Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001, ISBN 0 11090271 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 118(4) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1)
(b) Daw rheoliad 5(1)(c) i rym ar y diwrnod y bydd Gorchymyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 4(4) o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Effaith adsefydlu)[2] sydd yn gymwys i aelod o'r Cyngor, neu ymgeisydd am aelodaeth o'r Cyngor, yn dod i rym[3]. (c) Bydd rheoliad 5(1)(ch)(i) yn dod i rym ar y cyntaf o'r diwrnodau canlynol:
(ii) y diwrnod y bydd rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 113(3B)(d) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (Tystysgrifau cofnodion troseddol)[5] sy'n rhagnodi bod aelod o'r Cyngor, neu ymgeisydd am aelodaeth o'r Cyngor, yn dod o fewn swydd at ddibenion adran 113(3A) o Ddeddf 1997 yn dod i rym[6].
(ch) Bydd rheoliad 5(1)(ch)(ii) yn dod i rym ar y cyntaf o'r diwrnodau canlynol:
(ii) y diwrnod y bydd rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 113(3D)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n rhagnodi bod aelod o'r Cyngor, neu ymgeisydd am aelodaeth o'r Cyngor, yn dod o fewn swydd at ddibenion adran 113(3C) o Ddeddf 1997 yn dod i rym[8]).
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad; ac mae unrhyw gyfeiriad at is-baragraff â rhif mewn paragraff yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff.
(b) Rhaid i'r cadeirydd fod yn berson lleyg. (c) Mae'r cadeirydd yn aelod at ddibenion is-baragraff (a).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) mae person yn berson lleyg os nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau a ddisgrifir ym mharagraff (6).
(b) personau sy'n ymwneud â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, neu â darparu gwasanaethau sy'n debyg i'r gwasanaethau y gall neu y mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol eu darparu wrth arfer y swyddogaethau hynny; (c) personau sy'n rheoli ymgymeriad, neu sy'n cael eu cyflogi mewn ymgymeriad (heblaw sefydliad neu asiantaeth) sy'n golygu neu yn cynnwys cyflenwi personau i ddarparu gofal personol; (ch) personau a gyflogir mewn canolfan ddydd i ddarparu gofal nyrsio neu ofal personol; (d) personau sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwyir gan unrhyw Gyngor; (dd) personau sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwyir gan CCETSW; (e) personau y mae eu henwau wedi'u cynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae'n ofynnol i unrhyw Gyngor ei chadw; (f) personau sy'n ymwneud â darparu cwrs hyfforddi mewn gwaith cymdeithasol perthnasol (a fydd yn cynnwys personau sy'n hwyluso hyfforddi personau sy'n cymryd rhan mewn cwrs o'r fath); (ff) personau sy'n ymwneud â darparu cwrs hyfforddi ar gyfer personau sy'n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy'n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol (a fydd yn cynnwys personau sy'n hwyluso hyfforddi personau sy'n cymryd rhan mewn cwrs o'r fath); (g) personau sydd
(ii) yn hybu neu (yn ôl fel y digwydd) cynrychioli'r buddiannau hynny yng nghwrs eu cyflogaeth neu eu swydd;
(h) personau sydd naill ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill yn cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol ac eithrio pan yw'r gyflogaeth yn rhan o drefniadau domestig i unrhyw berson sy'n cyflogi neu aelod o'i deulu;
(ii) mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r buddiant ariannol mor bellennig neu mor ddibwys na ellir yn rhesymol farnu ei fod yn debygol o fod ym meddwl y person hwnnw, os penodir ef, wrth ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a all ddeillio o swydd aelod o'r Cyngor;
(o) personau sy'n aelodau o awdurdod lleol;
(7) Os gwneir rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 55(3) o'r Ddeddf a fydd yn darparu at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf fod unrhyw berson sy'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) - (d) o baragraff (6) i gael ei drin fel gweithiwr gofal cymdeithasol yna at ddibenion y Rheoliadau hyn mae'r person hwnnw i'w drin fel un sy'n dod o fewn is-baragraff (a) o baragraff (6) ac nid unrhyw un o'r is-baragraffau sydd newydd eu crybwyll.
