid) hefyd. Mae'r erthyglau newydd yn gwahardd cneifio neu dipio defaid mewn ardal hentiedig neu mewn ardal a reolir yn ôl eu trefn ac eithrio yn unol ag amodau trwydded a roddir gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Caiff meddiannydd unrhyw safle neu ei weithiwr cyflogedig ddipio defaid a gedwir ar y safle hwnnw. Diffinnir "cneifio" i gynnwys clipio a thocio, a diffinnir "dipio" i gynnwys rhoi cawod a phistyllio defaid â dip defaid.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru, i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S.1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).back

[2] O.S. 1983/1950, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/3119, O.S. 1995/2922 ac, o ran Cymru, O.S. 2001/572 (Cy.26), O.S. 2001/658 (Cy.33), O.S. 2001/968 (Cy.46), O.S. 2001/1033 (Cy.47) (back



English version



ISBN 0 11 090244 0


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 25 June 2001