Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2019 (Cy. 140)

      Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090261-0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2019 (Cy. 140)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 17 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Mehefin 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 15(3) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[1], a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw: - 

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.

Diddymu
    
2. Mae Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach 1992[2] drwy hyn wedi'i ddiddymu mewn perthynas â Chymru fel y diffiniwyd yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.


John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach 1992 ("Gorchymyn 1992"), sydd eisoes wedi'i ddiddymu mewn perthynas â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (erthygl 2). Pennodd Gorchymyn 1992 isafswm maint ar gyfer glanio a gwerthu gwyniaid (Merlangius merlangus) ym Mhrydain ac ar gyfer eu cludo ar gwch pysgota Prydeinig. Gwnaed darpariaeth gysylltiedig ynddo hefyd ar gyfer gorfodi.

Erbyn hyn, rhagnodir yr isafswm maint ar gyfer glanio, gwerthu, storio a chludo gwyniaid gan erthygl 19 (o'i darllen gydag erthygl 17) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, t.1). Mae'r Rheoliad hwnnw'n darparu ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol ar gyfer diogelu y rhai ifanc o organeddau morol. Mae darpariaethau ar gyfer gorfodi'r cyfyngiadau a'r rhwymedigaethau a geir yn y Rheoliad hwnnw wedi'u nodi yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000, a ddaeth i rym ar 11 Medi 2000. [2000 Rhif 2230 (Cy. 148)].


Notes:

[1] 1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 19(1), a'i diwygio gan baragraff 38(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) a pharagraff 43(2) a (3) o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77) Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, paragraff 43(2)(b).

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) cafodd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 1, 15(3) ac 20(1) o Ddeddf 1967 eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.

Diffiniwyd "Wales" yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) fel ei bod yn cynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea". Mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn dal yn arferadwy gan y Gweinidogion.

Gweler adran 22(2) o Ddeddf 1967 i gael diffiniadau o "the Ministers" at ddibenion adrannau 1 a 15(3). Diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, paragraff 43(12) o Atodlen 2.back

[2] O.S. 1992/1212. Cafodd y Gorchymyn ei ddiddymu gan O.S. 2000/1234 ac eithrio i'r graddau yr oedd yn rhan o Gyfraith yr Alban neu yn effeithiol mewn perthynas â Chymru. Cafodd ei ddiddymu ymhellach mewn perthynas â'r Alban gan O.S.A. 2000/82.back

[3] 1998 p.38. (Gweler y diffiniad yn nhroednodyn (a) uchod.)back



English version



ISBN 0-11-090261-0


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 12 July 2001