(b) Y nod yw na ddylai'r cyhoedd yng Nghymru gredu bod gan bersonau lleyg sy'n aelodau o'r Cyngor gysylltiad agos â'r cyrff yr effeithir ar eu gweithgareddau pan gaiff swyddogaethau'r Cyngor eu harfer o dan y Ddeddf.
Telerau penodi
(b) Os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) wedi codi, caiff yr aelod ymddiswyddo drwy roi o leiaf ddau fis o hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol, onid oes amgylchiadau eithriadol yn bod sy'n cyfiawnhau unrhyw gyfnod byrrach o hysbysiad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei ganiatáu.
(3) Os yw'r cadeirydd wedi peidio â dal swydd, neu os nad yw'n gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel cadeirydd oherwydd salwch neu unrhyw achos arall, rhaid cymryd bod y cyfeiriadau at y cadeirydd yn yr Atodlen i'r rheoliadau hyn, cyhyd ag nad oes cadeirydd ar gael i gyflawni ei ddyletswyddau ac nad yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn cynnwys cyfeiriadau at y dirprwy gadeirydd.
(b) os yw'n berson y mae cyfnod adsefydlu o dan adran 5 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn codi o'i garchariad heb ddirwyn i ben mewn perthynas ag ef; (c) os yw wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933[11] (gan gynnwys tramgwyddau a restrir yn Atodlen 1 yn rhinwedd diwygiadau a wneir iddi ar ôl gwneud y rheoliadau hyn); (ch) os yw wedi'i gynnwys (heblaw dros dro) mewn unrhyw un o'r rhestrau canlynol:
(ii) y rhestr a gedwir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 81 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr);
(d) os oes cofnod a wnaed mewn perthynas ag ef mewn unrhyw ran o unrhyw gofrestr y mae'n ofynnol ei chadw gan y Cyngor neu gan Gyngor Lloegr o dan adran 56 o'r Ddeddf (y Gofrestr) wedi'i dynnu neu wedi'i atal am reswm neu resymau a oedd yn cynnwys dyfarniad ei fod wedi methu â pharchu'r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol a nodwyd mewn cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 62 o'r Ddeddf (Codau ymarfer) gan y Cyngor neu (yn ôl fel y digwydd) gan Gyngor Lloegr;
(2) At ddibenion paragraff 1(d) bernir bod cofnod person wedi'i dynnu neu wedi'i atal o gofrestr ar y dyddiad pan fydd y cyfnod cyffredinol a ganiateir ar gyfer apelio at y Tribiwnlys a grybwyllir yn adran 68 o'r Ddeddf (Apelau i'r Tribiwnlys) yn erbyn y tynnu neu'r atal wedi dirwyn i ben neu, os oes apêl o'r fath wedi'i gwneud, y dyddiad pan yw'r apêl neu'r cais wedi'u cwblhau'n derfynol neu eu bod, ym marn resymol y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'u gollwng.
(b) os caiff ei ryddhau, bydd yr anghymhwysiad yn peidio â bod ar ddyddiad ei ryddhau.
(3) Os yw person wedi'i anghymhwyso o dan reoliad 5(1)(e) oherwydd iddo wneud cyfansoddiad neu drefniant â'i gredydwyr -
(b) mewn unrhyw achos arall, bydd yr anghymhwysiad hwnnw'n peidio â bod pan ddaw cyfnod o bum mlynedd i ben sy'n dechrau ar y dyddiad pan gyflawnir telerau'r weithred gyfansoddi neu'r trefniant.
(4) Ni fydd y rheoliad hwn yn cael unrhyw effaith pan derfynir unrhyw ddeiliadaeth swydd o dan reoliad 7.
(b) y bydd y person o dan sylw yn gallu mynychu cyfarfodydd y Cyngor o fewn cyfnod rhesymol.
(4) Os yw person wedi'i benodi'n aelod, ac -
(b) y daw i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod wedi'i anghymhwyso felly adeg ei benodi ,
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw.
(b) Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan is-baragraff (a) uchod ddatgan y rheswm neu'r rhesymau dros ei roi.
(6) Os yw'r Cynulliad o'r farn bod aelod:
(b) wedi methu â chydymffurfio, mewn ystyr berthnasol, ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Cynulliad o dan reoliad 3(4); neu (c) yn berson lleyg pan benodwyd ef ond nad yw'n berson lleyg mwyach;
caiff derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw, ac eithrio na chaiff deiliadaeth swydd unrhyw berson ei therfynu o dan is-baragraff (a) onid oedd canllawiau wedi'u rhoi gan y Cynulliad i'r Cyngor adeg y methiant o dan sylw ynghylch buddiannau perthnasol o dan reoliad 10.
