Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090250-5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 51 ac 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001. (2) Yn y Rheoliadau hyn -
ac mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
(b) ei gyfeiriad; (c) yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, disgrifiad cyffredinol o'r addysg sy'n cael ei darparu yn y sefydliad ac o'r addysg sydd i'w darparu yno pan fydd yn cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach gan gynnwys, yn y ddau achos ystod oedran y myfyrwyr; (ch) yn achos sefydliad sydd i'w sefydlu, disgrifiad cyffredinol o'r addysg sydd i'w ddarparu yn y sefydliad gan gynnwys ystod oedran y myfyrwyr; (d) yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, a yw'n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir neu, os nad yw'n unrhyw un o'r rhain, disgrifiad byr o'i statws; (dd) yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, enw'r awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n ei gynnal ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[4], enw awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol o dan sylw; (e) yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes heblaw ysgol -
(ii) nifer y myfyrwyr amser-llawn a ragwelir, nifer y myfyrwyr rhan-amser a ragwelir a chyfanswm y myfyrwyr a ragwelir ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn y caiff y cynigion drafft eu cyhoeddi (neu, pan gaiff y cynigion drafft eu cyhoeddi ar 1 Rhagfyr neu ar ôl hynny, yn y flwyddyn ar ôl blwyddyn eu cyhoeddi);
(f) yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes ac sy'n ysgol -
(ff) yn achos sefydliad sydd i'w sefydlu, nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr a ragwelir ar gyfer yr amser y bydd y sefydliad yn hollol weithredol;
(ii) yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, a yw'r corff llywodraethu wedi cydsynio â sefydlu corfforaeth addysg bellach i redeg y sefydliad;
(h) y dyddiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer sefydlu'r gorfforaeth addysg bellach ac o ba ddyddiad y cynigir y dylai'r gorfforaeth redeg y sefydliad;
Yr wybodaeth sydd i'w cynnwys yn y cynigion drafft a ddisgrifir yn adran 51(1)(c)
(b) enw'r sefydliad o dan sylw (os yw'n wahanol); (c) ei gyfeiriad; (ch) disgrifiad cyffredinol o'r addysg sy'n cael ei darparu yn y sefydliad; (d) nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr yn y sefydliad; (dd) y rheswm dros gynnig diddymu'r gorfforaeth; (e) y dyddiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer diddymu'r gorfforaeth; ac (f) y ddarpariaeth addysgol sydd i'w gwneud ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi cwblhau eu cyrsiau ar y dyddiad hwnnw.
Amser a dull cyhoeddi'r cynigion o dan adran 51(1)
(b) drwy ei osod mewn o leiaf un man amlwg yn yr ardal honno; ac (c) yn achos cynnig drafft sy'n ymwneud â sefydliad sy'n bodoli eisoes, drwy ei osod mewn man amlwg ym mhrif fynedfa'r sefydliad hwnnw neu wrth ei hymyl.
(3) Rhaid i'r crynodeb ddatgan bod modd cael copi o'r cynnig drafft yn rhad ac am ddim oddi wrth y Cyngor Cenedlaethol a rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol anfon copi o'r cynnig drafft at unrhyw berson sy'n gofyn amdano.
(b) at gorff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gorff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg sy'n addas ar gyfer anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg mlwydd oed, o fewn y gymdogaeth; ac (c) at unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cyngor Cenedlaethol fod ganddo fuddiant.
Y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau
(b) rhaid cyhoeddi crynodeb o'r gorchymyn drafft -
(ii) drwy ei osod mewn o leiaf un man amlwg yn yr ardal honno; ac (iii) yn achos gorchymyn drafft sy'n ymwneud â sefydliad sy'n bodoli eisoes, drwy ei osod mewn man amlwg ym mhrif fynedfa'r sefydliad hwnnw neu wrth ei hymyl.
(2) Rhaid i'r crynodeb ddatgan bod modd cael copi o'r gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gorchymyn drafft at unrhyw berson sy'n gofyn amdano.
(b) at gorff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gorff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg sy'n addas ar gyfer anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg mlwydd oed, o fewn y gymdogaeth, ac (c) at unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo fuddiant.
Cyhoeddi etc. y gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b)
(b) at yr awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n cynnal y sefydliad ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, at awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol o dan sylw; ac (c) at unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo fuddiant.
Diddymu a darpariaethau trosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru) yn rhagnodi cynnwys, ac amser a dull cyhoeddi, cynigion drafft sy'n cael eu gwneud gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant ("y Cyngor Cenedlaethol") ar gyfer sefydlu corfforaethau addysg bellach a'u diddymu. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd ar gyfer amser a dull cyhoeddi gorchmynion drafft ar gyfer sefydlu corfforaethau addysg bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 16 (1) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, pan nad yw'r gorchmynion hynny yn cael eu gwneud er mwyn rhoi effaith i gynigion a wnaed gan y Cyngor Cenedlaethol. Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 ac yn ailddeddfu eu darpariaethau gyda diwygiadau sy'n deillio o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a'r fframwaith newydd ar gyfer ysgolion a gynhelir a geir yn Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Notes: [1] 1992 p.13.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).back [4] 1998 p.31. Gweler adran 69 a Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 (O.S.1999/1814).back
ISBN 0-11-090250-5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 5 July 2001 |