Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1660 (Cy. 119)

      Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090216-5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1660 (Cy. 119)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud am 6:05pm ar 2 Mai 2001 
  Yn dod i rym am 7:30pm ar 2 Mai 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) (Cymru) 2001; maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym am 7.30 o'r gloch ar 2 Mai 2001.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[3] i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn lle rheoliad 16(3) rhoddir y ddarpariaeth ganlynol - 

        " (3) Subject to the following paragraph, if an authorised officer of the Minister, the Agency or a local authority has reasonable grounds for believing that any product of animal origin does not comply with animal or public health conditions relating to import into Great Britain or the European Community he may, by means of a notice served on the person appearing to him to have charge of the consignment, prohibit the movement of the consignment except as specified in the notice.".

    (3) Yn lle rheoliad 20(3), rhoddir y ddarpariaeth ganlynol - 

        " (3) Where an authorised officer of the Minister or a local authority has reasonable grounds for believing that any product of animal origin does not comply with animal or public health conditions relating to import he may, by notice in writing, require the person appearing to be in charge of that product to destroy or re-export it , in each case under the control and direction of the authorised officer."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Jenny Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg

Arwyddwyd am 6:05pm ar 2 Mai 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/1324, fel y'u diwygiwyd) i estyn pwerau swyddogion awdurdodedig mewn perthynas â chynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'u mewnforio o drydydd gwledydd heblaw yn unol ag amodau iechyd anifeiliaid neu iechyd cyhoeddus.


Notes:

[1] O.S. 1972/1811.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2000/656. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090216-5


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 1 June 2001