Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090217-3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a hefyd yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Cyngor neu yn Rheoliad y Comisiwn.
(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig os dygwyd y braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth EEA o'r fath; a
(b) sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y braster taenadwy.
(2) Ni fydd Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn -
(ii) o Aelod-wladwriaeth (heblaw'r Deyrnas Unedig) yr oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithiol ynddi, neu (iii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithiol; a
(b) sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y margarîn.
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod, mae i "cylchrediad rhydd" yr un ystyr ag sydd i "free circulation" yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad sy'n sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd.
(b) dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 microgram o fitamin D,
a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.
(b) ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol,
bydd yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(b) bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn yn achos -
(ii) pan fydd yna benderfyniad gan Gydbwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o Gytundeb yr EEA i'w ddiwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, allforio i un o Wladwriaethau'r EEA nad yw'n Aelod-wladwriaeth.
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf
adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta); adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15; adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes); adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2); adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).
(2) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau Cymunedol -
adran 33 (rhwystro etc. swyddogion); adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diddymu
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgyfnerthu ac yn disodli Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1995, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar gyfer amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'u diwygiwyd. Nodir pwnc y darpariaethau Cymunedol yn fyr yng ngholofn 3 o Atodlen 1. Cafodd Rheoliad y Comisiwn ei ddiwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999 sy'n caniatáu defnyddio'r dynodiad "brandy butter", "sherry butter" neu "rum butter" am gynnyrch alcoholig wedi'i felysu sy'n cynnwys o leiaf 20% o fraster-llaeth. Yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad EEC 2991/94, mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu gofynion o ran cynnwys fitaminau mewn margarîn (rheoliad 4), yn ddarostyngedig i esemptiad (rheoliad 3(2)). Mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 6) ac yn cynnwys esemptiad cyfyngedig mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac a ddygir i Gymru o un o Wladwriaethau'r EEA heblaw Aelod-wladwriaeth naill ai'n uniongyrchol neu drwy ran arall o'r Deyrnas Unedig (rheoliad 3(1)); (c) yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y'u darllenir ynghyd â'r nawfed cronicliad yn y Gyfarwyddeb honno (rheoliad 7); (ch) yn cynnwys darpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 8); a (d) yn diddymu'r Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 o ran Cymru (rheoliad 9).
Mae defnyddio'r dynodiad "butter" hefyd wedi'i gyfyngu gan Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 (OJ Rhif L182, 3.7.87, t. 36), a orfodir yng Nghymru gan Reoliadau Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Amddiffyn Dynodiadau) 1990 (O.S. 1990/607, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486). Notes: [1] 1990 p.16back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back [3] OJ No. L87, 2.4.97, t.3.back [4] OJ No. L175, 3.7.97, t.6.back [5] OJ No. L299, 4.11.97, t.1.back [6] OJ No.L85, 20.3.98, t.3.back [7] OJ No. L180, 24.6.98, t.5.back [8] OJ No. L315, 25.11.98, t.12.back [9] OJ No. L70, 17.3.1999, t.11.back [10] OJ No. L316, 9.12.94, t.2.back [11] OJ No. L1, 3.1.94, t.1.back [12] OJ No. L1, 3.1.94, t.571.back
ISBN 0-11-090217-3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 1 June 2001 |