Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2070 (Cy. 142)

      Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090249-1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2070 (Cy. 142)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 24 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12(1)(i), 17(1)(j) a 27(1)(j) a 146(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1], sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Ni fydd i'r Gorchymyn hwn unrhyw effaith mewn perthynas â chais am grant a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2001.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Grantiau adnewyddu
    
3. At ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (grantiau adnewyddu: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.

Grantiau rhannau cyffredin
    
4. At ddibenion adran 17 o'r Ddeddf (grantiau rhannau cyffredin: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.

Grantiau tai mewn aml-feddiannaeth
    
5. At ddibenion adran 27 o'r Ddeddf (grantiau tai mewn aml-feddiannaeth: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)


Mae adrannau 12, 17 a 27 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("Deddf 1996") yn nodi'r dibenion y gall grantiau ar gyfer adnewyddu tai yn y sector preifat gael eu rhoi ar eu cyfer. Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol b er o dan adrannau 12(1)(i), 17(1)(j) a 27(1)(j) i bennu dibenion eraill drwy orchymyn. Erbyn hyn, mae'r phwnnw'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu diben ychwanegol y gall grant gael ei roi ar ei gyfer o dan adrannau 12 (grantiau adnewyddu), 17 (grantiau rhannau cyffredin) a 27 (grantiau ar gyfer tai mewn aml-feddiannaeth) o Ddeddf 1996. Gwella effeithlonrwydd ynni yw'r diben hwnnw ym mhob achos.


Notes:

[1] 1996 p.53back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672)back

[3] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090249-1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 3 July 2001