Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090242-4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 25 Ebrill 2001. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
n;
n" ("premium older animal") yw anifail buchol y mae neu y bydd cais wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef ac sy'n cael ei gigydda ar y diwrnod ar ôl cyrraedd deg mis ar hugain oed, neu wedyn;
n;
(b) dau fis yn achos unrhyw anifail premiwm arall;
mae i "cynhyrchydd" yr un ystyr â "producer" ym Mhennod 1 o Deitl 1 i Reoliad y Cyngor 1254/1999;
(b) unrhyw ddogfen weinyddol genedlaethol, fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Premiwm Arbennig Cig Eidion 1996[3]; (c) unrhyw gofrestr a gedwir i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) a (4) o Reoliad 1760/2000; (ch) unrhyw gofnod a wneir o dan Erthygl 5 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995[4]; (d) unrhyw gofnod a wneir o dan Erthygl 9 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marcio a Chofnodion Bridio) 1990[5]; ac (dd) unrhyw lyfr, cofrestr (heblaw cofrestr y cyfeirir ati yn is-baragraff (c) o'r diffiniad hwn), bil, anfoneb, cyfrif, derbynneb, tystysgrif, taleb, gohebiaeth neu ddogfen neu gofnod arall ynghylch anifail buchol;
(b) yr oedd Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor 820/97 yn gymwys iddo, yw pasbort gwartheg dilys a roddwyd yn unol â'r Erthygl honno; ac (c) y mae Erthygl 6(1) o Reoliad 1760/2000 yn gymwys iddo, yw pasbort gwartheg dilys a roddwyd yn unol â'r Erthygl honno;
(b) rhif tag clust fel y'i diffinnir yn erthygl 2(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995, neu (c) y cod adnabod unigryw y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1) o Reoliad 1760/2000,yn ôl fel y digwydd;
(2) Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir yn ysgrifenedig neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at ohebiaeth electronig sydd wedi'i chofnodi ac felly yn gallu cael ei hatgynhyrchu wedyn. Cymhwyso rheoliadau 4 i 11 ac 20 (pan fydd yn ymwneud â Rhan II) 3. Mae Rheoliadau 4 i 11, ac (i'r graddau y mae'n ymwneud â hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 8(1) neu (3)) rheoliad 20, yn gymwys i geiswyr a meddianwyr tir i'r graddau mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas â'u daliadau at ddibenion Rheoliadau IACS. Gwneud cais am y premiwm cigydda 4. - (1) Rhaid i gais mewn perthynas â llo premiwm, anifail premiwm mewn oed ac anifail premiwm h n gael ei gyflwyno i'r Bwrdd a rhaid i bob cais fod ar unrhyw ffurf a chynnwys unrhyw fanylion, yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan reolau'r Gymuned, ac unrhyw ddogfennau, y bydd y Bwrdd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.(2) Gyda chais mewn perthynas â llo premiwm sy'n bum mis oed o leiaf adeg ei gigydda, rhaid anfon y cofnod ysgrifenedig ynghylch ei gigydda y cyfeirir ato ym mharagraff 5 o'r Atodlen. (3) Caiff cais a gyflwynir yn unol â pharagraff (1) fod yn gais mewn perthynas ag unrhyw nifer o loi premiwm, anifeiliaid premiwm mewn oed neu anifeiliaid premiwm h n, yn ôl fel y digwydd.Y cyfnod ar gyfer cyflwyno ceisiadau 5. Rhaid i gais gael ei gyflwyno i'r Bwrdd, o fewn cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cadw am yr anifail premiwm y gwneir y cais mewn perthynas ag ef ac sy'n dod i ben -
(b) ar ddiwedd mis Chwefror yn y flwyddyn galendr yn dilyn y flwyddyn galendr y cafodd yr anifail premiwm hwnnw ei gigydda ynddi,
p'un bynnag sydd gyntaf.
(b) deuddeg cais mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm mewn oed, ac (c) deuddeg cais mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm h n
sy'n cael eu cigydda mewn unrhyw un flwyddyn galendr.
