Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090269 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r sefyliadau hynny y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddiannau sy'n debygol o gael eu heffeithio'n sylweddol gan y Rheoliadau, mae Cynylliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002. Diwygio Rheoliadau blaenorol mewn perthynas â Chymru 2. I'r graddau y mae Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995[3] yn gymwys i Gymru, fe'u diwygir drwy fewnosod -
(b) if it is not so manufactured, be such that it would, if reconstituted according to its manufacturer's instructions, contain,
residues of any individual pesticide at a level exceeding 0.01 mg/kg".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995 mewn perthynas â Chymru wrth weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/50/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/321/EC ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol. Mae'r Rheoliadau yn estyn y gofynion cyfansoddol ar gyfer y fformwlâu hyn sydd yn Rheoliadau 1995 drwy ychwanegu gofyniad na fyddant yn cynnwys gwaddodion plaleiddiaid unigol dros lefel o 0.01 mg/kg, wrth o'u mesur pan fyddant yn barod i'w defnyddio neu wrth eu hailgyfansoddi yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr (rheoliad 2(b)), ac maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol (rheoliad 2(a)). Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p. 16; diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40).back [2] Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1995/77 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [4] OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35.back [5] J Rhif L139, 2.6.1999, t.29.back
ISBN 0 11090269 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 18 July 2001 |