Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090210-6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) and (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn, a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mehefin 2001. Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Amrywiol Bwyd 1995 2. Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Amrywiol bwyd 1995 [3] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â Rheoliadau 3 i 5 isod. 3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 96/77/EC" ychwanegir y geiriau "and Commission Directive 2000/63/EC"[4] ar y diwedd. 4. Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) mewnosodir ar ôl paragraff (1B) y paragraff canlynol -
(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3 and 5 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2001 had not been made when that matter occurred.".
5.
Yn Atodlen 5 (meini prawf purdeb) hepgorir y cofnodion sy'n ymwneud â'r ychwanegion amrywiol a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976[8]) Rheoliadau Coco a Chynhyrchion Siocled 1976[9]) Rheoliadau Suddau Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977 [10] Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977 [11]) Rheoliadau Jam a Chynnyrch Tebyg 1981[12]) Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[13]d) Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[14]) Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 [15]
E 296Malic acid E 297Fumaric acid E 350(i)Sodium malate E 350(ii)Sodium hydrogen malate E 351Potassium malate E 352(i)Calcium malate E 352(ii)Calcium hydrogen malate E 355Adipic acid E 363Succinic acid E 380Triammonium citrate E 500(i)Sodium carbonate E 500(ii)Sodium hydrogen carbonate E 500(iii)Sodium sesquicarbonate E 501(i)Potassium carbonate E 501(ii)Potassium hydrogen carbonate E 503(i)Ammonium carbonate E 503(ii)Ammonium hydrogen carbonate E 507Hydrochloric acid E 509Calcium chloride E 513Sulphuric acid E 514(i)Sodium sulphate E 515(i)Potassium sulphate E 516Calcium sulphate E 522Aluminium potassium sulphate E 524Sodium hydroxide E 525Potassium hydroxide E 526Calcium hydroxide E 527Ammonium hydroxide E 528Magnesium hydroxide E 529Calcium oxide E 530Magnesium oxide E 535Sodium ferrocyanide E 536Potassium ferrocyanide E 541Sodium aluminium phosphate, acidic E 551Silicon dioxide E 552Calcium silicate E 553a(i)Magnesium silicate E 553a(ii)Magnesium trisilicate E 575Glucono-delta-lactone E 576Sodium gluconate E 577Potassium gluconate E 578Calcium gluconate E 640Glycine E 900Dimethylpolysiloxane E 901Beeswax, white and yellow E 903Carnauba wax E 904Shellac E 941Nitrogen E 942Nitrous oxide E 948Oxygen E 999Extract of quillaia E 1200Polydextrose Propane-1, 2-diol (propylene glycol) (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd ("y prif Reoliadau"). Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2000/63/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n nodi meini prawf purdeb penodol ynghylch ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L277, 30.10.2000, t.1). Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, mae'r Rheoliadau yn diwygio'r gofynion presennol yn y prif Reoliadau o ran y meini prawf purdeb ar gyfer butylated hydroxyanisole (BHA) ac yn pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2000/63/EC (rheoliadau 3 i 5). Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd i'r offerynnau a bennir yn rheoliad 4, o ran cyfeiriadau yn yr offerynnau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 6). Nid oes unrhyw arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Notes: [1] 1990 p.16; diwygiwyd adran 6(4)(a) o'r Ddeddf gan Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), Atodlen 9, paragraff 6 a chan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), Atodlen 5, paragraff 10(3). Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); mae swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" yn arferadwy bellach, mewn perthynas â Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999; trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â'r Alban, i "the Scottish Ministers" gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46). Mae Rheoliad 13(4) o O.S. 2000/656 yn awdurdodi'r Ysgrifennydd Gwladol yn ddiamwys i ddiwygio'r Rheoliadau sy'n bodoli eisoes ac a wnaed gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (p'un ai gydag eraill neu beidio) o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.back [2] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413 ac O.S. 1999/1136.back [4] OJ Rhif L277, 30.10.2000, t. 1.back [7] O.S. 1966/1073; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [8] O.S. 1976/509; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [9] O.S. 1976/541; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [10] O.S. 1977/927; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [11] O.S. 1977/928; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [12] O.S. 1981/1063; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [13] O.S. 1984/1566; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [14] O.S. 1992/1978; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [15] O.S. 1996/1499 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0-11-090210-6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 30 May 2001 |