Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1424 (Cy.99)

      Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001, ISBN 0 11090252 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1424 (Cy.99)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001

  Wedi'u gwneud. 5 Ebrill 2001 
  Yn dod i rym 1 Mehefin 2001 


Trefn y Rheoliadau


RHAN I

RHAGARWEINIAD
1. Enwi a chychwyn
2. Dehongli

RHAN II

SWYDDOGAETHAU DISGYBLU Y CYNGOR
3. Sefydlu Pwyllgorau Ymchwilio
4. Dirprwyo swyddogaethau Pwyllgorau Ymchwilio
5. Sefydlu Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol
6. Sefydlu Pwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
7. Defnyddio'r Cod Ymarfer mewn materion disgyblu
8. Aelodaeth Pwyllgorau a'u gweithdrefn
9. Gwahardd neu gyfyngu pwerau Pwyllgorau
10. Trafodion Pwyllgorau Ymchwilio
11. Trafodion Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
12. Yr hawl i ymddangos mewn gwrandawiadau a chael cynrychiolydd yno
13. Presenoldeb tystion
14. Gofyniad bod gwrandawiadau'n cael eu cynnal yn gyhoeddus
15. Gweinyddu llwon a chadarnhadau
16. Darpariaethau eraill ynghylch gweithdrefn Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
17. Cyfeirio achosion at Bwyllgorau eraill
18. Gorchmynion disgyblu
19. Cyhoeddi gorchmynion disgyblu
20. Cais am amrywio amod mewn gorchymyn cofrestru amodol, neu am roi amod o'r neilltu
21. Canlyniadau methu â chydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol
22. Gorchmynion gwahardd
23. Adolygu gorchmynion disgyblu
24. Apelau
25. Gorchmynion disgyblu a wneir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr
26. Cyflwyno hysbysiadau a gorchmynion
27. Cyhoeddi dogfennau a darparu copïau ohonynt

RHAN III

DARPARU GWYBODAETH GAN GYFLOGWYR
28. Darparu gwybodaeth i'r Cyngor gan gyflogwyr

  ATODLEN Yr wybodaeth sydd i'w rhoi i'r Cyngor gan gyflogydd athro neu athrawes gofrestredig

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 5(2)(a) a (3), 6, 15 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1], a pharagraff 9 o Atodlen 1 ac Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac wedi ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

RHAGARWEINIAD

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2001.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    ystyr "achos disgyblu" ("disciplinary proceedings") mewn perthynas ag athro neu athrawes yng Nghymru neu Loegr yw achos disgyblu o dan Atodlen 2 i Ddeddf 1998;

    ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

    ystyr "y Gofrestr" ("the Register") yw'r gofrestr o athrawon y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1998 a Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 ac ystyr "cofrestru" ("registration") yw cofrestru yn y Gofrestr;

    ystyr "gorchymyn disgyblu" ("disciplinary order") mewn perthynas ag athro neu athrawes yng Nghymru neu Loegr yw "cerydd" ("a reprimand"), "gorchymyn cofrestru amodol" ("a conditional registration order"), "gorchymyn atal" ("a suspension order") neu "gorchymyn gwahardd" ("a prohibition order") o fewn ystyr Atodlen 2 i Ddeddf 1998;

    ystyr "Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol" ("Professional Competence Committee") yw pwyllgor a sefydlir o dan reoliad 6(1);

    ystyr "Pwyllgor Ymchwilio" ("Investigating Committee") yw pwyllgor a sefydlir o dan reoliad 3(1);

    ystyr "Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol" ("Professional Conduct Committee") yw pwyllgor a sefydlir o dan reoliad 5(1);

    mae i "sefydliad yn y sector addysg bellach" yr ystyr a roddir i "institution within the further education sector" gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[4];

    mae i "sefydliad yn y sector addysg uwch" yr ystyr ag a roddir i "institution within the higher education sector" gan adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

