Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1338 (Cy. 84 )

      Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001, ISBN 0 11 090257 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1338 (Cy. 84 )

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001

  Wedi'i wneud 29 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, a 2(1) a (5) o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar gais Cyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi ymgynghori â phob awdurod lleol a fyddai yn cael ei effeithio, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 a daw i rym ar 31 Mawrth 2001.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y prif Orchymyn" yw'r gorchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912[
3] (a greodd Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru ac a sefydlodd bwyllgor pysgodfeydd lleol er mwyn rheoli'r pysgodfeydd môr o fewn yr Ardal honno).

Diwygiadau i'r prif Orchymyn
     2. Diwygir y prif Orchymyn yn unol ag erthyglau 3 i 5 isod.

    
3. Yn lle erthygl 7 (cyfansoddiad y pwyllgor) rhoddir y canlynol  - 

         " 7. The committee shall be a joint committee of the county and county borough councils referred to in column 1 of the Schedule to this Order and shall consist of twenty one members appointed as follows - 

      (a) the number of members appointed by each constituent council shall be the number indicated in relation to the council in column 2 of the Schedule to this Order ;

      (b) nine members shall be appointed by the National Assembly for Wales;

      (c) one member shall be appointed by the Environment Agency.".

     4. Yn lle erthygl 17 (treuliau) rhoddir y canlynol  - 

     5. Yn lle'r Atodlen rhoddir yr Atodlen a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


29 Mawrth 2001


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol


ATOLDEN
Erthygl 5

    






NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn).


Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio ymhellach Orchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912 (fel y'i diwygiwyd) i sefydlu Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn amrywio cyfansoddiad y pwyllgor pysgodfeydd lleol ar gyfer yr ardal er mwyn darparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dynnu'n ôl o'r pwyllgor. Er hynny, fe fydd ffiniau'r Ardal Pysgodfeydd Môr yn parhau heb ei newid.

Mae nifer y cynrychiolwyr o bob cyngor a swm cyfraniad pob cyngor at dreuliau'r pwyllgor wedi'i bennu (erthyglau 3 a 4 a'r Atodlen).


Notes:

[1] 1966 p.38, a ddiwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 102; gweler adran 20(1) ar gyfer y diffiniad o "the Minister". Dylid darllen y cyfeiriadau yn Neddf 1966 at awdurdod afonydd ynghyd â Deddf Dwê r 1973 (p.37) adran 33, Deddf Dwê r 1989 (p.15) adran 141 ac Atodlen 17, paragraff 1, a Deddf yr Amgylchedd 1995 adran 105 ac Atodlen 15, paragraff 2.back

[2] Trosglwyddwyd drwy O.S. 1978/272 swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 i'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau hynny'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd Deddf Dwê r 1989 adran 141 ac Atodlen 17, paragraffau 1(3) a 4(a), mae'r swyddogaethau a arferwyd ar wahân gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifennydd Gwladol ynglyên ag awdurdodau dwê r neu ardaloedd awdurdodau dwêr gwahanol i'w harfer gyda'i gilydd ganddyntback

[3] Rh.S a G. 1926/1121 fel y'i amrywiwyd gan O.S. 1953/443, 1973/2203 a 1980/823.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090257 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 9 July 2001