(ii) yn unol ag unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi p er cofrestru cyfatebol mewn perthynas â lladd-dai yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon mewn telerau sydd o ran eu sylwedd yn union yr un fath â'r telerau a geir yn rheoliadau 13 i 19 ac yn yr Atodlen;
a
(ii) yn unol ag unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi p er cofrestru cyfatebol mewn perthynas â lladd-dai yn Lloegr, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon mewn telerau sydd o ran eu sylwedd yn union yr un fath â'r telerau a geir yn rheoliad 13 i 19 ac yn yr Atodlen.
Gorbori
(b) rheoliad 3A o Reoliadau Premiwm Buchod Sugno 1993[16]; (c) rheoliad 3A o Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992[17];
(6) Caiff y Bwrdd beidio a thalu, neu adennill, premiwm cigydda os yw'n fodlon bod unrhyw amod arall yn yr hysbysiad wedi'i dorri.
(b) os yw'r premiwm cigydda wedi'i dalu i'r ceisydd eisoes, adennill unrhyw bremiwm cigydda a dalwyd felly;
mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm a gafodd eu cigydda yn y flwyddyn honno.
(b) rheoliad 3B o Reoliadau Premiwm Buchod Sugno 1993; a (c) rheoliad 3B o Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992.
Dal y premiwm cigydda yn ôl a'i adennill
(b) os nad oedd anifail premiwm, ar unrhyw adeg rhwng cyflwyno'r cais mewn perthynas ag ef a'i gigydda -
(ii) wedi'i adnabod â thag clust yn unol ag erthygl 8 neu 9 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995; neu (iii) wedi'i gofrestru yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Gwartheg (Cofrestru Anifeiliaid H n) (Cymru) 2000[18]; neu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau ar gyfer cofrestru o'r fath a gynhwysir yn unrhyw reoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr, yr Alban neu Gogledd Iwerddon; neu(iv) wedi'i adnabod a'i gofrestru yn unol â Rheoliad y Cyngor 820/97 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2629/97 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 ynghylch tagiau clust, cofrestrau daliadau a phasbortau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol[19]; neu (v) wedi'i adnabod a'i gofrestru yn unol â Rheoliad 1760/2000;
(c) os nad yw'r amodau a bennir yn rheoliad 7(2) wedi'u bodloni;
Cyfradd llog Cymhwyso rheoliadau 13 i 19 ac 20 (pan fydd yn ymwneud â Rhan III) 12. Mae rheoliadau 13 i 19, ac (i'r graddau y mae'n ymwneud â hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 15 neu 17) rheoliad 20, yn gymwys i ladd-dai yng Nghymru. Gwneud cais am gofrestru 13. - (1) Caiff gweithredydd lladd-dy wneud cais i'r Bwrdd am gofrestru lladd-dy i gigydda anifeiliaid premiwm heblaw lloi premiwm, neu loi premiwm, neu'r ddau. (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) -
(b) bod yn yr iaith Saesneg neu'r iaith Gymraeg: (c) cael ei lofnodi gan y gweithredydd lladd-dy neu ar ei ran; (ch) cynnwys enw, neu enw busnes, a chyfeiriad y gweithredydd lladd-dy; (d) enwi'r lladd-dy y mae'r cais yn ymwneud ag ef; (dd) (dd)nodi'r anifeiliaid premiwm y gwneir y cais am gofrestru ar eu cyfer; (e) cynnwys ymrwymiad -
(ii) os caiff y lladd-dy ei gofrestru a chyhyd ag y caiff lladd-dy ei gofrestru, i gigydda lloi premiwm, y cydymffurfir â'r amodau a nodir yn Rhannau I a II o'r Atodlen.
Cofrestru lladd-dai
(b) yn pennu'r amodau nad yw'r Bwrdd wedi'i fodloni mewn perthynas â hwy, y camau y mae'n ofynnol i weithredydd y lladd-dy eu cymryd er mwyn eu bodloni, ac amser rhesymol o ddwy wythnos o leiaf y mae'n rhaid i'r gweithredydd lladd-dy gymryd y camau hynny o'i fewn; ac (c) yn datgan y caiff cofrestriad y lladd-dy ei ddileu os nad yw wedi'i fodloni pan ddaw'r amser rhesymol hwnnw i ben fod y camau angenrheidiol wedi'u cymryd.
