Rheoliadau Tir Halogedig(Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tir Halogedig(Cymru) 2001, ISBN 0 11090307 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 78C(8) i (10), 78E(6), 78G(5) a (6), 78L(4) a (5) a 78R(1), (2) ac (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] a phob p er arall sy'n galluogi'r Cynulliad yn y cyswllt hwnnw:Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 sy'n dwyn y rhif hwnnw. Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig 2. - (1) Rhagnodir tir halogedig o'r disgrifiadau canlynol at ddibenion adran 78C(8) yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig -
(b) tir sy'n dir halogedig oherwydd tarau asid gwastraff yn y tir, arno neu odano; (c) tir y cynhaliwyd unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol arno ar unrhyw adeg -
(ii) gweithgynhyrchu neu brosesu ffrwydron;
(ch) tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad os nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;
(ii) y Cyngor Amddiffyn; (iii) pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn; neu (iv) awdurdod lluoedd arfog llu sydd ar ymweliad;
sef tir sy'n cael ei defnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;
(ii) unrhyw gyfrwng neu docsin biolegol sy'n dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Arfau Biolegol 1974 (cyfyngiad ar ddatblygu cyfryngau a thocsinau biolegol)[2]; neu (iii) unrhyw arf, offer neu fodd danfon sy'n dod o fewn adran 1(1)(b) o'r Ddeddf honno (cyfyngiad ar ddatblygu arfau biolegol),
ar unrhyw adeg;
(ii) sy'n dir halogedig yn rhinwedd sylweddau y mae'n ymddangos eu bod wedi dianc o dir o'r disgrifiad hwnnw.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b) uchod, mae "tarau asid gwastraff" yn darau -
(b) a gynhyrchwyd o ganlyniad i goethi bensol, ireidiau a ddefnyddiwyd neu betroliwm; ac (c) sydd neu a oedd yn cael eu storio ar dir a ddefnyddiwyd fel basn cadw ar gyfer gwaredu tarau o'r fath.
(3) Ym mharagraff (1)(ch) uchod, mae i "awdurdodiad" a "proses ragnodedig" yr un ystyr ag "authorisation" a "prescribed process" yn Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol)[4] ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli yn ganolog neu yn lleol).
(b) unrhyw safle nad yw cyfnod cyfrifoldeb y trwyddedai wedi dod i ben, ar ôl diddymu neu ildio trwydded safle niwclear ar ei gyfer neu ar gyfer rhan ohono;
ac mae i "trwydded safle niwclear" , "trwyddedai" a "cyfnod cyfrifoldeb" yr ystyr a roddir i "nuclear site licence", "licensee" a "period of responsibility" gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965[5].
mae i "awdurdod lluoedd arfog" a "llu ar ymweliad" yr un ystyr â "service authority" a "visiting force" yn Rhan I o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952[7].
(7) Ym mharagraff (1)(e) uchod, mae i "arf cemegol" yr un ystyr â "chemical weapon" yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996[8]) gan anwybyddu is-adran (2) o'r adran honno.
r i bobl ei yfed a phan fydd angen defnyddio proses, o'r herwydd, i'w trin neu newid y broses honno cyn i'r dyfroedd gael eu defnyddio, er mwyn iddynt gael eu hystyried yn ddyfroedd iachusol o fewn ystyr Rhan III o Ddeddf y Diwydiant D r 1991 (y cyflenwad d r)[10]);(b) pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac, o'r herwydd, nad yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau D r 1991 (dosbarthu ansawdd dyfroedd)[11]; neu(c) pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac -
(ii) pan fydd y dyfroedd, neu unrhyw ran o'r dyfroedd, yn cael eu cynnwys o fewn strata tanddaearol sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw un o'r ffurfiadau creigiau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys hysbysiadau adfer
(b) lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y "tir halogedig o dan sylw"), yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; (c) dyddiad unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 78B i'r person y cyflwynir yr hysbysiad adfer iddo yn pennu'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig; (ch) a yw'r awdurdod gorfodi o'r farn bod y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn berson priodol trwy -
(ii) fod yn berchennog y tir halogedig o dan sylw; neu (iii) fod yn feddiannydd y tir halogedig o dan sylw;
(d) manylion y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;
(ii) enw a chyfeiriad pob un person o'r fath; a (iii) y peth y mae pob person o'r fath yn gyfrifol amdano o ran gwaith adfer;
(ff) pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w gwneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6) wedi'u cynhwyso;
(ii) unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod yn meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r tir halogedig o dan sylw;
(h) pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad o dan adran 78G(2) cyn y gellir gwneud unrhyw beth sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad adfer;
(2) Rhaid i hysbysiad adfer esbonio -
(b) sut, o fewn pa gyfnod ac ar ba sail, y gellir apelio; ac (c) bod hysbysiad yn cael ei atal, pan fydd apêl yn cael ei gwneud yn briodol, nes penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu roi'r gorau iddi.
Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer
(b) unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78H(1) cyn cyflwyno'r hysbysiad; (c) os yr awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, Asiantaeth yr Amgylchedd; ac (ch) os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, yr awdurdod lleol y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli yn ei ardal.
