Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1423 (Cy.98)

      Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090209-2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1423 (Cy.98)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 5 Ebrill 2001 
  Yn dod i rym 1 Mai 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Mai 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    ystyr "Rheoliadau 1986" ("the 1986 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986[3].

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1997
     2. Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 (dehongli), yn y diffiniad o "NHS sight test fee", yn lle'r swm "£42.79" rhowch "£42.85" ac yn lle'r swm "£15.46" rhowch "£15.52".

    
3.  - (1) Caiff rheoliad 12 o Reoliadau 1997 (defnyddio talebau ar gyfer cyflenwi cyfarpar optegol) ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (1) yn lle "paragraphs (4) and (5)", rhowch "paragraphs (4), (5) and (6)".

    (3) Ar ôl paragraff (5) ychwanegwch - 

     4. Ar ddiwedd rheoliad 13 o Reoliadau 1997 (taliadau i gyflenwyr), ychwanegwch - 

     5. Yn rheoliad 16 o Reoliadau 1997 (cwblhau talebau), yn lle paragraffau (2) a (3) rhowch - 

     6. Ar ddiwedd rheoliad 18 o Reoliadau 1997 (taliadau i gyflenwyr am amnewid a thrwsio), ychwanegwch - 

Diwygio Rheoliadau 1986
    
7. Yn rheoliad 2 o Reoliadau 1986 (dehongli), caiff y canlynol ei fewnosod yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor - 

     8.  - (1) Caiff rheoliad 6 o Reoliadau 1986 (rhestr offthalmig) ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (3)(b) ar ôl "provide general ophthalmic services" ychwanegwch ", or in the case of a mobile practice, the address to which correspondence in connection with such provision may be sent, and the addresses of any day or residential centres they intend to visit more than once; ".

    (3) Ym mharagraff (3)(c) ar ôl "at those addresses" ychwanegwch ", or in the case of day or residential centres, the months in which such visits are intended to take place and the planned interval between such visits;".

    
9.  - (1) Caiff rheoliad 13A (profion golwg - ceisiadau), ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Yn lle paragraff 4(a) rhowch - 

    (3) Ar ôl paragraff (5) ychwanegwch y paragraffau canlynol - 

     10. Yn lle rheoliad 16 (cyflwyno dogfennau i gontractwyr) rhowch - 

     11.  - (1) Caiff Atodlen 1 (telerau gwasanaeth) ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Ym mharagraff 2 (ymgorffori darpariaethau) - 

    (3) Ym mharagraff 3 (safleoedd lle mae gwasanaethau offthalmig cyffredinol i gael eu darparu) yn lle is-baragraff (2) rhowch - 

        " (2) Where requested to do so by or on behalf of a patient, who is - 

      (a) unable to leave home unaccompanied because of physical or mental illness or disability, a contractor may agree to provide general ophthalmic services at the place at which the patient normally resides; or

      (b) attending a day centre, a contractor may agree to provide general ophthalmic services at that day centre.".

    (4) ar ôl paragraff 3 mewnosodwch y paragraff canlynol - 

    (5) Ym mharagraff 4 (safleoedd ac offer) - 

    (6) Ym mharagraff 5 (hysbysiadau), yn lle "the National Health Service (Optical Charges and Payments) Regulations 1989" rhowch "the National Health Service (Optical Charges and Payments) Regulations 1997".

    (7) Yn lle paragraff (6) (cofnodion) rhowch - 

    (8) Ym mharagraff 10 (profi'r golwg), yn is-baragraff (2) yn lle "he shall so inform the patient's doctor" rhowch "he shall, if appropriate, and with the consent of the patient, inform the patient's doctor of his opinion.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986") . Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol. Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o "NHS sight test fee" yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 er mwyn adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofion golwg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr ar yr adeg y daw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol ar gyfer penderfynu ar y cymhwyster i gael taleb tuag at gost prawf golwg a gwerth y daleb ar gyfer adbrynu.

Yn rheoliadau 3 a 5 gwneir diwygiadau i Reoliadau 1997 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r cyflenwr ofyn i'r claf roi tystiolaeth ddigonol ei fod yn berson cymwys pan fydd yn cyflwyno taleb i gael cyfarpar optegol o dan y rheoliadau, oni bai bod gan y cyflenwr dystiolaeth foddhaol eisoes, mewn achosion heblaw achosion lle y mae'r claf yn gymwys yn rhinwedd ei ddiffyg adnoddau ariannol. Os nad yw'r claf yn gwneud hyn, rhaid i'r cyflenwr gofnodi'r ffaith honno ar y daleb.

Mae rheoliadau 4 a 6 yn diwygio Rheoliadau 1997 er mwyn darparu y gall taliadau, yn ôl cyfradd sydd i'w phenderfynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu rhoi i gyflenwyr am wneud y gwiriadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliadau 3 a 5.

Gwneir nifer o ddiwygiadau i Reoliadau 1986. Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 1986 er mwyn mewnosod diffiniadau ychwanegol.

Mae rheoliad 8 yn gosod gofynion ychwanegol mewn perthynas â phractisau symudol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 13A i ddarparu bod rhaid i gontractiwr ofyn i'r claf roi tystiolaeth foddhaol o'r hawl bod y claf yn berson cymwys pan fydd yn gwneud cais am brawf golwg o dan y Rheoliadau, oni bai bod gan y contractiwr dystiolaeth foddhaol eisoes, mewn achosion heblaw achosion lle y mae'r claf yn gymwys yn rhinwedd ei ddiffyg adnoddau ariannol. Os nad yw'r claf yn gallu dangos tystiolaeth o'r fath, rhaid i'r contractiwr gofnodi'r ffaith honno ar ffurflen y prawf golwg. Hefyd, os yw'r contractiwr wedi cynnal y prawf yng nghartref y claf, rhaid i'r contractiwr gofnodi'r rheswm na allai'r claf ymadael â'i gartref ar ei ben ei hun ar ffurflen y prawf golwg.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio rywfaint ar y telerau gwasanaeth a nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau 1986.

Mae paragraff 3 o'r Atodlen yn cael ei ddiwygio i ganiatáu i gontractwyr gytuno, o dan amgylchiadau penodedig, i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol mewn canolfannau dydd neu mewn man lle y mae'r claf yn preswylio fel rheol. Gwneir darpariaeth mewn paragraff 3A newydd i'w gwneud yn ofynnol i bractisau symudol roi gwybod ymlaen llaw i Awdurdod Iechyd os ydynt yn bwriadu ymweld â chanolfannau dydd neu ganolfannau preswyl yn ardal yr Awdurdod Iechyd hwnnw.

Mae paragraff 4 yn cael ei ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol i bractisau symudol ddarparu offer addas ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol ac i'r offer gael ei archwilio, ynghyd â'u cyfleusterau, gan berson a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan yr Awdurdod Iechyd.

Mae paragraff 6 yn cael ei ddiwygio i ddarparu bod rhaid i gofnodion gael eu cadw a'u cadw'n ddiogel, a bod rhaid eu dangos i gael eu harchwilio gan berson a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan yr Awdurdod Iechyd.

Mae paragraff 10 yn cael ei ddiwygio fel na all gwybodaeth gael ei rhoi i feddyg claf yn sgil prawf golwg oni bai ei bod yn briodol gwneud hynny, a hyn gyda chydsyniad y claf.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27.

Estynnwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, Rhan I, paragraff 52; gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1);

Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3).

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 a 2000/3119.back

[3] O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/486, 1989/395, 1989/1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705, 1996/2320, 1999/693 a 1999/2481.back

[4] O.S.1997/818back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090209-2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 30 May 2001