Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1786 (Cy.127)

      Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090247-5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1786 (Cy.127)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 1 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Mehefin 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985[1] ac a freiniwyd iddo i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru:[2]

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymym hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.

    (2) Mae'r Gorchymym hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Cyrff a bennir
    
2. Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156[3] o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon) - 

    (a) Battersea Park Mortgage Funding Limited - Rhif y Cymni 3530410

    (b) Richmond Park Mortgage Funding Limited - Rhif y Cymni 3597946



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mai 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn un pennu dau gorff yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu).

Mae adran 156 yn darparu bod yr atebolrwydd i ad-dalu gostyngiad a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn gyfystyr ag arwystl cyfreithiol ar y t annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol, sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu, flaenoriaeth drosto.

At ddibenion yr adran mae sefydliadau benthyca cymeradwy yn gymdeithasau adeiladu, yn fanciau, yn gwmnïau yswiriant, yn gymdeithasau cyfeillgar ac yn unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r cyrff hyn hefyd yn dod yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).

Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion lle diogelir hawl tenant i brynu a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle mae gan denant hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a benwyd yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion yr hawliau hynny.


Notes:

[1] 1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 (p.50), Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynylliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai, Datblygu Trefol 1993 (p.28).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090247-5


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 27 June 2001