    mae i "tramgwydd perthnasol" yr un ystyr ag sydd i "relevant offence" yn Atodlen 2 i Ddeddf 1998;

    mae i "ymddygiad proffesiynol annerbyniol" yr un ystyr ag sydd i "unacceptable professional conduct" yn Atodlen 2 i Ddeddf 1998;

    mae i "ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol" yr un ystyr ag a roddir i "school maintained by a local education authority" yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[5];

    mae i "ysgol annibynnol" yr un ystyr ag sydd i "independent school" yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996[6]; ac

    mae i "ysgol arbennig" yr un ystyr ag sydd i "special school" yn adran 337(1) o Ddeddf Addysg 1996[7].

    (2) Yn rheoliadau 18 ac 28, ystyr "cyflogydd" ("employer") yw - 

    (a) person sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig i weithio fel athro neu athrawes - 

      (i) mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol,

      (ii) mewn ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,

      (iii) mewn sefydliad sy'n darparu addysg bellach neu uwch neu'r ddwy ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu sy'n sefydliad yn y sector addysg bellach, neu

      (iv) sefydliad yn y sector addysg uwch sy'n derbyn cymorth ariannol o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[8]);

    (b) awdurdod addysg lleol sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig i weithio fel athro neu athrawes heblaw mewn ysgol neu sefydliad sy'n dod o fewn is-baragraff (a);

    (c) awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad sydd o fewn is-baragraff (a) sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig mewn gwaith heblaw gwaith athro neu athrawes sy'n dod ag ef neu hi yn rheolaidd i gysylltiad â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed; ac

    (ch) person sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig mewn ysgol annibynnol, neu berchennog ysgol annibynnol sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig, i weithio fel athro neu athrawes neu mewn gwaith arall sy'n dod ag ef neu hi yn rheolaidd i gysylltiad â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed, ac mae'n cynnwys person sy'n rhoi gwaith i athro neu athrawes gofrestredig (neu'n trefnu rhoi gwaith iddynt) i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir "cyflogi" a "cyflogir" ("employed") yn unol â hynny.

    (3)

    (a) Yn rheoliadau 7, 8 a 9 ystyr "Pwyllgor" ("Committee") yw Pwyllgor Ymchwilio, Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol; a

    (b) yn rheoliadau 11 i 16, 18 a 23 a pharagraff 8 i'r Atodlen ystyr "Pwyllgor" ("Committee") yw Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol.

    (4) Yn rheoliadau 11 i 15 ystyr "gwrandawiad" ("hearing") yw gwrandawiad achos disgyblu yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, neu wrandawiad o dan reoliad 20, 21 neu 22.

    (5) Yn rheoliadau 8 ac 28 ystyr "athro neu athrawes gofrestredig" ("registered teacher") yw person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998, ac yng ngweddill y Rheoliadau hyn mae'n golygu - 

    (a) person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;

    (b) person a oedd wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 adeg unrhyw ymddygiad neu dramgwydd honedig ar ei ran; neu

    (c) person sydd wedi gwneud cais am gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998.

    (6) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at - 

    (a) yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

    (b) rheoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

    (c) paragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y gwelir y cyfeiriad ynddi neu ynddo; ac

    (ch) is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is- baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.



RHAN II

SWYDDOGAETHAU DISGYBLU Y CYNGOR

Sefydlu Pwyllgorau Ymchwilio
     3.  - (1) Rhaid i'r Cyngor sefydlu un neu ragor o bwyllgorau i'w galw'n Bwyllgorau Ymchwilio er mwyn cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

    (2) Swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio yw - 

    (a) cynnal unrhyw ymchwiliadau a welant yn dda mewn achosion - 

      (i) pan honnir bod athro neu athrawes gofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu eu bod wedi'u collfarnu (ar unrhyw adeg) o dramgwydd perthnasol, neu

      (ii) pan yw'n ymddangos iddynt y gall athro neu athrawes gofrestredig fod yn euog fel hyn neu wedi'u collfarnu fel hyn; a