(2) Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu odano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol i neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) uchod cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
(b) ar gyfer rhagnodi dull gwneud cais o'r fath, a'r person y gellir gwneud y cais iddo: ac (c) ar gyfer rhagnodi drwy ba ddull y mae'n rhaid penderfynu swm yr iawndal hwnnw ac ar gyfer gwneud darpariaeth bellach yngl n â'r iawndal hwnnw.
Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer
(ii) p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth enwi'r holl dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig neu unrhyw ran ohono;
(b) bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad -
(ii) p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd wneud unrhyw beth o ran gwaith adfer;
(c) bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth benderfynu mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
(ii) p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth benderfynu pa gyfran o'r gost y mae'r apelydd i'w thalu;
(e) bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau is-adran (1) neu (3) o adran 78H (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;
(ii) p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth benderfynu y byddai'n penderfynu ceisio adennill y cyfan o'r gost;
(l) bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);
(ii) mewn achos lle dibynnir ar is-adran (3) o adran 78YB, y dylai yn rhesymol fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau awdurdod rheoli gwastraff neu awdurdod casglu gwastraff o dan adran 59 gael eu harfer; neu
(o) y cafwyd rhyw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.
(2) Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos -
(b) pan yw'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a'i fod yn honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno; neu (c) pan yw'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro, a'i fod yn honni bod rhyw berson arall hefyd yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu ran o'r tir hwnnw am y tro.
(3) Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r awdurdod apeliadol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg na'r camgymeriad yn un o sylwedd.
(ii) i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol; (iii) i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol; (iv) i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo;
(b) adneuo copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef a chyflwyno copi ohono i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol na chafodd ei enwi felly yn yr hysbysiad adfer; ac
(3) Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac ar ba seiliau y mae'r apêl yn cael ei gwneud.
(ii) cyflwyno dogfennau; (iii) cyflwyno tystiolaeth; a (iv) trefn yr areithiau;
(b) rhaid i unrhyw berson sy'n dod o fewn paragraff (2)(a)(ii), (iii) neu (iv) uchod gael ei hysbysu ynghylch gwrandawiad y g
(5) Bydd Rheol 15 o Reolau Llysoedd Achosion Teuluol (Achosion Priodasol etc.) 1991[16] (dirprwyo gan glerc ynadon) yn gymwys at ddibenion apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon fel y mae'n gymwys at ddibenion Rhan II o'r Rheolau hynny.
(b) ar ba seiliau y gwneir yr apêl; ac (c) a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, -
(ii) unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol; (iii) unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol; a (iv) unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
a chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) uchod; a
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig ac ymdrinnir â'r apêl fel un y rhoddwyd y gorau iddi ar y dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael yr hysbysiad hwnnw.
(b) peri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal,
a rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) uchod os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu Asiantaeth yr Amgylchedd am gael eu gwrando mewn perthynas â'r apêl.
(b) Asiantaeth yr Amgylchedd; ac (c) unrhyw berson (heblaw'r Asiantaeth) yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
(3) Ni fydd dim ym mharagraff (2) uchod yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath yn afresymol.
(b) caniatáu i unrhyw bersonau a hysbyswyd felly gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r addasiad arfaethedig; ac (c) caniatáu i'r apelydd neu unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad adfer iddo gael ei wrando os bydd unrhyw berson o'r fath yn gofyn am hynny.
(2) Pan fydd yr apelydd neu unrhyw berson arall yn cael ei wrando, yn unol â pharagraff (1) uchod, bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael ei wrando hefyd.
(b) materion eraill y bydd y gofrestr honno yn cynnwys manylion a ragnodir mewn perthynas â hwy yn unol ag adran 78R(1)(l).
(2) Rhagnodir y disgrifiadau canlynol o wybodaeth at ddibenion adran 78R(2) fel gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiadau at ddibenion adran 78R(1)(h) a (j) -
(b) enw a chyfeiriad y person yr honnir ei fod wedi gwneud pob un o'r pethau o ran gwaith adfer; (c) disgrifiad o unrhyw beth yr honnir ei fod wedi'i wneud o ran gwaith adfer; ac (ch) y cyfnod yr honnwyd bod popeth o'r fath wedi'i wneud ynddo.
(3) Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion is-adran (8) o adran 78R fel lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno -
(b) os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, ei swyddfa ar gyfer yr ardal y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli ynddi.
1. Rhestrir y teuluoedd a'r grwpiau canlynol o sylweddau at ddibenion rheoliad 3(c)(i) -
2.
Rhestrir y ffurfiadau creigiau canlynol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii) -
p Tywodfeini Sherwood Permo-Driasig;
Dehongli 1. Yn yr Atodlen hon -
Y cyfnod ar gyfer gwneud cais
(b) pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad adfer y rhoddwyd yr hawliau o dan sylw mewn perthynas ag ef, ac nad oes effaith i'r hysbysiad yn rhinwedd rheoliad 14, deuddeng mis ar ôl dyddiad penderfyniad terfynol neu ar ôl rhoi'r gorau iddi; neu (c) chwe mis ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr hawliau gyntaf.
