Rheoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090246-7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1) a (3), 17(1), 18(1), 19(1)(b), 26, 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi, ar ôl iddo roi sylw yn unol ag adran 48A o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mai 2001 Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990 2. Diwygir Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990 [2] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â rheoliadau 3 i 16 isod. 3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
4.
Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (cyfyngu mewnforio) yn lle'r geiriau "Great Britain" rhoddir y gair "Wales".
6A. - (1)
(b) Either the identity and address of the facility which carried out the irradiation, or the official reference number, shall be indicated on the documents referred to in sub-paragraph (a) above.
(2) In this regulation "ultimate consumer" and "catering establishment" have the meaning given in regulation 2(1) of the Food Labelling Regulations 1996 [5]; and "the official reference number" is that referred to in Article 7.1 of Directive 1999/2.".
7.
Yn rheoliad 7 (gweithgareddau sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon) -
(b) ar ôl y geiriau "Northern Ireland" mewnosodir ym mhob achos y geiriau ",Scotland or England".
8.
Yn lle testun rheoliad 8 (amddiffyniad mewn perthynas ag allforion) rhoddir -
9.
Yn Atodlen 1 (trwyddedau arbelydru), yn Rhan I (rhoi trwyddedau arbelydru), ym mharagraff 1 -
(b) mewnosodir yr is-baragraff canlynol rhwng is-baragraffau (f) a (g) -
(c) mewnosodir yr is-baragraff canlynol rhwng is-baragraffau (g) ac (h) -
10.
Yn Atodlen 1, yn Rhan I, ym mharagraff 3(1) -
(b) yn is-baragraff (g), ar ôl "paragraph 1(f)(iv) above" mewnosodir "are in conformity with Annex III to Directive 1999/2 and";
(d) yn y geiriau terfynol , yn lle "paragraphs (a) to (i) above" rhoddir "sub-paragraphs (a) to (j) above".
11.
Yn Atodlen 1, yn Rhan II (telerau ac amodau trwyddedau arbelydru) -
(b) rhoddir y rhif "(1)" i gynnwys paragraff 15 ac ychwanegir yr is-baragraff canlynol -
18. The licence shall, subject to Part III below, continue in effect unless withdrawn or suspended in accordance with the provisions of Part IV below or surrendered by the licensee to the licensing authority; and existing licenses shall be construed accordingly.".
12.
Yn Atodlen 1, yn Rhan III (amrywio trwydded arbelydru), yn lle paragraff 1(1) rhoddir y canlynol -
(b) any condition of a licence inserted by virtue of paragraph 5 or 6 of Part II above.".
13.
Yn Atodlen 1, yn Rhan IV (tynnu trwydded arbelydru yn ôl, ei hatal a'i hestyn) -
(ii) diddymir paragraffau 4 a 5.
14.
Yn Atodlen 1, yn Rhan VI (ffioedd) -
(ii) if the application (however many descriptions of food the application relates to) falls within paragraph 3(3) of Part I above, a sum (fixed at the discretion of the licensing authority) no greater than the sum which would otherwise have been payable in respect of the original application;
(b) the amount of the inspection charge is £750 for each inspection carried out in respect of which an inspection charge is payable; and
(ii) £500 in any other case.";
(b) yn is-baragraff (b) o baragraff 3 -
(ii) yn lle "£2,700" ym mharagraff (ii) rhoddir "£2,250".
15.
Yn lle Atodlen 2 (mewnforio bwyd) rhoddir y canlynol - 1. This Part applies to the importation of food irradiated in other Member States. 2. For the purposes of regulation 4 -
(b) "appropriate documentation" means documentation containing the information referred to in regulation 6A(1)(b).
1. This Part applies to the importation of food irradiated in a country (or territory) outside the European Community. 2. In the case of herbs and spices, for the purposes of regulation 4 -
(b) "the appropriate documentation" means the documents referred to in the second indent of paragraph 1 of the said Article 9.
3.
In the case of food other than herbs and spices -
(b) that any irradiation licence granted in that country or territory includes provision for an approved method of measurement relating to food to which the licence relates, and (c) that the operation of the legislation in force in that country relating to the subjection there of food to treatment by ionising radiation protects human health to an extent not less than human health is protected by operation of these Regulations.
(4) If the Agency ceases to be satisfied of the matters specified in sub-paragraphs (a), (b) and (c) of sub-paragraph (2) above in respect of an origin in a country or territory it may publish in the London Gazette notice that, as from a date specified in the notice, that origin shall not longer be an appropriate origin for the purposes of these Regulations and, if such a notice is published, the recognition of appropriate origin shall cease to have effect on that date.