    (b) penderfynu, yng ngoleuni eu hymchwiliadau - 

      (i) a oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu gollfarn am dramgwydd perthnasol, ac a ddylai'r achos gael ei gyfeirio at Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer dyfarniad,

      (ii) a oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb mewn perthynas ag anghymhwysedd proffesiynol difrifol, ac a ddylai'r achos gael ei gyfeirio at Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer dyfarniad,

      (iii) a oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu gollfarn am dramgwydd perthnasol ac mewn perthynas ag anghymhwysedd proffesiynol difrifol, ac a ddylai'r achos gael ei gyfeirio at naill ai Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer dyfarniad, fel y gwelant yn dda,

      (iv) a oes gan athro neu athrawes gofrestredig ddim achos i'w ateb ac y dylai'r achos yn eu herbyn gael ei ollwng, neu

      (v) a ddylai'r achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig gael ei ollwng ar sail arall.

Dirprwyo swyddogaethau Pwyllgorau Ymchwilio
    
4.  - (1) Caiff Pwyllgor Ymchwilio ddirprwyo'r swyddogaethau canlynol i un o weithwyr cyflogedig y Cyngor - 

    (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys wrth i un o weithwyr cyflogedig y Cyngor arfer swyddogaeth fel y byddent yn gymwys wrth i Bwyllgor Ymchwilio arfer y swyddogaeth honno.

Sefydlu Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol
    
5.  - (1) Rhaid i'r Cyngor sefydlu un neu ragor o bwyllgorau i'w galw'n Bwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

    (2) Swyddogaethau Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yw - 

Sefydlu Pwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
    
6.  - (1) Rhaid i'r Cyngor sefydlu un neu ragor o bwyllgorau i'w galw'n Bwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

    (2) Swyddogaethau Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol yw - 

Defnyddio'r Cod Ymarfer mewn materion disgyblu
    
7. Caiff Pwyllgor gymryd i ystyriaeth unrhyw fethiant gan athro neu athrawes gofrestredig i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer mewn unrhyw achos disgyblu yn erbyn yr athro hwnnw neu'r athrawes honno.

Aelodaeth Pwyllgorau a'u gweithdrefn
    
8.  - (1) Rhaid i'r Cyngor gynnwys ar Bwyllgor - 

    (2) Nid yw person nad yw, yn rhinwedd rheoliad 5(2) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999[9], yn gymwys i fod yn aelod o'r Cyngor nac i bleidleisio mewn etholiad ar gyfer aelodau etholedig o'r Cyngor yn gymwys i fod yn aelod o Bwyllgor.

    (3) Tri aelod fydd y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor, gan gynnwys un aelod lleyg, un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac os nad oes aelod lleyg neu aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig sy'n bresennol yn aelod o'r Cyngor, un aelod o'r Cyngor.

    (4) Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o Bwyllgor Ymchwilio sy'n ymchwilio i achos yn aelod o'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu'r Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol a fydd yn penderfynu ar yr achos hwnnw.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 20 a 22, caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth a welant yn dda ynghylch y canlynol - 

    (a) aelodaeth Pwyllgor;

    (b) ar ba delerau y mae aelodau Pwyllgor i ddal eu swydd ac ymadael â hi; ac

    (c) gweithdrefn Pwyllgor.

    (6) Yn y rheoliad hwn - 

    (a) ystyr "aelod lleyg" yw aelod o'r Pwyllgor - 

      (i) nad yw'n athro neu'n athrawes gofrestredig, nac ychwaith

      (ii) wedi'i gyflogi, neu wedi cael gwaith yn darparu gwasanaethau heblaw o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes neu wedi'i gyflogi neu wedi cael gwaith felly yn ystod y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad y penodir y person hwnnw i'r Pwyllgor,

    ac ni fydd aelod lleyg sy'n dod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n ymgymryd â swydd fel athro neu athrawes neu y rhoddir gwaith iddo neu iddi fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried yn aelod lleyg mwyach;

