Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090234-3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122B(1), (2) a (4), 126(4) a 127(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], a phob p er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001. (2) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(b) y swm sydd i'w adennill fel y'i crybwyllir yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf; (c) swm y tâl cosb, wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 3 a'r nwyddau neu'r gwasanaethau y mae'r swm hwnnw'n gysylltiedig â hwy; (ch) swm y symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (b) ac (c), sef y cyfanswm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb; (d) mewn perthynas â'r cyfanswm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb -
(ii) y cyfeiriad y mae'n rhaid anfon y swm hwnnw iddo, (iii) y dulliau y gellir eu defnyddio i dalu, a (iv) yn unol â pharagraff (1), erbyn pa ddyddiad y mae'n ofynnol i'r person dalu'r swm hwnnw i'r awdurdod cyfrifol;
(dd) os yw'r person yn methu â thalu'r swm y mae'n ofynnol i'r person hwnnw ei dalu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cosb -
(ii) swm y gordal y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei dalu, wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 4(2); ac
(e) nad yw person, oherwydd hysbysiad cosb, yn agored -
(ii) i dâl cosb, neu ordal, os yw'r person hwnnw'n dangos na weithredodd ar gam, na heb unrhyw ddiffyg gofal, mewn perthynas â'r swm sydd i'w adennill fel y'i crybwyllir yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf[5].
Cyfrifo'r tâl cosb
(b) y swm y cyfeirir ato yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf wedi'i luosi â 5.
Gordal (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosb sifil os bydd person, ar gam, yn methu â thalu un o ffioedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perthynas â darparu cyffuriau a meddyginiaethau, triniaeth a chyfarpar deintyddol, gwasanaethau optegol, neu unrhyw gyfarpar arall. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosb sifil os bydd person yn cael taliad neu fudd-dâl tuag at gost un o ffioedd neu wasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol nad oes gan y person hwnnw hawl i'w gael, megis talebau sbectolau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu brofion golwg di-dâl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Yn rheoliad 2 darperir ar gyfer rhoi hysbysiad cosb i berson i fynnu bod y swm y mae'r person wedi methu â'i dalu yn cael ei dalu, ynghyd â thâl cosb ychwanegol. Nodir o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i'r symiau hynny gael eu talu, a'r wybodaeth y mae'n rhaid i'r hysbysiad cosb ei chynnwys. Yn rheoliad 3 nodir sut y mae'n rhaid i swm y tâl cosb sy'n daladwy gael ei gyfrifo. Os nad yw'r swm sydd i'w dalu o dan yr hysbysiad cosb yn cael ei dalu o fewn y cyfnod a ragnodir, mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid talu swm pellach yn gosb ("gordal"). Mae'r rheoliad yn nodi sut y mae'n rhaid i swm y gordal gael ei gyfrifo. Notes: [1] 1977 p.49. Gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael diffiniadau "prescribed" a "regulations". Mewnosodwyd adran 122B gan adran 39 o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990.back [2] Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 122B(1), (2) a (4), 126(4) a 127(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back [3] Mae adran 122B yn gymwys i ffioedd a thaliadau a all gael eu hadennill o dan adran 122(1) neu 122A o'r Ddeddf oddi ar berson mewn perthynas â darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau a restrir yn adran 122A(7); mewnosodwyd adran 122A gan adran 39 o Ddeddf 1999. Mae ffioedd o'r fath yn cynnwys ffioedd a all gael eu codi a'u hadennill am driniaeth ddeintyddol a ddarperir yn unol â chynlluniau peilot o dan adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46); gweler adran 39(3) o Ddeddf 1999.back [4] Gweler adran 122B(7)(a) o'r Ddeddf.back [5] Gweler adran 122B(7)(b) o'r Ddeddf.back
ISBN 0-11-090234-3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 12 June 2001 |