Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2219 (Cy.159)

      Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001, ISBN 0 11090298 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2219 (Cy.159)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001

  Wedi'u gwneud 14 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 [2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

    mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority" yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990[4]); a

    rhaid dehongli "canolfan gasglu" ("collection centre"), "tanerdy" ("tannery") a "deunydd crai" ("raw material") yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 1999/724/EC sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n nodi gofynion ar gyfer iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn cynhyrchion yn y Gymuned a mewnforion i'r Gymuned nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion a enwyd sydd wedi'u nodi mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC neu, mewn perthynas â phathogenau, â Chyfarwyddeb 90/425/EEC [5].

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996
     3. Caiff Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[6] eu diwygio mewn perthynas â Chymru drwy ychwanegu'r cofnod canlynol, yn Atodlen 3, ar ddiwedd paragraff 12 - 

      " Commission Decision 1999/724/EC (OJ No. L290, 12.11.99, p.32)".

Awdurdodi canolfannau casglu a thanerdai
     4.  - (1) Pan wneir cais o dan y rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi canolfan gasglu neu danerdy os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni - 

    (2) Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi rhif penodol i'r safle.

Atal awdurdodiadau a'u tynnu'n ôl
    
5.  - (1) Caiff awdurdod bwyd atal awdurdodiad o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn neu ei dynnu'n ôl os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r safle y caniatawyd yr awdurdodiad mewn perthynas ag ef yn bodloni'r gofynion a bennir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

    (2) Rhaid i awdurdod bwyd beidio ag atal awdurdodiad neu ei dynnu'n ôl o dan y rheoliad hwn oni bai - 

    (3) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn - 

Yr hawl i apelio
    
6.  - (1) Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad gan awdurdod bwyd i wrthod awdurdodiad neu i atal awdurdodiad neu i dynnu awdurdodiad yn ôl apelio i lys ynadon.

    (2) Bydd adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn effeithiol mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn fel y maent yn effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan yr adran honno.

    (3) Ni fydd tynnu awdurdodiad yn ôl neu atal awdurdodiad yn dod yn effeithiol nes i'r amser ar gyfer apelio yn erbyn hynny ddod i ben ac, os gwneir apêl, nes penderfynu ar yr apêl yn derfynol.

Dileu awdurdodiad
    
7. Rhaid i awdurdod bwyd ddileu awdurdodiad o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn - 

Cofrestru
    
8.  - (1) Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestr o safleoedd sydd wedi'u hawdurdodi o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

    (2) Rhaid i bob awdurdod bwyd hysbysu'r Asiantaeth, drwy unrhyw gyfrwng y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth ofyn amdano: - 

    (3) Rhaid i bob hysbysiad gan yr awdurdod bwyd i'r Asiantaeth o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth ganlynol - 

    (4) Rhaid i'r Asiantaeth gymryd mesurau rhesymol i drefnu bod yr wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar adegau rhesymol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mehefin 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Benderfyniad y Comisiwn 99/724/EC (OJ Rhif L290, 12.11.99, t.32) - "Penderfyniad y Comisiwn" - i'r graddau y mae'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd ac yn gosod rhwymedigaethau newydd ar y Deyrnas Unedig neu'n newid y rhwymedigaethau sydd arni.

Mae Penderfyniad y Comisiwn yn diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49) drwy osod gofynion newydd sy'n ymwneud â gelatin a fwriedir i bobl ei fwyta. Mae darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sy'n ymwneud â'r fasnach o fewn y Gymuned yn cael eu gweithredu gan Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996 er mwyn rhoi eu heffaith i'r newidiadau a wneir gan Benderfyniad y Comisiwn.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi pwer i'r awdurdodau bwyd yng Nghymru roi, atal, tynnu'n ôl a dileu awdurdodiadau i ganolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer gweithgynhyrchu gelatin yn ddarostyngedig i ofynion Penderfyniad y Comisiwn. Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gadw cofrestr o'r safleoedd a awdurdodir fel hyn.

Mae Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol Cymru 1998 (1998 p.38) a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Cymru), Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EN.


Notes:

[1] OS 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] A sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[4] 1990 p.16. Mae adran 5 yn disgrifio'r awdurdodau sy'n awdurdodau bwyd at ddibenion y Ddeddf.back

[5] OJ Rhif L290, 12.11.99, t.32.back

[6] OS 1996/3124, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090298 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 6 August 2001