Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2133 (Cy. 148 )

      Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11 090259 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2133 (Cy. 148 )

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 5 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 12 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. -

    (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 12 Gorffennaf 2001.

    (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992
    
2. Caiff Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau")[2] eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     3. Yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli), mewnosodwch y diffiniadau canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor-

      " "dental list" shall be construed in accordance with regulation 4(1);

      "general anaesthesia list" shall be construed in accordance with regulation 5D;".

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
    
4. Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (rhestr ddeintyddol)-

Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau
    
5. Yn rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (gwneud cais am gael eich cynnwys yn y rhestr ddeintyddol)-

Rhestr anesthesia gyffredinol
    
6. Ar ôl rheoliad 5C mewnosodwch-

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
    
7. -

    (1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (amodau gwaith deintyddion) yn cael ei diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 16 (cymysgu gwasanaethau deintyddol a gofal a thriniaeth breifat)-

    (3) Ym mharagraff 21 (anesthesia gyffredinol a thawelyddu)-

    (4) Ym mharagraff 27A (llenwi ffurflenni hawlio)-

    (5) Ar ôl paragraff 33 (adeiladau etc) mewnosodwch-

    (6) Ym mharagraff 40 (anestheteg gyffredinol), yn lle "a doctor or another dentist", rhowch "an appropriately qualified doctor".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


5 Mehefin 2001


D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru


NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) ("y prif Reoliadau") sy'n rheoli ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Maer rheoliad 6 yn darparu ar gyfer sefydlu rhestr o'r deintyddion hynny sy'n rhoi triniaeth i gleifion o dan anesthesia gyffredinol fel rhan o wasanaethau deintyddol cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys hawl i apelio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru os gwrthodir cynnwys deintydd mewn rhestr anesthesia gyffredinol am fod Awdurdod Iechyd wedi penderfynu nad yw ei adeiladau'n briodol ac yn ddigonol ar gyfer darparu triniaeth ddeintyddol o dan anesthesia gyffredinol.

Mae rheoliad 5 yn cyflwyno hawl debyg i ddeintydd y gwrthodwyd cynnwys ei enw mewn rhestr ddeintyddol am fod Awdurdod Iechyd wedi penderfynu nad yw ei adeiladau'n briodol ac yn ddigonol ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol apelio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau sy'n nodi amodau gwaith deintyddion sy'n cael eu cyflogi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'r diwygiad yn darparu na all triniaeth gael ei darparu o dan anesthesia gyffredinol oni bai bod y deintydd ar restr anesthesia gyffredinol yr Awdurdod Iechyd, na all anesthesia gyffredinol fod yn rhan o driniaeth sy'n cymysgu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a deintyddiaeth breifat, a bod rhaid i ddeintyddion ar y rhestr anesthesia gyffredinol ganiatáu i'w hadeiladau gael eu harchwilio. Mae hefyd yn gosod categorïau newydd o'r rhai y caniateir iddynt roi anesthesia gyffredinol at ddibenion gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn lle'r hen gategorïau.

Mae rheoliad 7 hefyd yn diwygio'r amodau gwaith yn Atodlen 1 fel ei bod yn ofynnol i ddeintydd ofyn am gael gweld tystiolaeth i ategu hawliad bod gan glaf hawl i gael archwiliad deintyddol am ddim neu unrhyw adroddiad ar archwiliad o'r fath.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 5(2); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 6(e).

Amnewidiwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24.

Rhifwyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ac Atodlen 2, paragraff 4 iddi; gan Ddeddf 1990, adran 24(2) a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 25(a). Mewnosodwyd adran 36(3) gan Ddeddf 1990, adran 24(3).

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a (3) a 126(4) o Ddeddf 1977 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'u diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S.1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1993/2209 a 3172, 1995/3092, 1998/1648 a 2000/3118.back

[3] O.S.1989/394, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/581, 1992/369, 1993/419, 1994/530, 1995/444, 1996/389, 1997/558, 1998/490 a 2221, 1999/544, 2000/977 (Cy.47) a 2001/1359 (Cy.87)back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 090259 9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 11 July 2001