Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090342 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 23A(3), 23B(5), (6), (8)(c), (10), 23D(2), 23E, 24B(6), 24D(2) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1] a pharagraffau 19B(2), (3), (7) ac (8) o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Hydref 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(b) mewn perthynas â phlentyn perthnasol[3], yr ystyr a roddir i "responsible local authority" gan adran 23A(4) o'r Ddeddf.
(b) sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997[6];
(b) unrhyw gartref nyrsio iechyd meddwl sy'n gartref y mae'r manylion cofrestru ar ei gyfer wedi'u cofnodi am y tro yn y rhan ar wahân o'r gofrestr sy'n cael ei chadw at ddibenion adran 23(5)(b) o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984[7]).
Plant cymwys
(ii) bod y plentyn yn dychwelyd ar ddiwedd pob lleoliad o'r fath i ofal ei riant, neu berson nad yw'n rhiant ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(b) unrhyw blentyn sy'n destun gorchymyn gofal ac sydd, o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol sy'n gofalu amdano, wedi bod yn byw gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf[8] am gyfnod o chwe mis neu fwy.
Plant perthnasol
(b) a oedd wedi bod yn cael ei letya gan awdurdod lleol am gyfnod sengl o 13 wythnos o leiaf ("y cyfnod sengl") neu am gyfnodau sydd gyda'i gilydd yn gyfanswm o 13 wythnos o leiaf ("y cyfnod agregedig")
(ii) pan ddaeth y cyfnod sengl neu'r cyfnod agregedig i ben yn union cyn y dal hwnnw neu'r derbyn hwnnw.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "ei ddal" yw ei ddal mewn canolfan remand, sefydliad tramgwyddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi gadarn[10], neu unrhyw sefydliad arall yn unol â gorchymyn llys.
(b) yr amserlen ar gyfer yr asesiad; (c) â phwy y bwriedir ymgynghori at ddibenion yr asesiad; (ch) y trefniadau ar gyfer cofnodi canlyniad yr asesiad; (d) unrhyw gamau y caiff y plentyn eu cymryd os ceir anghytundeb.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod copi o'r datganiad ar gael i'r plentyn a'r personau a bennir yn rheoliad 7(5).
(b) cymryd camau i'w alluogi i fynychu unrhyw gyfarfodydd lle caiff ei achos ei ystyried ac i gymryd rhan ynddynt.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol roi copïau o'r canlynol yn ddioed i'r plentyn neu'r person ifanc -
(b) ei gynllun cam nesaf, (c) pob adolygiad o'i gynllun cam nesaf,
ac i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, sicrhau bod cynnwys pob dogfen yn cael ei esbonio iddo.
(b) yn achos plentyn perthnasol nad oes ganddo gynllun cam nesaf eisoes, heb fod yn fwy na thri mis ar ôl y dyddiad y daw'n blentyn perthnasol.
(3) Rhaid i bob awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o'r canlynol -
(b) y trafodaethau mewn unrhyw gyfarfod a gynhelir mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd ar asesiad; ac (c) canlyniad yr asesiad.
(4) Wrth gynnal asesiad mae'r awdurdod lleol cyfrifol i roi sylw i'r ystyriaethau canlynol -
(b) angen y plentyn am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth; (c) y cymorth sydd ar gael i'r plentyn drwy berthnasoedd ag aelodau ei deulu ac â phersonau eraill; (ch) anghenion ariannol y plentyn; (d) i ba raddau y mae'n meddu ar y medrau ymarferol a'r medrau eraill sy'n angenrheidiol ar gyfer byw'n annibynnol; ac (dd) ei anghenion am ofal, cymorth a llety.
(5) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, geisio barn y canlynol a'i chymryd i ystyriaeth -
(b) unrhyw berson nad yw'n rhiant ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn; (c) unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd; (ch) unrhyw ysgol neu goleg y mae'r plentyn yn eu mynychu, neu'r awdurdod addysg lleol ar gyfer yr ardal y mae'n byw ynddi; (d) unrhyw ymwelydd annibynnol a benodir ar gyfer y plentyn[12]; (dd) yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gynnwys ar ei restr; (e) y cynghorydd personol[13] a benodir ar gyfer y plentyn; ac (f) unrhyw berson arall y gall yr awdurdod lleol cyfrifol neu'r plentyn farnu bod eu barn yn berthnasol.
