Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1987 (Cy. 138)

      Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090274 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1987 (Cy. 138)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(1) a (3) a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Estyn darpariaethau adran 43(5) o Ddeddf Addysg 1997
    
2. Bydd adrannau 43 a 44 o Ddeddf Addysg 1997 yn cael effaith fel petai'r cyfnod canlynol wedi'i roi yn lle'r cyfnod a bennir yn adran 43(5) fel y rhan berthnasol o addysg disgybl, sef y cyfnod - 

    (a) sy'n dechrau yr un pryd â'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 14 oed; a

    (b) sy'n gorffen pan ddaw'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 19 oed i ben.

Y gofyniad i ddarparu addysg gyrfaoedd mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach
    
3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach (p'un a ydynt yn eu mynychu'n amser llawn neu'n rhan amser) ac sydd wedi cyrraedd 16 oed ond nad ydynt wedi cyrraedd 20 oed.

    (2) Rhaid i gyrff llywodraethu'r sefydliadau hynny a phrifathrawon neu benaethiaid eraill y sefydliadau hynny sicrhau bod rhaglen addysg gyrfaoedd yn cael ei darparu ar gyfer y personau hynny y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.

    (3) Yn y rheoliad hwn - 

    mae "gyrfaoedd" ("careers") yn cynnwys ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant, cyflogaeth neu alwedigaeth neu unrhyw gwrs addysg.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Mai 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwneud darpariaeth ar gyfer estyn y gofyniad i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gynnwys disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol a myfyrwyr rhwng 16 a 19 oed sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.

Mae Rheoliad 2 yn estyn y gofyniad yn adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gwmpasu disgyblion rhwng 14 a 19 oed, yn hytrach na 14 - 16 oed yn ôl gofyniad presennol adran 43.

Mae Rheoliad 3 yn gosod gofyniad hollol newydd ar gyfer darparu rhaglen addysg gyrfaoedd i fyfyrwyr 16 - 19 oed sy'n mynychu sefydliadau addysg bellach.


Notes:

[1] 1997 p.44. I gael ystyr "regulations" gweler adran 56(1), ac i gael ystyr "specified" gweler adran 46(5).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1992 p.13.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090274 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 19 July 2001