Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090213-0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd gan weithredu ar y cyd i arfer y pwerau sydd wedi'u rhoi iddynt gan yr adran honno bellach yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Yn achos pob darpariaeth heblaw rheoliad 3, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2001. Daw rheoliad 3 i rym ar 1 Gorffennaf 2001. Cyfyngu Pithio 2. - (1) Ni chaiff neb bithio unrhyw anifail buchol, defeidiog neu afraidd cyn ei gigyddio i gael ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid. (2) At ddibenion y rheoliadau hyn, "pithio" anifail yw torri ei feinwe nerfol canolog, ar ôl ei stynio, ag offeryn hir ar siâp rhoden a roddir i mewn i geudod y benglog. (3) Bydd unrhyw berson sy'n torri paragraff (1) yn euog o dramgwydd. Gwaredu anifeiliaid a bithiwyd yn anghyfreithlon 3. Os oes unrhyw anifail buchol, defeidiog neu afraidd wedi'i bithio yn groes i reoliad 2(1), bernir bod pob rhan o'i garcas (ac eithrio'r croen) -
(b) yn "deunydd risg penodedig" yn unol â'r diffiniad o "specified risk material" yn erthygl 2(1) o Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 [4].
Diwygiad i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Cigyddio neu Ladd) 1995
3A. - (1) Nothing in these Regulations shall be taken as permitting the immobilisation, on after 1st April 2001, of any bovine, ovine or caprine animal prior to slaughtering it for human or animal consumption. (2) In paragraph (1), the "immobilisation" of an animal means the laceration, after stunning, of its central nervous tissue by means of an elongated rod-shaped instrument introduced into the cranial cavity.".
Pwerau arolygwyr
(b) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (p'un ai gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron neu beidio), neu (c) y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (p'un ai gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron neu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu beidio)
wedi'i benodi yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod hwnnw neu yn ôl fel y digwydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu yn ôl fel y digwydd gan y Gweinidog hwnnw.
(b) methu, heb esgus rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu (c) darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn;
a bydd unrhyw berson sy'n torri'r rheoliad hwn neu'n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o dramgwydd.
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na dwy flynedd neu'r ddau.
Gorfodi
(b) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog a enwyd yn gweithredu ar y cyd) neu gan yr awdurdod lleol perthnasol mewn perthynas ag unrhyw adeiladau eraill.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi ei heffaith yng Nghymru i Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2000/418/EC (OJ Rhif L158, 30.6.2000, t.70). 2. Mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn darparu y bernir bod carcas (heblaw croen) anifail a bithiwyd yn anghyfreithlon yn ddeunydd risg penodedig (rheoliad 3); (c) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Cigyddio neu Ladd) 1995 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (rheoliad 4);
er mynediad i bersonau a benodir yn arolygwyr gan yr awdurdod gorfodi perthnasol (rheoliad 5);
(d) yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliadau 2(3), 6 a 7);
3.
Mae'r Rheoliadau hyn (heblaw Rheoliad 3, sy'n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2001. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 1997/2965, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3062, O.S. 1998/2405 (a ddiwygiwyd ei hun gan O.S. 1998/2431), O.S. 1999/539 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2000/2659 (Cy.172) ac O.S. 2000/3387 (Cy.224).back [4] O.S. 1997/2964, a ddiwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/2811 ac O.S. 2000/3387 (Cy.224).back [5] O.S. 1995/731, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/400 ac O.S. 2001/656.back
ISBN 0-11-090213-0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 1 June 2001 |