(b) confirmation from the holder of the irradiation licence in the country in which the food was subjected to treatment by ionising radiation that the irradiation licence was in effect in relation to the food at the time at which that treatment took place."
16.
Yn Atodlen 3 (gofynion storio a chludo) -
(b) ym mharagraff 4, ar ôl "Northern Ireland" mewnosodir, " Scotland and England".
Diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996
19.
Ym mharagraff (1)(iv) o reoliad 3 (esemptiadau), yn lle'r geiriau "and Directive 94/54" rhoddir y geiriau ",Directive 94/54 and Directive 99/2".
(ii) where an ingredient of such a compound ingredient has been irradiated the name of that ingredient and the words required by paragraph 2 of Schedule 2 shall be given, except in the case of food which is prepared for patients requiring sterile diets under medical supervision.".
21.
Mewnosodir y paragraffau canlynol rhwng paragraffau (4) a (5) o reoliad 26 (pecynnau bach a photeli penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy) -
(b) contains any ingredient which has been irradiated; and (c) is not prepared for patients requiring sterile diets under medical supervision,
shall be marked or labelled with an indication that it contains that ingredient, and in such a case the reference within that indication to that ingredient shall include or be accompanied by the word "irradiated" or the words "treated with ionising radiation".".
22.
Yn rheoliad 35 (gofyniad cyffredinol ynghylch dull marcio neu labelu bwyd heblaw bwyd y mae rheoliad 23, 27 neu 31 yn gymwys iddo) -
(b) yn y geiriau terfynol i baragraff (1), ar ôl y gair "may" rhoddir y geiriau "(except as provided in paragraph (2) of this regulation)"; ac (c) rhoddir y paragraff canlynol yn union ar ôl paragraff (1) -
23.
Yn rheolaid 36 (dull marcio neu labelu bwyd y mae rheoliad 23 neu 27 yn gymwys iddo) -
(c) ychwanegir y paragraffau canlynol ar y diwedd -
(b) sub-paragraph (c) of paragraph (5) of this regulation shall not apply as regards the particulars specified in regulations 14(2), 25(1) and 27(3) and (4) and paragraph 2 of Schedule 2.
(7) Paragraph (6) of this regulation shall not apply in relation to food which is prepared for patients requiring sterile diets under medical supervision.".
24.
Yn is-baragraff (b) o reoliad 47 (amddiffyniad mewn perthynas ag allforio), yn lle'r geiriau "and Directive 94/54" rhoddir y geiriau ",Directive 94/54 and Directive 99/2". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi eu heffaith i'r canlynol ar waith yng Nghymru -
(b) Cyfarwyddeb 1999/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch sefydlu rhestr Gymunedol o fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.24).
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi eu heffaith i'r darpariaethau uchod drwy ddiwygio'r Rheoliadau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru -
(b) Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (OS 1996/1499), fel y'u diwygiwyd.
3.
Mae Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.
(b) mae'r diffiniad o "ionising radiation" yn rheoliad 2(1) yn cael ei ddiwygio (rheoliad 3(b)); (c) mae rheoliad newydd, 6A, yn cael ei fewnosod, yn ei gwneud yn ofynnol bod bwydydd nad ydynt ar gyfer defnyddwyr ac sy'n cael eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio yn cael eu labelu (rheoliad 6); (ch) mae testun rheoliad 8 (amddiffyniad mewn perthynas ag allforio) yn cael ei ddiwygio (rheoliad 8). Erbyn hyn, mewn perthynas â bwyd y bwriedir ei allforio i wlad nad yw'n aelod o'r Gymuned Ewropeaidd yn unig y mae'r amddiffyniad yn gweithredu; (d) mae'r manylion a bennir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 1 (manylion sydd i'w hanfon i'r awdurdod trwyddedu gan berson sy'n gwneud cais am drwydded arbelydru) yn cael eu diwygio (rheoliad 9); (dd) mae'r materion a nodir ym mharagraff 3 o Ran I o Atodlen 1 (materion y mae'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded arbelydru neu ei gwrthod) yn cael eu diwygio (rheoliad 10); (e) mae'r telerau a'r amodau a nodir yn Rhan II o Atodlen 1 (telerau ac amodau sydd i'w cynnwys mewn trwyddedau arbelydru) yn cael eu hamrywio (rheoliad 11); (f) mae pwer yn cael ei roi i'r awdurdod trwyddedu a'r trwyddegid i gytuno ar amrywiad yn un o delerau trwydded arbelydru a fewnosodir yn rhinwedd paragraff 4 o Ran II o Atodlen 1 (rheoliad 12); (ff) mae'r pwer i estyn trwydded arbelydru, a geir ar hyn o bryd yn Rhan IV o Atodlen 1 yn cael ei ddiddymu (rheoliad 13); (g) mae paragraff 2 diwygiedig o Ran VI o Atodlen 1 (sy'n pennu swm pob ffi y cyfeirir ati yn yr Atodlen honno) yn cael ei roi yn lle paragraff 2 presennol y Rhan honno, sydd hefyd yn pennu swm pob ffi y cyfeirir ati yn Atodlen 1 (rheoliad 14(a)); (ng) mae paragraff 3(b) o Ran VI o Atodlen 1 yn cael ei ddiwygio er mwyn amrywio'r uchafsymiau sydd i'w talu mewn unrhyw un flwyddyn mewn perthynas â'r archwiliadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(3) (rheoliad 14(b)); ac (h) mae Atodlen 2 ddiwygiedig (yn ymwneud â mewnforio bwyd) yn cael ei rhoi yn lle'r Atodlen bresennol sy'n dwyn y rhif hwnnw (sydd hefyd yn ymwneud â mewnforio bwyd) (rheoliad 15).