    (b) ystyr "aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig" yw aelod o'r Pwyllgor - 

      (i) sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig, a

      (ii) a gyflogir, neu y rhoddwyd gwaith iddynt yn darparu gwasanaethau heblaw o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes ar ddyddiad penodi'r person hwnnw i'r Pwyllgor,

    ac ni fydd aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac sy'n peidio â bod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n rhoi'r gorau i swydd athro neu athrawes neu i waith a roddwyd iddo neu iddi fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried yn aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig mwyach; ac

    (c) ystyr "aelod o'r Cyngor" yw aelod o'r Pwyllgor sy'n aelod o'r Cyngor.

Gwahardd neu gyfyngu pwerau Pwyllgorau
     9.

    (1) Mae swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan y Rheoliadau hyn wedi eu gwahardd mewn achos - 

    (2) Mae swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan y Rheoliadau hyn wedi eu gwahardd mewn achos

    (a) pan honnir bod athro neu athrawes gofrestredig yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu pan yw'n ymddangos iddynt y gall athro neu athrawes gofrestredig fod yn euog fel hyn; ond

    (b) nad oes gwybodaeth wedi'i rhoi i'r Cyngor yn unol â rheoliad 28 mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno.

Trafodion Pwyllgorau Ymchwilio
     10.  - (1) Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu cynnal ymchwiliad mewn perthynas ag athro neu athrawes gofrestredig, rhaid iddynt, mewn unrhyw gam o'r ymchwiliad a welant yn dda - 

    (2) Caiff Pwyllgor Ymchwilio benderfynu gollwng ymchwiliad ar unrhyw adeg cyn i achos gael ei gyfeirio ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol.

    (3) Pan fydd eu hymchwiliad wedi'i gwblhau, rhaid i'r Pwyllgor Ymchwilio gymryd un o'r camau canlynol - 

    (4) Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu gollwng ymchwiliad neu achos, rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes gofrestredig o dan sylw, ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes a ydynt wedi penderfynu nad oedd ganddynt achos i'w ateb.

    (5) Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu nad oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb, os bydd ef neu hi'n gwneud cais, rhaid iddynt gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.

    (6) Caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth arall a welant yn dda ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn gan Bwyllgor Ymchwilio mewn cysylltiad â'u hymchwiliadau a'u trafodion eraill, ac o bryd i'w gilydd cânt ddiwygio unrhyw reolau gweithdrefn a wneir o dan y paragraff hwn.

Trafodion Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
    
11.  - (1) Rhaid i Bwyllgor benderfynu achosion yn erbyn athrawon cofrestredig a gyfeirir atynt gan Bwyllgor Ymchwilio yn unol â pharagraffau (2) i (6), rheoliadau 12 i 15 a rheolau a wneir gan y Cyngor o dan reoliad 16.

    (2) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3), rhaid i Bwyllgor benderfynu ar bob achos, pob cais o dan reoliad 20 neu 22 neu bob mater sy'n codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliad 21 ar ôl gwrandawiad.

    (3) Caiff Pwyllgor benderfynu ar achos, cais o dan reoliad 20 neu 22 neu fater sy'n codi mewn perthynas â gorchymyn disgyblu o dan reoliad 21 heb wrandawiad ar gais ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes gofrestredig y mae'r achos disgyblu'n cael ei ddwyn yn eu herbyn neu y cafodd y gorchymyn disgyblu ei wneud yn eu herbyn onid yw'n ymddangos iddynt ei bod yn angenrheidiol cynnal gwrandawiad cyhoeddus er lles cyfiawnder neu er lles y cyhoedd.

    (4) Ar unrhyw adeg ar ôl i achos gael ei gyfeirio atynt gan Bwyllgor Ymchwilio, caiff Pwyllgor benderfynu gollwng yr achos hwnnw, ac os penderfynant ollwng achos rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes o dan sylw, ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod ar yr un pryd i'r athro neu'r athrawes a ydynt wedi penderfynu nad oedd yna achos yn eu herbyn.