Cynlluniau cam nesaf
(b) erbyn pa ddyddiad y caiff unrhyw gamau y mae eu hangen i weithredu unrhyw agwedd ar y cynllun eu cymryd gan yr awdurdod lleol cyfrifol.
(4) Rhaid i'r cynllun cam nesaf gael ei gofnodi'n ysgrifenedig.
(b) os yw'r awdurdod lleol cyfrifol, neu'r cynghorydd personol, o'r farn bod angen adolygiad; ac (c) mewn unrhyw achos arall, bob chwe mis ar y mwyaf.
(3) Wrth gynnal adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol, i'r graddau y mae'n barnu ei bod yn briodol gwneud hynny, geisio barn y personau a grybwyllir yn rheoliad 7(5) a'i chymryd i ystyriaeth.
(b) yn achos cyn blentyn perthnasol, a oes angen unrhyw newid i'r cynllun cam nesaf mewn perthynas â'r materion a nodir ym mharagraffau 1, 3 a 4 o'r Atodlen.
(5) Rhaid i ganlyniadau'r adolygiad gael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
(b) unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi cyfle i weld y cofnodion hynny.
Cymorth a llety
(b) y mae'r awdurdod lleol cyfrifol wedi'i fodloni ei hun yn ei gylch o ran cymeriad ac addasrwydd y landlord neu'r darparydd arall; (c) y mae'r awdurdod lleol cyfrifol wedi cymryd y canlynol i ystyriaeth yn ei gylch -
(ii) anghenion addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth y plentyn.
(3) At ddibenion adran 24B(5) o'r Ddeddf (darparu llety yn ystod y gwyliau),
(b) mae i "addysg bellach" yr un ystyr â "further education" yn Neddf Addysg 1996[15] ac eithrio'r ffaith mai dim ond addysg bellach sy'n cael ei darparu ar sail addysg breswyl amser-llawn y mae'n ei chynnwys at ddibenion y rheoliad hwn.
Swyddogaethau cynghorwyr personol
(b) mewn perthynas â chyn blant perthnasol, y swyddogaethau a restrir ym mharagraff (2) heblaw is-baragraff (b).
(2) Dyma'r swyddogaethau -
(b) cymryd rhan yn eu hasesiadau ac yng ngwaith paratoi eu cynlluniau cam nesaf; (c) cymryd rhan mewn adolygiadau o'u cynlluniau cam nesaf; (ch) cysylltu â'r awdurdod lleol cyfrifol wrth i'r cynllun cam nesaf gael ei weithredu; (d) cyd-drefnu gwaith darparu gwasanaethau iddynt, a chymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod yn defnyddio'r gwasanaethau hynny; (dd) parhau'n gyfarwydd â'u cynnydd a'u llesiant; ac (e) cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw un o'i gysylltiadau â hwy.
Cynrychioliadau
(b) yn y diffiniad o "representations", yn lle "24(14)" rhowch "24D(1)".
