Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1691 (Cy.121)

      Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090350 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1691 (Cy.121)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 1 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r cyrff hynny yr ymddengys iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.

Diwygio Rheoliadau blaenorol mewn perthynas â Chymru
    
2. Diwygir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru  - 

    (a) drwy fewnosod, ar ddiwedd y diffiniad o "the Directive" ym mharagraff (2) o reoliad 1 (teitl, cychwyn a dehongli), y geiriau "and by Commission Directive 1999/39/EC"[4]); a

           (b) yn rheoliad 5 (cynhyrchiad a chyfansoddiad bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod)  - 

      (i) drwy ddileu'r gair "or" ar ddiwedd paragraff (c)(ii); a

      (ii) drwy fewnosod, ar ddiwedd paragraff (d), y gair "or" a'i ddilyn gan y paragraff canlynol:

      " (e) which  - 

        (i) if it is manufactured as ready for consumption, contains, and

        (ii) if it is not so manufactured, would if reconstituted according to its manufacturer's instructions contain,

      residues of any individual pesticide at a level exceeding 0.01mg/kg.".



Llofnodwyd ar ran Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


Dafydd Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Mai 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997 mewn perthynas â Chymru, wrth weithredu Cyfarwyddeb 1999/39/EC y Comisiwn sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/5/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc.

Mae'r rheoliadau'n estyn y gwaharddiadau ar gynhyrchu a gwerthu yn Rheoliadau 1997 i fwyd o'r natur honno sy'n cynnwys gweddillion plaleiddiaid unigol dros lefel o 0.01 mg/kg, a fesurir pan fydd yn barod i'w ddefnyddio neu pan fydd wedi'i hailgyfansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr (rheoliad 2(b)), a diweddaru'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb 1996 (rheoliad 2(a)).

Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16. Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40).back

[2] Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/2042, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/275.back

[4] OJ Rhif L124, 18.5.1999, t.8.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090350 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 17 October 2001