    (5) Pan fyddant yn dyfarnu bod yr achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig heb ei brofi, os bydd yr athro neu'r athrawes gofrestredig yn gwneud cais, rhaid i Bwyllgor gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.

    (6) Pan fyddant yn dyfarnu bod athro neu athrawes gofrestredig - 

caiff Pwyllgor wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno yn unol â rheoliad 18.

Yr hawl i ymddangos mewn gwrandawiadau a chael cynrychiolydd yno
    
12.

    (1) Mae gan athro neu athrawes gofrestredig hawl i ymddangos a chyflwyno sylwadau llafar a chael eu cynrychioli gan unrhyw berson neu bersonau a ddymunant mewn unrhyw wrandawiad gan y Pwyllgor lle y mae eu hachos yn cael ei ystyried.

    (2) Os nad yw athro neu athrawes gofrestredig yn ymddangos mewn gwrandawiad gan y Pwyllgor lle y mae eu hachos yn cael ei ystyried, mae gan yr athro neu'r athrawes hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

Presenoldeb tystion
    
13. Caiff Pwyllgor ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bresennol ac yn rhoi tystiolaeth neu'n cyflwyno dogfennau neu dystiolaeth berthnasol arall mewn unrhyw wrandawiad.

Gofyniad bod gwrandawiadau'n cael eu cynnal yn gyhoeddus
    
14.  - (1) Rhaid i Bwyllgor gyhoeddi eu dyfarniad ar ganlyniad pob gwrandawiad yn gyhoeddus ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid cynnal holl wrandawiadau Pwyllgor yn gyhoeddus.

    (2) Caiff Pwyllgor ystyried yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod gwrandawiad neu ar ei ôl.

    (3) Caiff Pwyllgor wahardd y cyhoedd o wrandawiad neu o unrhyw ran o wrandawiad - 

Gweinyddu llwon a chadarnhadau
    
15. Caiff Pwyllgor ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dyst mewn gwrandawiad roi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad ac at y diben hwnnw gall llw neu gadarnhad ar ffurf briodol gael ei weinyddu.

Darpariaethau eraill ynghylch gweithdrefn Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
    
16. Caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth arall a welant yn dda ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn gan Bwyllgor mewn cysylltiad â'u dyfarniadau ac achosion eraill, ac o bryd i'w gilydd cânt ddiwygio unrhyw reolau gweithdrefn a wneir o dan y paragraff hwn.

Cyfeirio achosion at Bwyllgorau eraill
    
17.  - (1) Caiff Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol gyfeirio achos ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, a chaiff Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol gyfeirio achos ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol.

    (2) Caiff Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol gyfeirio achos at Bwyllgor Ymchwilio.

Gorchmynion disgyblu
    
18.  - (1) Rhaid i orchymyn disgyblu gofnodi penderfyniad y Pwyllgor, y dyddiad y gwneir y gorchymyn, a'r dyddiad y mae effaith y gorchymyn yn dechrau.

    (2) Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn cofrestru amodol bennu'r holl amodau sy'n berthnasol i'w cyflogaeth fel athro neu athrawes y mae'n rhaid i'r athro neu'r athrawes gofrestredig gydymffurfio â hwy, ac mewn perthynas â phob amod o'r fath, naill ai'r cyfnod y mae'n effeithiol, neu ei fod yn effeithiol heb derfyn amser (yn ôl fel y digwydd).

    (3) Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn atal bennu ymhen pa gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) y daw'r athro neu'r athrawes yn gymwys ar gyfer cofrestru eto.

    (4) Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn gwahardd bennu'r cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na dwy flynedd yn dechrau ar y dyddiad y bydd effaith y gorchymyn yn dechrau) pryd na chaiff cais gael ei wneud am ddyfarniad bod yr athro neu'r athrawes yn gymwys ar gyfer cofrestru.

