Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090260-2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(1) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[1], a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001. Diddymu 2. Mae Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) 1986[2] drwy hyn wedi'i ddiddymu mewn perthynas â Chymru. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. John Marek Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol 17 Mai 2001 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) 1986 ("Gorchymyn 1986"), sydd eisoes wedi'i ddiddymu mewn perthynas â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (erthygl 2). Gwaharddodd Gorchymyn 1986 lanio crafangau crancod yn y Deyrnas Unedig os ydynt wedi'u datod oddi ar grancod bwytadwy (Cancer pagurus) sydd wedi'u dal o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain. Gwnaed darpariaeth gysylltiedig ynddo hefyd ar gyfer gorfodi. Erbyn hyn, gellir dod o hyd i ddarpariaethau ynghylch cadw crancod bwytadwy a chrafangau sydd wedi'u datod ar fwrdd llongau a'u glanio yn Erthygl 18.4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, t.1) ynghylch cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol ar gyfer diogelu organeddau morol ifanc. Mae darpariaethau ar gyfer gorfodi'r cyfyngiadau a'r rhwymedigaethau a geir yn y Rheoliad hwnnw wedi'u gwneud yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000 (2000 Rhif 2230 (Cy. 148)) a ddaeth i rym ar 11 Medi 2000. Notes: [1] 1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 19(1), a'i diwygio gan baragraff 38(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) a pharagraff 43(2) a (3) o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Diwygiwyd adran 6, o ran ei heffaith, gan adran 33(1) o Ddeddf 1981 a'i diwygio gan O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(6). Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) cafodd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 6(1) o Ddeddf 1967 eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (a ddiffinnir yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) fel ei bod yn cynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea"); mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn dal yn arferadwy gan y Gweinidogion. Gweler adran 22(2) o Ddeddf 1967 i gael diffiniadau o "the Ministers" at ddibenion adrannau 1 a 15(3). Diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, paragraff 43(12) o Atodlen 2.back [2] O.S. 1986/496. Cafodd y Gorchymyn ei ddiddymu gan O.S. 2000/1235 ac eithrio i'r graddau yr oedd yn rhan o Gyfraith yr Alban neu yn effeithiol mewn perthynas â Chymru. Cafodd ei ddiddymu mewn perthynas â'r Alban gan O.S.A. 2000/81.back
ISBN 0-11-090260-2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 12 July 2001 |