Dileu cofrestriad
(b) os yw gweithredydd y lladd-dy, neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i weithredydd y lladd-dy wedi'i gollfarnu am dramgwydd mewn perthynas ag unrhyw gais.
Y weithdrefn ar gyfer dileu
(b) na roddir unrhyw bremiwm cigydda am gigydda unrhyw anifail buchol a gaiff ei gigydda yn y lladd-dy oni bai ac hyd nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto.
Arddangos hysbysiad dileu Cyflwyno hysbysiadau 20. Gall unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno i feddiannydd parsel o dir yn unol a rheoliad 8(1) neu (3) neu i weithredydd lladd-dy yn unol a rheoliad 15 neu reoliad 17 gael ei gyflwyno -
(b) drwy ei adael yn ei breswylfa neu ei fan busnes diwethaf, neu, os yw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno'r hysbysiad, yn y cyfeiriad hwnnw; (c) drwy ei anfon mewn llythyr cofrestredig a dalwyd ymlaen llaw, neu drwy'r gwasanaeth dosbarthiad cofnodedig, wedi'i gyfeirio ato neu ati yn ei breswylfa neu ei fan busnes arferol neu'r un diwethaf a oedd yn hysbys neu, os yw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno'r hysbysiad, yn y cyfeiriad hwnnw; neu (ch) yn achos corff corfforaethol, drwy fynd ag ef at ysgrifennydd neu glerc y corff corfforaethol yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu drwy ei anfon mewn llythyr cofrestredig a dalwyd ymlaen llaw, neu drwy'r gwasanaeth dosbarthiad cofnodedig, wedi'i gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff corfforaethol hwnnw yn y swyddfa honno.
Cymhwyso rheoliadau 22 i 30 21. Mae rheoliadau 22 i 30 yn gymwys -
(b) i'r graddau y maent yn ymwneud â lladd-dai, mewn perthynas â lladd-dai yng Nghymru.
Cadw cofnodion
(b) darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 28 wrthi'n cael ei gyflawni neu wedi'i gyflawni; neu (c) sicrhau bod premiwm cigydda wedi'i roi, neu i gael ei roi, yn unol â'r canlynol yn unig -
(ii) gofynion rheoliadau 8 a 9.
Pwerau i gael mynediad ac i archwilio
(b) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lladd-dy, neu mewn cysylltiad ag un. (2) Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir yn rhinwedd y rheoliad hwn - (a) archwilio a dilysu arwynebedd y tir neu unrhyw ran ohono; (b) archwilio unrhyw adeilad, strwythur neu offer, gan gynnwys offer pwyso, ar y tir; (c) archwilio a chyfrif unrhyw anifeiliaid buchol ar y tir a darllen eu tagiau clust neu eu marciau adnabod eraill; (ch) archwilio unrhyw garcas, neu ran o garcas, o unrhyw anifail buchol ar y tir; (d) gwneud unrhyw weithgaredd arall sy'n fesur rheoli penodedig; ac (dd) archwilio'r tir er mwyn penderfynu a yw wedi'i orbori neu a oes dulliau bwydo atodol anaddas wedi'u defnyddio arno.
(3) Caiff person awdurdodedig sy'n mynd ar dir yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau y mae'n credu bod eu hangen gydag ef neu hi.
(b) ei gwneud yn ofynnol i weithredydd lladd-dy neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i weithredydd lladd-dy gyflwyno unrhyw ddogfen lladd-dy yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch busnes neu weithrediadau lladd-dy neu ynghylch unrhyw anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu wedi'i gludo yno i'w gigydda y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt; (c) archwilio unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), ac, os yw'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen ceisydd honno, neu'r ddogfen lladd-dy honno, yn ôl fel y digwydd, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio; (ch) gwneud unrhyw gopïau o unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), y gwêl yn dda; a (d) cipio a chadw unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), y mae ganddo neu ganddi reswm dros gredu y gallant fod yn ofynnol fel tystiolaeth mewn achos mewn perthynas â chais ac, os yw unrhyw ddogfen ceisydd neu ddogfen lladd-dy o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ar ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd.