    (5) Ac eithrio lle bydd Pwyllgor yn penderfynu fel arall, bydd effaith gorchymyn disgyblu'n dechrau ar y dyddiad y caiff hysbysiad amdano ei gyflwyno i'r person y mae'n cael ei wneud mewn perthynas ag ef.

    (6) Rhaid i Bwyllgor - 

    (7) Ar ôl i Bwyllgor ddyfarnu ar achos, os penderfynant beidio â gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas ag athro neu athrawes gofrestredig, rhaid i'r Pwyllgor roi gwybod am eu penderfyniad i'r athro neu'r athrawes gan gynnwys y rhesymau dros wneud y penderfyniad ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod iddynt ar yr un pryd a ydynt wedi penderfynu nad yw'r achos yn eu herbyn wedi'i brofi.

    (8) Os nad ydynt yn dyfarnu bod yr achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig wedi'i brofi, os yw'r athro neu'r athrawes gofrestredig yn gwneud cais, rhaid i'r Pwyllgor gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.

Cyhoeddi gorchmynion disgyblu
    
19.  - (1) Caiff y Cyngor gyhoeddi'r wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas â gorchymyn disgyblu - 

    (2) Yr wybodaeth sydd i gael ei chyhoeddi yw - 

Cais am amrywio amod mewn gorchymyn cofrestru amodol, neu am roi amod o'r neilltu
    
20.  - (1) Caiff athro neu athrawes gofrestredig y mae gorchymyn cofrestru amodol wedi'i wneud mewn perthynas â hwy wneud cais i'r Cyngor am amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

    (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r athro neu'r athrawes gofrestredig yn gofyn am amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.

    (3) Os cafodd gorchymyn cofrestru amodol y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

    (4) Os cafodd gorchymyn cofrestru amodol y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

Canlyniadau methu â chydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol
    
21. Os yw Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol wedi'u bodloni bod athro neu athrawes gofrestredig y mae gorchymyn cofrestru amodol wedi'i wneud yn eu herbyn wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw amod ynddo, gallant wneud gorchymyn gwahardd neu atal mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes.

Gorchmynion gwahardd
    
22.  - (1) Caiff person y mae gorchymyn gwahardd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wneud cais i'r Cyngor am ddyfarniad ei fod yn gymwys i'w gofrestru.

    (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r person yn gofyn am y dyfarniad, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.

    (3) Os cafodd gorchymyn gwahardd y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

    (4) Os cafodd gorchymyn gwahardd y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

Adolygu gorchmynion disgyblu
    
23. Caiff Pwyllgor benderfynu eu hunain ar unrhyw adeg i ddiddymu gorchymyn disgyblu a wnaed ganddynt - 

Apelau
    
24. Bydd gan unrhyw berson a dramgwyddir gan orchymyn disgyblu sydd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef hawl i apelio yn erbyn y gorchymyn i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y caiff hysbysiad y gorchymyn ei gyflwyno iddo.

Gorchmynion disgyblu a wneir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr
    
25. Bydd gorchymyn disgyblu a wneir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr neu gan un o bwyllgorau'r Cyngor hwnnw yn gymwys mewn perthynas â Chymru fel y mae'n gymwys mewn perthynas â Lloegr.

Cyflwyno hysbysiadau a gorchmynion
    
26.  - (1) Gall unrhyw beth y mae'n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion achos disgyblu - 

    (2) At ddibenion rheoliadau 18(5) a 24 cymerir bod hysbysiadau gorchymyn disgyblu wedi'u cyflwyno i'r person y cafodd ei wneud mewn perthynas ag ef - 

Cyhoeddi dogfennau a darparu copïau ohonynt
    
27.  - (1) Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi - 

unrhyw reolau am y gweithdrefnau a wneir o dan reoliadau 10(6) neu 16 ac unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan reoliad 8(5), ac os bydd unrhyw athro neu athrawes gofrestredig yn gofyn, rhaid iddynt roi copi iddynt o'r rheolau hynny neu'r ddarpariaeth honno yn ddi-dâl.

