Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090254 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[1]. Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn:
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(b) adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n perthyn i ddarpariaethau Atodlen 4 y cyfeirir atynt yn is-baragraff (g) isod; (c) adran 57 (diwygiadau i Ddeddf 1980 ac i Ddeddfau eraill) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r amnewidiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (ng) ac (h) isod; (ch) adran 68 (mynediad cerbydau ar draws tir comin); (d) adran 70(2) a (4) (mân ddiwygiadau); (dd) adran 72 (darpariaethau dehongli Rhan II); (e) Rhan IV (dynodi a rheoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol)(ac felly Atodlenni 13, 14 a 15); (f) adran 96 (diwygiadau i adran 39 o Ddeddf 1981); (ff) adran 102 i'r graddau y mae'n perthyn i'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (o) isod ; (g) paragraffau 1, 4, 5 a 6 o Atodlen 4; (ng) paragraff 18(a) o Atodlen 6 (diwygiadau i Ddeddf 1980) i'r graddau y mae'n amnewid am "118, 119," yn adran 325(1)(d) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at adrannau 118, 118A, 119 a 119A; (h) paragraff 19 o Atodlen 6 i'r graddau y mae'n amnewid am "gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus" yn adran 326(5) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at orchymyn diddymu croesfan reilffordd, gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus a gorchymyn gwyro croesfan reilffordd; (i) Rhan I o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i fynediad i gefn gwlad) ac eithrio i'r graddau y mae'n diddymu:
(ii) paragraff 35A o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[6]; a (iii) paragraff 13 o Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994[7];
(l) Rhan II o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) i'r graddau y mae'n diddymu adran 22(1)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 [8]);
Darpariaeth drosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai dapariaethau penodol o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Mai 2001, sef: (1) adran 57, mewn perthynas â pharagraff 18 ac 19 o Atodlen 6 (sy'n diwygio Deddf Priffyrdd 1980), (2) paragraffau 18(a) a 19 o Atodlen 6 i'r graddau y maent yn gwneud newidiadau mewn perthynas â gorchmynion diddymu a gwyro croesfannau rheilffordd, (3) adran 68 (sy'n perthyn i fynediad gan cerbydau ar draws tir comin), (4) adran 72 (sy'n cynnwys darpariaethau dehongli ar gyfer Rhan II o'r Ddeddf), (5) Rhan IV o'r Ddeddf, ac Atodlenni 13 a 14 iddi (sy'n diwygio'r gyfraith mewn perthynas ag ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol), (6) adran 102 (sy'n cyflwyno'r Atodlen diddymiadau) mewn perthynas â rhai diddymiadau yn Atodlen 16, (7) rhai diwygidau mân a chanlyniadol eraill i'r gyfraith. Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn sicrhau y bydd adran 134(5) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (sy'n cyfyngu'r personau sydd â'r hawl i erlyn tramgwydd o dan adran 134(4) o'r Ddeddf honno) yn dal yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau a gyflawnwyd cyn 1 Mai 2001. Notes: [1] 2000 p.37back
ISBN 0 11090254 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 6 July 2001 |