Cymorth i bersonau awdurdodedig
(b) os yw cofrestriad lladd-dy ar gyfer cigydda anifeiliaid premiwm wedi'i ddileu, gwneud y canlynol heb esgus rhesymol -
(ii) methu â chadw'r copi hwnnw o'r hysbysiad dileu yn y fan honno mewn cyflwr clir a darllenadwy nes bod blwyddyn o ddyddiad y dileu wedi dod i ben neu nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto, p'un bynnag fydd gyntaf, neu newid neu ddifwyno'r hysbysiad;
(c) rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer p
Cosbi Amodau sy'n gymwysadwy at bob anifail premiwm 1. Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy wneud cofnod cywir, ar gyfer pob diwrnod, yn ysgrifenedig neu drwy gyfrwng cyfrifiadur, o rif lladd, dyddiad cigydda ac (yn ddarostyngedig i baragraff 2) rhif tag clust pob anifail premiwm sy'n cael ei ladd ar y diwrnod hwnnw. 2. Os nad oes gan anifail premiwm rif tag clust, ond ei fod wedi'i farcio â dull adnabod arall a gymeradwywyd neu fod dull adnabod arall a gymeradwywyd ar gael gydag ef, rhaid i'r gweithredydd lladd-dy nodi copi o'r dull adnabod arall a gymeradwywyd yn y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 1 yn lle'r rhif tag clust. 3. Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 a phob dogfen lladd-dy arall, ac eithrio tagiau clust, pasbortau gwartheg a dulliau adnabod eraill a gymeradwywyd, tan 31 Rhagfyr yn y drydedd flwyddyn ar ôl y flwyddyn y cawsant eu creu, neu y daethant i law'r gweithredydd, p'un bynnag yw'r hwyraf. 4. Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy sicrhau bod person awdurdodedig sy'n bresennol yn y lladd-dy, neu sy'n cyfathrebu â'r lladd-dy, yn cael arfer y pwerau a roddir gan reoliadau 24 a 25, y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 25 a bod cymorth yn cael ei roi iddo neu iddi yn unol â rheoliad 26. Amodau sy'n gymwysadwy at loi premiwm sy'n cael eu cigydda yn bum mis neu'n chwe mis oed 5. Ar ôl cigydda llo premiwm sy'n bum mis oed o leiaf, rhaid i'r gweithredydd lladd-dy roi cofnod ysgrifenedig i'r person y prynodd y llo oddi wrtho, neu y lladdodd y llo ar ei ran, yn ôl fel y digwydd, a hwnnw'n dangos -
(b) rhif tag clust y llo premiwm; (c) ei rif lladd; (ch) dyddiad ei gigydda; (d) pwysau'r carcas; ac (dd) a gafodd y carcas ei bwyso -
(ii) gyda'r afu, yr arennau a braster yr arennau neu hebddynt.
6.
- (1) Pwysau'r carcas a gyflwynir âr ôl ei flingo, ei ddiberfeddu a'i waedu, heb y pen a'r traed, a hynny mewn cilogramau ar ôl ei oeri, neu ei bwysau cynnes mewn cilogramau cyn gynted â phosibl ar ôl ei gigydda wedi'u gostwng dau y cant, yw pwysau'r carcas y cyfeirir atynt ym mharagraff 5(d) o'r Atodlen hon.