    (2) Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol iddynt ei gyhoeddi o dan reoliad 10(5), 11(5) neu 18(8) ar wefan a gedwir ganddynt ar y rhyngrwyd, ac os dymunant cânt gyhoeddi'r datganiad mewn unrhyw fodd arall a welant yn dda.



RHAN III

DARPARU GWYBODAETH GAN GYFLOGWYR

Darparu gwybodaeth i'r Cyngor gan gyflogwyr
    
28.  - (1) O dan yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2), rhaid i gyflogydd athro neu athrawes gofrestredig roi i'r Cyngor gopïau o'r holl ddogfennau ac eitemau sydd wedi'u rhestru yn yr Atodlen sydd ar gael i'r cyflogydd mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno.

    (2) Yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn yw - 

    (a) bod y cyflogydd wedi diswyddo'r athro neu'r athrawes ar sail anghymhwysedd; neu

    (b) bod yr athro neu'r athrawes wedi ymddiswyddo mewn amgylchiadau lle y byddai'r cyflogydd wedi diswyddo neu wedi ystyried diswyddo yr athro neu'r athrawes, pe na bai wedi ymddiswyddo, ar sail o'r fath.

    (3) Rhaid i'r Cyngor drefnu bod yr holl wybodaeth a roddir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.

    (4) Yn y rheoliad hwn, mae "cyflogydd" yn cynnwys cyn-gyflogydd.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11].


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2001



ATODLEN
Rheoliad 28


Yr wybodaeth sydd i'w rhoi i'r Cyngor gan gyflogydd athro neu athrawes gofrestredig


     1. Llythyr neu hysbysiad yn terfynu cyflogaeth athro neu athrawes gofrestredig.

     2. Datganiad o'r rhesymau dros y diswyddo.

     3. Cofnodion y cyflogydd ynghylch y diswyddo neu unrhyw ddiswyddo a ystyriwyd, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweliadau, a thystiolaeth a roddwyd i'r cyflogydd neu a sicrhawyd ganddynt.

     4. Cofnodion y cyflogydd ynghylch ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at ddiswyddo athro neu athrawes gofrestredig neu a fyddai wedi arwain y cyflogydd i ddiswyddo'r athro neu'r athrawes neu i ystyried eu diswyddo oni bai bod yr athro neu'r athrawes wedi ymddiswyddo, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweliadau, a thystiolaeth a roddwyd i'r cyflogydd neu a sicrhawyd ganddynt.

     5. Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau'r cyflogydd a roddwyd i athro neu athrawes gofrestredig mewn perthynas â diswyddo'r athro neu'r athrawes neu mewn perthynas ag ystyried eu diswyddo, neu mewn perthynas â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at ddiswyddo'r athro neu'r athrawes neu a fyddai wedi arwain y cyflogydd i'w diswyddo neu i ystyried eu diswyddo, oni bai eu bod wedi ymddiswyddo, ac atebion neu sylwadau'r athro neu'r athrawes mewn perthynas â hwy.

     6. Unrhyw ddatganiadau, sylwadau a thystiolaeth arall a gyflwynwyd gan athro neu athrawes gofrestredig i'r cyflogydd mewn perthynas â diswyddo'r athro neu'r athrawes neu mewn perthynas ag ystyried eu diswyddo, neu mewn perthynas â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at ddiswyddo'r athro neu'r athrawes neu a fyddai wedi arwain y cyflogydd i'w diswyddo neu i ystyried eu diswyddo oni bai eu bod wedi ymddiswyddo.

     7. Llythyr ymddiswyddo.

     8. Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd ym marn y cyflogydd yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad y gallai Pwyllgor Ymchwilio ei gynnal neu unrhyw achos y gallai Bwyllgor ei ddwyn yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, corff corfforaethol a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 gyda'r nodau o gyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon er lles y cyhoedd.