Dull gwneud cais
(b) disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal ar ei gyfer; ac (c) datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 4 isod, a chan ddangos sut y cyfrifwyd y swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.
Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer
(b) dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o arfer yr hawliau; (c) colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl iddo, ac -
(ii) nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw; a (iii) sy'n golled neu'n ddifrod y buasai ganddo hawl i gael iawndal amdanynt ar ffurf iawndal am aflonyddwch, pe buasai'r buddiant hwnnw wedi'i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf Caffael Tir 1981[20] yn unol â hysbysiad i drafod telerau a gyflwynid ar y dyddiad y rhoddwyd yr hawliau;
(ch) difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol, ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a
Y sail ar gyfer asesu'r iawndal
(b) ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais).
(6) Rhaid i iawndal o dan adran 78G gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.
(b) pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad i'w wneud mewn rhandaliadau ar ddyddiadau gwahanol, ar y dyddiad y cytunir arno o ran pob rhandaliad; ac (c) ym mhob achos arall, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Tribiwnlys Tiroedd neu'r llys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i swm yr iawndal gael ei benderfynu'n derfynol.
(3) Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) uchod neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.
(b) fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol.
Rhaid i gofrestr a gedwir gan awdurdod gorfodi o dan adran 78R gynnwys manylion llawn y materion canlynol - Hysbysiadau adfer 1. Mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod -
(b) lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel y "tir halogedig o dan sylw"), yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; (c) y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'i herwydd; (ch) y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw; (d) defnydd cyfredol y tir halogedig o dan sylw; (dd) yr hyn y mae pob person priodol i'w wneud o ran gwaith adfer a'r cyfnodau y mae'n ofynnol iddynt wneud pob un o'r pethau ynddynt; ac (e) dyddiad yr hysbysiad.
Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer
(b) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.
Datganiadau adfer
(b) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.
Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl
(b) y darpariaethau yn rheoliad 2 neu 3 y mae'n ofynnol dynodi'r tir yn safle arbennig o'u herwydd; (c) unrhyw hysbysiad a roddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78Q(1)(a) o'i phenderfyniad i fabwysiadu hysbysiad adfer; ac (ch) unrhyw hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod gorfodi neu iddo o dan adran 78Q(4) yn terfynu dynodiad unrhyw dir yn safle arbennig.
Hysbysu adferiad honedig
(b) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod; ac (c) unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 27, tuag at adfer unrhyw niwed neu lygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd.
15.
Pan fydd yr awdurdod yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw -
(b) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod; ac (c) unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 59, mewn perthynas â'r gwastraff hwnnw neu â chanlyniadau ei ollwng, gan gynnwys mewn achos lle cymerodd awdurdod casglu gwastraff (o fewn ystyr adran 30(3)) y camau hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd, enw'r awdurdod hwnnw.
16.
Pan fydd yr awdurdod, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod II o Ran III o Ddeddf Adnoddau D
(b) lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; ac (c) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn darparu ar gyfer agweddau penodol ar gynllun newydd o dan Ran IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990") ar gyfer adfer tir halogedig. Mae Rheoliadau 2 a 3, ac Atodlen 1, yn nodi'r safleoedd hynny (a elwir "safleoedd arbennig") y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn awdurdod sy'n gyfrifol am orfodi'r cynllun ar eu cyfer. Yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi'r cynllun yn achos unrhyw fath arall o safle. Mae Rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cynnwys "hysbysiadau adfer" a chyflwyno copïau ohonynt, hynny yw, hysbysiadau a gyflwynir gan awdurdod lleol neu Asiantaeth yr Amgylchedd gan bennu'r hyn sydd i'w wneud o ran gwaith adfer a'r amser ar gyfer gweithredu. Mae Rheoliad 6, ac Atodlen 2, yn darparu ar gyfer yr iawndal sydd i'w dalu yn unol ag adran 78G(5) o Ddeddf 1990 i berson sy'n rhoi, neu'n ymuno i roi, yr hawliau mynediad etc. y mae eu hangen i alluogi person i gydymffurfio â hysbysiad adfer. Mae Rheoliadau 7 i 14 yn darparu yngl n ag apelau yn erbyn hysbysiadau adfer, gan gynnwys seiliau apelio a'r weithdrefn sydd i'w dilyn.Mae Rheoliad 15, ac Atodlen 3, yn rhagnodi manylion y materion y mae'n ofynnol o dan adran 78R o Ddeddf 1990 eu rhoi ar gofrestr a gedwir gan yr awdurdodau lleol neu, yn achos safleoedd arbennig, gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Paratowyd asesiad rheoliadol o effaith y Rheoliadau hyn a gellir cael copi oddi wrth Is-adran yr Amgylchedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Notes: [1] 1990 p.43. Mewnosodwyd adrannau 78A i 78YC gan adran 57 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 78A(9). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [9] Gweler adran 78A(8) ar gyfer ystyr "affected by".back [14] Ar gyfer y diffiniad o "person acting in a relevant capacity" gweler adran 78X(4).back [16] O.S. 1991/1991 (L.32)back [17] Y cyfnod a bennir yn adran 78L yw'r cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau gyda'r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad arno.back
ISBN 0 11090307 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 8 August 2001 |