(b) 0.5 cilogram am yr arennau; ac (c) 3.5 cilogram am fraster yr arennau.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 25 Ebrill 2001, yn nodi mesurau gweithredu cenedlaethol ar gyfer y cynllun premiwm cigydda ar gyfer anifeiliaid buchol a gyflwynwyd gan Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar y gyd-drefniadaeth ar gyfer y farchnad cig eidion a chig llo (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21). Maent yn darparu ar gyfer gweinyddiaeth y cynllun mewn perthynas â daliadau a leolir yn gyfan gwbl yng Nghymru, a hefyd daliadau sydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig, os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno y bydd y Bwrdd Ymmyrraeth Cynnyrch Amaethyddol yn gyfrifol am brosesu cais y ffermwr am y premiwm (rheoliadau 3 i 11). Maent yn darparu hefyd ar gyfer gorfodi'r cynllun mewn perthynas â daliadau o'r fath (rheoliadau 21 i 30). Mae'r darpariaethau ynghylch y gwaith gweinyddu yn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer cyflwyno ceisiadau am y premiwm (rheoliadau 4, 5 a 6), yn gosod sancsiynau am orbori a defnyddio dulliau bwydo atodol anaddas (a gynhwysir yn un o amodau'r cynllun yn rhinwedd Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.113)) (rheoliadau 8 a 9), ac yn darparu ar gyfer dal y premiwm cigydda yn ôl neu ei adennill os caiff rheolau'r cynllun eu torri (rheoliadau 10 ac 11). I fod yn gymwys i gael y premiwm cigydda, mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i anifeiliaid gael eu cigydda mewn lladd-dai sydd wedi'u cofrestru gyda'r Bwrdd Ymyrraeth Cynnyrch Amaethyddol. Mae rheoliadau 12 i 19 yn darparu ar gyfer cofrestru lladd-dai a leolir yng Nghymru; o'r rhain, mae rheoliadau 13, 14, a 19 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer cofrestru a rheoliadau 15 i 18 yr amgylchiadau a'r weithdrefn ar gyfer dileu cofrestriad. Mae'r amodau y mae'n rhaid i ladd-dai cofrestredig gydymffurfio â hwy wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau. Mae'r darpariaethau ar gyfer gorfodi yn rheoliadau 21 i 31 hefyd yn gymwys mewn perthynas â chofrestru fel hyn. Mae'r darpariaethau ynghylch gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i geiswyr gadw cofnodion penodol (rheoliad 22) ac yn rhoi pwerau mynediad, pwerau archwilio a phwerau casglu tystiolaeth i bersonau awdurdodedig (rheoliadau 24 a 25). Mae'r rhain yn cynnwys y pwerau sy'n angenrheidiol o dan Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 3887/92 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer defnyddio'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth Cymunedol penodol. Ymdrin â thramgwyddo a chosbi y mae rheoliadau 28 i 30. Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn, ac mae copi ohono ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S.1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae p er y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir a leolir o fewn y Deyrnas Unedig ond y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back[3] O.S. 1996/3241, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1179.back [4] O.S. 1995/12, a ddiddymwyd yn rhannol gan O.S. 1998/871.back [5] O.S. 1990/1867, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/503 ac a ddiddymwyd gan O.S. 1995/12.back [7] O.S. 1996/1686, a ddiddymwyd gan O.S. 1998/871.back [8] OJ Rhif L281, 4.11.1999, t.30.back [9] OJ Rhif L118, 19.5.2000, t.4.back [10] OJ Rhif L228, 8.9.2000, t.25.back [11] OJ Rhif L391, 31.12.92, t.36, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2801/1999 (OJ Rhif L340, 31.12.1999, t.29).back [12] OJ Rhif L117, 7.5.1997, t.1, a ddiddymwyd gan Reoliad EC Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1).back [13] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21.back [14] OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1.back [15] O.S 1993/1317 a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148 1999/1820 a 2000/2573.back [16] O.S. 1993/1441, fel y'i diwygiwyd gan 1994/1528, 1995/15, 1995/1446, 1996/1448 a 1997/249.back [17] O.S. 1992/2677, fel y'i diwygiwyd gan 1994/2741, 1995/2779, 1996/49 a 1997/2500.back [18] O.S. 2000/3339 (W. 217).back [19] OJ Rhif L354, 30.12.97, t.19.back
ISBN 0-11-090242-4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 22 June 2001 |