1. Natur a lefel y cymorth personol sydd i'w roi i'r plentyn neu'r person ifanc. 2. Manylion y llety y mae'r plentyn neu'r person ifanc i'w feddiannu. 3. Cynllun manwl ar gyfer ei addysg neu ei hyfforddiant. 4. Os yw'n berthnasol, sut y bydd yr awdurdod lleol cyfrifol yn cynorthwyo'r plentyn neu'r person ifanc mewn cyflogaeth neu wrth geisio cyflogaeth. 5. Y cymorth sydd i'w roi i alluogi'r plentyn neu'r person ifanc i feithrin perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol a'u cadw. 6. Rhaglen i feithrin y medrau ymarferol a'r medrau eraill sy'n angenrheidiol iddo fyw'n annibynnol. 7. Y cymorth ariannol sydd i'w roi i'r plentyn neu'r person ifanc, yn enwedig pan fwriedir ei roi i ddiwallu ei anghenion o ran llety a chynhaliaeth. 8. Anghenion iechyd y plentyn neu'r person ifanc, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd meddwl, a sut y bwriedir eu diwallu. 9. Cynlluniau wrth gefn ar gyfer camau a fyddai i'w cymryd gan yr awdurdod lleol cyfrifol petai'r cynllun cam nesaf yn peidio â bod yn effeithiol am unrhyw reswm. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth i blant a phobl ifanc 16 oed a throsodd, sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, gan awdurdod lleol. Mae rheoliadau 3 a 4 yn rhagnodi categorïau pellach o blant y bydd neu, yn ôl fel y digwydd, na fydd ar awdurdodau lleol ddyletswyddau ychwanegol tuag atynt fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan III o Ddeddf Plant 1989, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000. Mae rheoliadau 5 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu anghenion, a pharatoi ac adolygu cynlluniau cam nesaf, ac mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth o ran addysg a hyfforddiant, a llety. Mae rheoliad 12 yn rhagnodi swyddogaethau cynghorydd personol. Mae rheoliad 13 yn diwygio Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991 fel y maent yn effeithio ar blant a phobl ifanc a oedd gynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu sy'n ymadael â gofal. Notes: [1] 1989 p.41 ("Deddf 1989"). Mewnosodwyd adrannau 23A a 23B gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35) ("Deddf 2000"), adran 2(4); mewnosodwyd adrannau 23D a 23E gan adran 3 o Ddeddf 2000; mewnosodwyd adrannau 24B a 24D gan adran 4 o Ddeddf 2000. Mewnosodwyd paragraff 19B o Atodlen 2 gan adran 1 o Ddeddf 2000. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 8(7) o Ddeddf 2000. Gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o "prescribed".back [2] Gweler adran 19B o Ddeddf 1989 i gael ystyr "eligible child".back [3] Gweler adran 23A o Ddeddf 1989 i gael ystyr "relevant child".back [4] Gweler adran 23C o Ddeddf 1989 i gael ystyr "former relevant child".back [8] Mae person yn dod o fewn adran 23(4) os yw'n rhiant i'r plentyn, yn berson nad yw'n rhiant ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu pan yw'r plentyn yn derbyn gofal a bod gorchymyn preswylio mewn grym mewn perthynas â'r plentyn yn union cyn i'r gorchymyn gofal gael ei wneud, person y gwnaed y gorchymyn preswylio o'u plaid.back [9] Diffinnir "care order" yn adran 105(1) o'r Ddeddf drwy gyfeirio at adran 31(11) o'r Ddeddf honno.back [10] Ar gyfer canolfannau remand, sefydliadau tramgwyddwyr ifanc a chanolfannau hyfforddi cadarn, gweler adran 43 o Ddeddf Carchardai 1952 (15&16 Geo 16 ac Eliz 2 p.52) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) adran 11, Deddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 33), paragraffau 11 a 12 o Atodlen 15, a Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p. 37), paragraff 6 o Atodlen 8.back [11] Diffinnir "health" a "development" at ddibenion Rhan III o'r Ddeddf yn adran 17(11).back [12] Person a benodir yn ymwelydd ar gyfer plentyn yn unol â pharagraff 17 o Atodlen 2 i'r Ddeddf yw ymwelydd annibynnol.back [13] Darperir ar gyfer cynghorwyr personol yn adrannau 23B(2), 23C(3)(a) a 23D o'r Ddeddf, a pharagraff 19C o Atodlen 2 iddi.back [14] 1998 p.30. Ar hyn o bryd Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000 (O.S. 2000/1121) yw'r rheoliadau perthnasol.back [15] 1996 p.56. Ceir y diffiniad o addysg bellach yn adran 2(3).back [16] Yn ychwanegol gall yr awdurdod lleol cyfrifol ei gweld yn dda trefnu i'r cynghorydd personol weithredu ar ei ran wrth ddarparu gwasanaethau eraill yn unol ag adran 17(5)(b) o'r Ddeddf.back [17] O.S. 1991/879 fel y'i diwygiwyd gan O.S 1991/2033 a 1993/ 3069.back
ISBN 0 11090342 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 20 September 2001 |