(b) Dyma'r eithriadau -
(ii) yn achos aelodau pwyllgor sy'n aelodau o'r Cyngor paragraffau (1), (4), (5) a pharagraffau (b) ac (c) o paragraffau (6) o reoliad 7.
(c) Dyma'r addasiadau -
(ii) ym mharagraff (3) rhaid hepgor "gyfarfod o'r Cyngor" a "cyfarfodydd y Cyngor" a rhoi "gyfarfod pwyllgor y mae'n aelod ohono" a "cyfarfodydd pwyllgor y mae'n aelod ohono" yn eu lle.
(ch) Bydd terfynu aelodaeth aelod o'r Cyngor o bwyllgor neu is-bwyllgor gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn hefyd yn gweithredu fel terfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw fel aelod o'r Cyngor.
Cyfarfodydd a thrafodion
(b) Yn y rheoliad hwn, ystyr "buddiant perthnasol mewn unrhyw fater" yw buddiant mewn mater a fyddai'n arwain sylwedydd â meddwl teg i benderfynu bod gwir bosibilrwydd y byddai aelod yn bleidiol yn ei drafodaeth neu yn ei ystyriaeth ar y mater.
(2)
(b) Rhaid i'r tynnu gael ei wneud yn ysgrifenedig a gall y tynnu ymwneud ag amgylchiadau cyffredinol neu benodol.
(3) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor neu is-bwyllgor o'r Cyngor fel y mae'n gymwys i'r Cyngor ei hun ac mae'n gymwys i aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw hefyd yn aelod o'r Cyngor neu beidio) fel y mae'n gymwys i aelod o'r Cyngor. 1. Rhaid cynnal cyfarfod cyntaf y Cyngor ar unrhyw ddiwrnod ac mewn unrhyw leoliad y gall y Cadeirydd eu penodi, a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod. 2. (1) Gall y cadeirydd alw cyfarfod o'r Cyngor ar unrhyw adeg. (2) Os oes cais i gael cyfarfod, wedi'i lofnodi gan o leiaf bum aelod, yn cael ei gyflwyno i'r cadeirydd, a bod y cadeirydd naill ai -
(b) heb wrthod felly, yn peidio â galw cyfarfod o fewn 21 diwrnod ar ôl i'r cais gael ei gyflwyno iddo, caiff yr aelodau hynny alw cyfarfod yn ddiymdroi.
(3)
(b) Yn achos cyfarfod a elwir gan y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan y cadeirydd neu gan berson a awdurdodwyd i lofnodi ar ei ran. (c) Yn achos cyfarfod a elwir o dan is-baragraff (2) uchod gan aelodau, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr aelodau hynny ac ni chaiff unrhyw fusnes ei drafod yn y cyfarfod heblaw hwnnw a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Ni fydd trafodion unrhyw gyfarfod yn annilys os bydd unrhyw aelod yn methu â chael yr hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno neu ei anfon o dan y paragraff hwn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ynghylch penodi, aelodaeth a gweithdrefn Cyngor Gofal Cymru ("y Cyngor"). Mae rheoliadau 2 i 4 yn ymwneud â phenodi aelodau'r Cyngor. Maent yn pennu uchafswm aelodau'r Cyngor, y maent i gyd i gael eu penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn ei gwneud yn ofynnol i fwyafrif o aelodau'r Cyngor, gan gynnwys ei Gadeirydd, fod yn bersonau lleyg. Mae rheoliadau 5 a 6 yn ymwneud â'r categorïau o berson nad ydynt yn gallu bod yn aelodau o'r Cyngor. Mae rheoliad 7 yn nodi'r amgylchiadau pan all y Cynulliad Cenedlaethol derfynu deiliadaeth aelodau'r Cyngor ar eu swyddi. Mae rheoliadau 8 a 9, a'r Atodlen, yn ymwneud â phenodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau'r Cyngor, a thrafodion y Cyngor a'i bwyllgorau. Mae rheoliad 10 yn ymwneud â buddiannau aelodau ac yn sgil hynny y gofynion a roddir ar yr aelodau mewn perthynas â'r buddiannau hynny. Notes: [1] 2000 p. 14. Mae'r p er o dan baragraff 6 o Atodlen 1 i'r Ddeddf yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag awdurdod. Mae awdurdod yn cynnwys Cyngor Gofal Cymru ond mewn perthynas â Chyngor Gofal Cymru mae cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y Cynulliad: gweler paragraff 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf. Mae