Yn Rhan II gwneir darpariaeth i bwyllgorau'r Cyngor arfer y pwerau disgyblu a roddir i'r Cyngor gan Ddeddf 1998 mewn perthynas ag athrawon cofrestredig a phersonau sy'n gwneud cais am gofrestru i'r Cyngor. Darperir ar gyfer sefydlu un neu ragor o bob un o'r mathau canlynol o bwyllgor - 

    (a) Pwyllgorau Ymchwilio, a fydd yn ymchwilio i athrawon cofrestredig, ac yn penderfynu a ddylid dwyn achos yn eu herbyn, pan honnir bod yr athro neu'r athrawes yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu eu bod wedi'u collfarnu (ar unrhyw adeg) o dramgwydd perthnasol, neu pan yw'n ymddangos iddynt y gall athro neu athrawes gofrestredig fod yn euog fel hyn neu eu bod wedi'u collfarnu fel hyn;

    (b) Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol, a fydd yn gwrando achosion disgyblu proffesiynol ynghylch ymddygiad proffesiynol annerbyniol a thramgwyddau perthnasol ac y bydd ganddynt b er i wneud gorchmynion disgyblu (gorchmynion gwahardd, gorchmynion atal, gorchmynion cofrestru amodol neu geryddon) a gwrando ceisiadau mewn perthynas â hwy; ac

    (c) Pwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol, a fydd yn gwrando achosion disgyblu ynghylch anghymhwysedd proffesiynol difrifol, ac y bydd ganddynt b er i wneud gorchmynion disgyblu, a gwrando ceisiadau mewn perthynas â hwy.

Mae Rhan II hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad y Pwyllgorau hyn ac i'r Cyngor wneud darpariaeth bellach ynghylch materion cyfansoddiadol (rheoliad 8). Mae rheoliad 9 yn gwahardd Pwyllgorau Ymchwilio rhag arfer eu swyddagaethau mewn rhai achosion. Mae Rheoliadau 10 i 15 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodion y Pwyllgorau, gan gynnwys gwrandawiadau, ac mae rheoliad 16 yn galluogi'r Cyngor i wneud darpariaeth bellach ynghylch trafodion. Mae rheoliadau 18 i 23 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion disgyblu. Mae rheoliad 24 yn darparu bod gan berson y gwnaed gorchymyn disgyblu yn ei erbyn hawl i apelio i'r Uchel Lys.

Mae Rhan III yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyflogwyr penodol athrawon cofrestredig roi'r wybodaeth a restrir yn yr Atodlen i'r Cyngor pan fyddant yn diswyddo athro neu athrawes gofrestredig ar sail anghymhwysedd neu lle y byddent wedi eu diswyddo neu wedi ystyried eu diswyddo pe na baent wedi ymddiswyddo gyntaf.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae adrannau 5 a 6 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911) o 30 Rhagfyr 1998 yn achos Atodlen 1, a 1 Medi 2000 yn achos gweddill y darpariaethau. Diwygiwyd adran 15 gan adran 5(4) o Ddeddf Diogelu Plant 1999 (p.14). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/1979 (Cy. 140).back

[4] 1992 p.13.back

[5] 1998 p.31.back

[6] 1996 p.36; diwygiwyd adran 463 gan baragraffau 57 a 124 o Atodlen 30 a chan Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[7] 1996 p.36; diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[8] 1992 p.13; diwygiwyd adran 65 gan Ddeddf Camwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50) a Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).back

[9] O.S. 1999/1619 a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3185 (Cy.43).back

[10] 1988 p.40. Diwygiwyd adran 218(6) gan adran 290(3) o Ddeddf Addysg 1993 (p.35) a chan adran 5(4) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14). Y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) 2000, O.S. 2000/2419, sy'n gymwys i Gymru a Lloegr.back

[11] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090252 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 6 July 2001