Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1203 (Cy. 64 )

      Rheoliadau Ardrethu Annomestig(Newid Rhestri ac Apelau)(Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig(Newid Rhestri ac Apelau)(Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090211-4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1203 (Cy. 64 )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig(Newid Rhestri ac Apelau)(Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2) a (6), 140 a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1993
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993[3] yn cael eu diwygio yn unol â'r paragraff canlynol.

    (2) Yn Rheoliad 13A[4]) (yr amser y daw'r newid yn effeithiol: cyffredinol) - 

    (a) ym mharagraff (5), ar ôl "paragraphs (7),", rhowch "(7A)," a

    (b) ar ôl paragraff (7), mewnosodwch - 

        " (7A) For the purpose of paragraph (5), where an alteration is made in pursuance of a proposal served after 31st March 2001 but before 1st July 2001 and the circumstances giving rise to the alteration first arose after 31st December 2000 but before 1st April 2001, then the proposal shall be treated as served on 31st March 2001."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2001, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993 mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliadau 1993 yn ymwneud â newid rhestri ardrethu annomestig sy'n cael eu llunio o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Maent yn cynnwys darpariaeth bod newid mewn rhestr sydd wedi'i llunio ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, a hwnnw'n cael ei wneud ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau, yn dod yn effeithiol o'r diwrnod cyntaf y cododd yr amgylchiadau sy'n arwain at y newid yn y rhestr neu o'r diwrnod cyntaf yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn cael ei gyflwyno, p'un bynnag yw'r olaf. Oherwydd hyn, ni fydd y newid yn y rhestr yn dod yn effeithiol o'r diwrnod cyntaf y cododd y newid amgylchiadau oni fydd y cynnig yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn ariannol y digwyddodd y newid amgylchiadau gyntaf.

Os yw'r rhestr a gafodd ei llunio ar 1 Ebrill 2000 yn cael ei newid yn sgil cynnig ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau a gododd gyntaf ar ddiwrnod ar ôl 31 Rhagfyr 2000 ond cyn 1 Ebrill 2001, yna mae'r Rheoliadau hyn yn golygu y bydd y newid yn y rhestr yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen os caiff y cynnig ei gyflwyno cyn 1 Gorffennaf 2001.


Notes:

[1] 1988 p. 41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/291.back

[4] Mewnosodwyd Rheoliad 13A, mewn perthynas â Chymru, gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792) (Cy. 29).back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090211-4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 30 May 2001