5.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud rhywfaint o ddiwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990.
(b) mae'r diffiniad o "ionising radiation" yn rheoliad 2(1) yn cael ei ddiwygio (rheoliad 18(b)); (c) mae'r esemptiad yn rheoliad 3(1) ar gyfer bwyd y deuir ag ef i Prydain Fawr o dan amgylchiadau penodol o Aelod-wladwriaeth arall neu o un o wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cael ei addasu er mwyn ei gwneud yn ofynnol bod bwyd o'r fath yn cydymffurfio (os yw'n gymwys) â Chyfarwyddeb 1999/2/EC (rheoliad 19); (ch) mae is-baragraff (b) diwygiedig o reoliad 15(4) (yn darparu eithriad i'r gofyniad bod enwau cynhwysion cynhwysyn cyfansawdd a ddefnyddir i baratoi bwyd yn gorfod cael eu rhoi yn y rhestr o gynhwysion y bwyd) yn cael ei roi yn lle'r is-baragraff (b) presennol o reoliad 15(4) (rheoliad 20); (d) mae rheoliad 26 (pecynnau bach a photeli penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy) yn cael ei ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol bod bwyd penodol sydd, er ei fod wedi'i esemptio o'r gofyniad i gael ei farcio neu ei labelu â rhestr o gynhwysion, yn cynnwys cynhwysyn sydd wedi'i arbelydru, yn cael ei farcio a'i labelu yn unol â hynny (rheoliad 21); (dd) mae rheoliad 35 (sy'n gosod gofyniad cyffredinol ynghylch dull marcio neu labelu bwydydd penodol) yn cael ei ddiwygio fel bod y dewis arall yn lle'r gofyniad hwnnw a geir ar ddiwedd y rheoliad hwnnw yn cael ei ddiwygio yn achos categori penodedig o'r bwyd hwnnw sydd wedi'i arbelydru (rheoliad 22); (e) mae rheoliad 36 (sy'n gosod gofyniad ynghylch dull marcio neu labelu bwydydd penodol eraill) yn cael ei ddiwygio fel bod -
(ii) yn achos gwerthu bwyd y mae rheoliad 23 neu 27 o OS 1996/1499 yn gymwys iddo ac sydd wedi'i arbelydru (heblaw bwyd a baratoir ar gyfer cleifion y mae arnynt angen deiet sterilaidd o dan oruchwyliaeth feddygol), bod rhaid i'r dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r bwyd ddangos ym mhob achos ei fod wedi'i arbelydru (rheoliad 23); ac
(f) mae'r amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (rheoliad 47) yn cael ei ddiweddaru i gynnwys cyfeiriad at Gyfarwyddeb 1999/2/EC (rheoliad 24).
7.
Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN. Notes: [1] 1990 p.16back [2] OS 1990/2490, a ddiwygiwyd gan OS 2000/656.back [3] OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.16back [4] OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.24back [5] OS 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1998/1398, OS 1999/747, OS 1999/1483 ac OS 2000/768.back [6] Gellir cael copi o'r Cod Ymarfer a enwyd oddi wrth Gomisiwn Codex Alimentarius, Mudiad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, Vialle Terme di Caracalla, 00100, Rhufain, neu ei weld ar y wefan www.foa.org/WAICENT/FAOINFO/ECONOMIC/ESN/codex/STANDARD/standard.htm a,i dadlwytho oddi yno.back [7] Mae paragraff 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r drwydded arbelydru bennu pob disgrifiad o fwyd y mae'n gymwys iddo.back
ISBN 0-11-090246-7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 27 June 2001 |