Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001, ISBN 0 11090267 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1[1]) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(a) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru [2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Mai 2001 2001 a byddant yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
r yn unig fel y cyfrwng echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas) ac sy'n cynnwys cyfansoddion toddadwy ac aromatig coffi yn unig, heblaw'r sylweddau annhoddadwy hynny y mae'n amhosibl eu gwaredu ac olewau annhoddadwy sy'n deillio o goffi;
r yn unig fel y dull echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas);
(2) Mae'r holl gyfrannau a grybwyllir yn y Rheoliadau hyn yn gyfrannau a gyfrifir yn ôl eu pwysau ac, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, fe'u cyfrifir yn ôl cyfanswm pwysau'r cynnyrch.
(b) at ddibenion sefydliad arlwyo, neu (c) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;
Disgrifiadau neilltuedig
(b) bod y disgrifiad, y deilliad neu'r gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun a fyddai'n dangos yn ddiamwys neu drwy oblygiad clir mai dim ond un o gynhwysion y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n berthnasol iddo; neu (c) bod y disgrifiad, y deilliad neu'r gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun a fyddai'n dangos yn ddiamwys neu drwy oblygiad clir nad yw'r bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig nac yn cynnwys cynnyrch o'r fath.
Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig
(b) y gair "decaffeinated" yn achos cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o Ran I o'r Atodlen sydd wedi bod drwy broses ddigaffeinio ac nad yw'r caffein anhydrus gweddilliol sydd ynddo yn fwy na 0.30% o'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi; (c) yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I neu II o'r Atodlen y mae siwgr wedi'i ddefnyddio ynddo, y geiriau "with X", "preserved with X", "with added X" neu "roasted with X", fel y bo'n briodol, ac "X" yw enw'r cynnyrch siwgr a ddefnyddiwyd, a'r enw hwnnw fydd disgrifiad neilltuedig y cynnyrch hwnnw a bennir mewn perthynas ag ef yn Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976[4] neu, os nad oes gan y cynnyrch siwgr unrhyw ddisgrifiad neilltuedig o'r fath, enw'r cynnyrch a fyddai'n cael ei ddefnyddio, yn unol â Rheoliadau 1996, fel enw'r bwyd, petai'r cynnyrch siwgr ei hun yn cael ei werthu fel bwyd; (ch) yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 2 neu 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen, datganiad o leiafswm y sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi wedi'i fynegi fel canran; a (d) yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 2 neu 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen, datganiad o leiafswm y sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori wedi'i fynegi fel canran.
(2) Yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 25% o sylwedd sych sy'n deillio o goffi ac yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 45% o sylwedd sych sy'n deillio o sicori, gellir ychwanegu'r gair "concentrated" at y disgrifiad neilltuedig.
(b) na fyddai'r materion a oedd yn creu'r tramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978[6] petai'r Rheoliadau hynny wedi bod ar waith pan gafodd y bwyd ei farcio neu ei labelu.
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
(b) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta); (c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y'i cymhwysir at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf; (d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33 (rhwystro, etc. swyddogion); (f) adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod; (ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac (g) adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diwygio a diddymu
(b) yn Rheoliadau Bwyd (Diwygio Cosbau)1985[8], yn Atodlen 1, Rhan I; (c) yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990[9], yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12; (ch) yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991[10]), yn Atodlen 1, Rhan I; (d) yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Diddymiadau) 1992[11], yn Atodlen 1, Rhan I; (dd) yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[12]), yn Atodlen 9; (e) yn Rheoliadau 1996, rheoliad 49(7).
(3) Diddymir drwy hyn Reoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1982[13]) a Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1987 [14] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 1999/4/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag echdynion coffi ac echdynion sicori (OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.26). Maent yn diddymu Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru, ac yn eu disodli. 2. Mae'r Rheoliadau -
(b) yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, ac eithrio'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble (rheoliad 3); (c) yn cyfyngu ar werthu bwyd sy'n dwyn disgrifiad neilltuedig heblaw bwyd y mae'r disgrifiad yn berthnasol iddo (rheoliad 4); (ch) yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig gael eu cymhwyso at gynhyrchion dynodedig, ac yn rhagnodi'r dull sydd i'w ddefnyddio i'w marcio neu i'w labelu; mae darpariaethau penodol yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, sy'n llywodraethu dull labelu echdynion coffi ac echdynion sicori ac eithrio i'r graddau y ceir darpariaeth benodol ar ei gyfer yn y Rheoliadau hyn, yn cael eu cymhwyso at y gofynion penodol hyn (rheoliadau 5 a 6); (d) yn darparu ar gyfer cosbau a gorfodi, yn cynnwys darpariaeth drosiannol, ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol), yn cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac yn gwneud diwygiadau a diddymiadau (rheoliadau 7 i 11).
3.
Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] rosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion ("the Ministers") o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999 Rhif 672).back [3] OS 1996 Rhif 1499; OS 1998 Rhif 1398 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [4] OS 1976 Rhif 509; OS 1982 Rhif 255 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [5] OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.50.back [6] OS 1978 Rhif 1420; OS 1982 Rhif 254, 1987 Rhif 1986, 1990 Rhif 2486, 1991 Rhif 1476, 1992 Rhif 2596, 1995 Rhif 3187, 1996 Rhif 1499 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back
ISBN 0 11090267 X
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 13 July 2001 |