adran 118(5) i (7) yn gymwys i unrhyw b er sydd gan y Cynulliad i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf: gweler adran 118(4) o'r Ddeddf.back[3] Gall Gorchymyn, o dan adran 4(4)(a) o Ddeddf 1974 (y cyfeirir ati fel "y Ddeddf" yng ngweddill y troednodyn hwn), eithrio neu addasu cymhwysiad adran 4(2) o'r Ddeddf, a darparu, o dan adran 4(4)(b), ar gyfer eithriadau rhag darpariaethau adran 4(3) o'r Ddeddf. Mae adran 4(2) o'r Ddeddf yn darparu, ymhlith pethau eraill, nad yw cwestiynau a ofynnir i berson am ei gollfarnau blaenorol i gael eu trin fel rhai sy'n berthnasol i gollfarnau sydd wedi darfod. Mae adran 4(3) o'r Ddeddf yn darparu, ymhlith pethau eraill, na ellir gosod person o dan rwymedigaeth i ddatgelu collfarn sydd wedi darfod na'i ragfarnu mewn perthynas ag unrhyw swydd oherwydd collfarnau sydd wedi darfod. Gweler adran 1(1) o'r Ddeddf (Personau a adsefydlwyd a chollfarnau sydd wedi darfod) i gael ystyr "spent conviction".back [4] Mae adran 103(2) o'r Ddeddf yn darparu bod unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig yn "unigolyn perthnasol" at ddibenion adran 103(1) (ystyr "rhagnodedig" yw "wedi'i ragnodi gan reoliadau": gweler adran 121(1) o'r Ddeddf; mae rheoliadau o dan adran 103 i'w gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol: gweler adran 80(8) o'r Ddeddf). Mae adran 103(1) yn darparu bod gan berson sy'n ceiso darganfod a yw unigolyn perthnasol wedi'i gynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr) hawl i'r wybodaeth honno, cyn cychwyn adran 8 o Ddeddf 1999 (Archwiliadau o'r ddwy restr o dan Ran V o Ddeddf yr Heddlu 1997), wrth wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae adran 8 o Ddeddf 1999 yn darparu bod ceisiadau i gael gweld y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf 1999 i gael eu gwneud ar y cyd â cheisiadau i gael gweld rhestrau gwybodaeth eraill a gedwir am unigolion.back [5] 1997 p.50. Mewnosododd adran 8(1) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) is-adrannau 3A a 3B yn adran 113 o Ddeddf 1997. Mewnosododd adran 90(1) o'r Ddeddf is-adrannau 3C a 3D, a mewnosododd adran 104(1) a (2)(b) is-adran 3E, yn adran 113. Yn ychwanegol, mae adrannau 102(1), 104(1) a 2(a), 116 o'r Ddeddf a pharagraff 25(1) o Atodlen 4 iddi yn diwygio is-adran 3A o adran 113. Nid yw'r mewnosodiadau a wneir gan Ddeddf 1999, ar ddyddiad gwneud y rheoliadau hyn, hyd yn hyn wedi cael dyddiad penodedig iddynt ddod i rym: gweler adran 14 o Ddeddf 1999. Yn yr un modd, nid yw'r mewnosodiadau a'r diwygiadau a wneir gan y Ddeddf wedi cael dyddiad penodedig hyd yn hyn iddynt ddod i rym: gweler adran 122 o'r Ddeddf.back [6] Mae adran 113(3B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn darparu bod swydd yn dod o'i mewn os yw'n swydd o'r disgrifiad hwnnw sydd wedi'i ragnodi o dan baragraff (d) ynddi (yn Neddf 1997 ystyr "wedi'i ragnodi" yw "wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol": gweler adran 125). Mae adran 113 (3A) yn darparu bod rhaid i dystysgrifau a roddir mewn ymateb i geisiadau a wneir yn briodol am dystysgrifau cofnodion troseddol o dan adran 113 sy'n datgan bod angen am y dystysgrif er mwyn ystyried addasrwydd y ceiswyr am swydd o fewn adran 113(3B) ddatgan a yw'r ceisydd, ymhlith pethau eraill, wedi'i gynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr).back [7] Mae adran 91(2) o'r Ddeddf yn darparu y bydd unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig yn "unigolyn perthnasol" at ddibenion adran 91(1) (ystyr "rhagnodedig" yw "wedi'i ragnodi gan reoliadau": gweler adran 121(1) o'r Ddeddf; mae rheoliadau o dan adran 91(2) i'w gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol: gweler adran 80(8) o'r Ddeddf). Mae adran 91(1) o'r Ddeddf yn darparu bod gan berson sy'n ceisio darganfod a yw unigolyn perthnasol wedi'i gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 81 (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr o unigolion yr ystyrir nad ydynt yn addas i weithio gydag oedolion hawdd eu niweidio) hawl i'r wybodaeth honno, cyn cychwyn adran 90 o'r Ddeddf (Archwiliadau o'r rhestr o dan Ran V o Ddeddf yr Heddlu 1997), drwy wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae adran 90 yn darparu i geisiadau i gael gweld y rhestr a gedwir o dan adran 81 gael eu gwneud ar y cyd â cheisiadau i gael gweld rhestrau gwybodaeth eraill a gedwir am unigolion.back [8] Mae adran 113(3D) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (p.50) yn darparu bod swydd yn dod o'i mewn os yw'n swydd o'r disgrifiad hwnnw sydd wedi'i ragnodi o dan baragraff (b) ynddi (yn Neddf 1997 ystyr "wedi'i ragnodi" yw "wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol": gweler adran 125). Mae adran 113(3C) yn darparu bod rhaid i dystysgrifau a roddir mewn ymateb i geisiadau a wneir yn briodol am dystysgrifau cofnodion troseddol o dan adran 113 sy'n datgan bod angen am y dystysgrif er mwyn ystyried addasrwydd y ceiswyr am swydd o fewn adran 113(3D) ddatgan a yw'r ceisydd, ymhlith pethau eraill, wedi'i gynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back [10] Diwygiwyd adran 5 gan y darpariaethau canlynol: adran 22 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1976 (p.52) a pharagraffau 20(4),(5) a 21 o Atodlen 9 iddi; adran 83(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (yr Alban) 1980 (p.62) a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi; adran 28 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1981 (p.55) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi; adrannau 77 a 78 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) a pharagraffau 36(a),(b) a 37 o Atodlen 14 ac Atodlen 16 iddi; adran 65(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Diwygio) 1982 (p.51) a pharagraff 49 o Atodlen 3 iddi; adran 148 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) a pharagraff 39 o Atodlen 4 iddi; adran 123(6) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) a pharagraff 9(a),(b) o Atodlen 8 iddi; adran 108(7) o Ddeddf Plant 1989 (p.41) ac Atodlen 15 iddi; adran 26 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1991 (p.29) ac Atodlen 3 iddi; adrannau 68 a 101(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53) a pharagraff 5 o Atodlen 8 a pharagraff 22 o Atodlen 12 iddi; adran 168(1),(2),(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33), paragraff 11(1)(a),(b),(c), (2) o Atodlen 9 iddi a pharagraff 30 o Atodlen 10 iddi; adran 105(4) o Ddeddf Plant (yr Alban) 1995 (p.36) a pharagraff 23(3) o Atodlen 4 iddi ; adran 119 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) a pharagraff 35 o Atodlen 8 iddi; adran 67(1) o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999 (p.23) a pharagraff 6(1),(2),(3) o Atodlen 4 iddi; adran 165(1) o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6) a pharagraff 48 o Atodlen 9 iddi; adran 74 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys (p.43) a pharagraffau 48 a 49(a),(b) o Atodlen 7 iddi.back [11] 1933 p.12. Diwygiwyd yr Atodlen gan adrannau 48 a 51 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (p.69) ac Atodlenni 3 a 4 iddi a chan adran 170 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) a pharagraffau 8 a 9 o Atodlen 15 iddi.back
ISBN 0 11090271 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 19 July 2001 |