Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001, ISBN 0 11090302 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), a (4), 64(3) a 65(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001. Diwygio Rheoliadau 1999 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Rhestr Ardrethhu Canolog (Cymru) 1999[3] fel a ganlyn. (2) Ar ôl Rheoliad 5 mewnosodwch -
5A. - (1) Trinnir hereditamentau (heblaw hereditamentau a eithrir) a feddiennir, neu os nas meddiennir hwy a berchnogir, gan berson a ddynodwyd drwy ei enwi yn Rhan 3A o'r Atodlen ac sy'n cael eu defnyddio, neu a fyddai'n cael eu defnyddio pe baent wedi'u meddiannu, yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion y person hwnnw wrth weithredu fel cludwr nwy cyhoeddus ac a fyddai, heblaw am y Rheoliad hwn, yn fwy nag un hereditament, fel un hereditament. (2) Ym mharagraff (1) -
(b) mae i "cludwr nwy cyhoeddus" yr un ystyr â "public gas transporter" yn Rhan I o Ddeddf Nwy 1986. [4]
(3) Trinnir yr hereditament a ddisgrifir ym mharagraff (1) fel pe bai wedi'i feddiannu gan y person dynodedig."
(3) Yn yr Atodlen, ar ôl Rhan 3, mewnosodwch - Person dynodedig British Gas Connections Limited TotalFinaElf Pipelines Limited The Gas Transportation Company Limited SSE Pipelines Limited ScottishPower Gas Limited East Midlands Pipelines Limited GTC Pipelines Limited Energi Link Limited Hyder Gas Networks Limited E.S. Pipelines Limited Hereditamentau perthnasol Yr hereditamentau a ddisgrifir yn Rheoliad 5A.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Gyda golwg ar sicrhau bod hereditamentau penodol yn cael eu hardrethu yn ganolog en bloc, gall rheoliadau gael eu gwneud o dan adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sy'n dynodi person ac yn rhagnodi mewn perthynas â'r person hwnnw un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditament annomestig. Y prif Reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan y p er hwn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 sy'n effeithiol mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu wedi hynny.Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy ddynodi gr p o gwmnïau cludo nwy a darparu bod yr hereditamentau rhagnodedig y mae pob un ohonynt yn eu defnyddio er mwyn gweithredu fel cludwr nwy cyhoeddus yn cael eu trin fel un hereditament.Notes: [1] 1988 p.41; diwygiwyd adran 53 gan baragraff 29 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) o Ddeddf 1988 i gael y diffiniad o "prescribed".back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [4] 1986 p.44. Mewnosodwyd adran 7, y mae'r diffiniad yn ymddangos ynddi, ganadran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p.45).back
ISBN 0 11090302 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 6 August 2001 |