Offerynnau Statudol 2001 Rhif 1110 (Cy.54)

      Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001, ISBN 0 11090334 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 1110 (Cy.54)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Medi 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 42(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a diddymu
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    (3) Mae Rheoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) 1999[
3] wedi'u diddymu.

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "adroddiad llywodraethwyr" ("governors' report") yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith ym mhob blwyddyn o dan adran 42(1) o Ddeddf 1998;

    ystyr "cyfarfod blynyddol i'r rhieni" ("annual parents' meeting") yw'r cyfarfod rhieni y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal unwaith ym mhob blwyddyn ysgol o dan adran 43 o Ddeddf 1998;

    ystyr "cyfran o'r gyllideb" ("budget share") yw'r swm a ddyrennir i'r corff llywodraethu yn rhinwedd adran 47 o Ddeddf 1998;

    ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y materion i ymdrin â hwy mewn adroddiad llywodraethwyr
     3. Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen.

Gofynion ynghylch adroddiad llywodraethwyr
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu benderfynu arno yw'r iaith neu'r ieithoedd y cynhyrchir yr adroddiad llywodraethwyr ynddi neu ynddynt, a ffurf neu ffurfiau ei gynhyrchu.

    (2) Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i gael ei gynhyrchu ynddi.

    
5. Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau - 

     6.  - (1) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (a) o reoliad 5, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig, na'r gofyniad sydd ym mharagraff (c) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys - 

     7. Pan nad yw paragraffau (a) ac (c) o reoliad 5 yn gymwys (yn rhinwedd rheoliad 6), rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'u hadroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol pan ofynnir iddo (yn ysgrifenedig).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2001



ATODLEN
Rheoliad 3


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIADAU LLYWODRAETHWYR


     1. Os oes ar y corff llywodraethu rwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, - 

         (a) manylion dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod blynyddol nesaf i'r rhieni a'i agenda;

    (b) mynegiad mai trafod adroddiad y llywodraethwyr a hefyd y dull y cyflawnodd y corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol eu swyddogaethau fydd diben y cyfarfod hwnnw; ac

    (c) adroddiad ar yr ystyriaeth a roddwyd i unrhyw benderfyniadau a basiwyd yn y cyfarfod blynyddol blaenorol i'r rhieni (os oedd ar y corff llywodraethu rwymedigaeth i gynnal cyfarfod o'r fath).

     2. Y manylion canlynol am aelodau'r corff llywodraethu a'u clerc - 

    (a) enw pob llywodraethwr gan enwi, ym mhob achos, y categori (yn unol â'r diffiniadau a gynhwysir yn Rhan I o Atodlen 9 i Ddeddf 1998) y mae'r llywodraethwr yn perthyn iddo ac, os yw'r llywodraethwr yn llywodraethwr ex officio, mai llywodraethwr o'r fath yw ef neu hi;

    (b) yn achos llywodraethwr wedi'i benodi, y person a'i benododd;

    (c) mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad y daw cyfnod ei swydd i ben; ac

    (ch) enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'u clerc.

     3. Pa wybodaeth bynnag sydd ar gael i'r corff llywodraethu am y trefniadau ar gyfer etholiad nesaf y llywodraethwyr-rieni.

     4. Datganiad ariannol - 

    (a) sy'n atgynhyrchu neu'n crynhoi unrhyw ddatganiad ariannol y mae copi ohono wedi'i roi i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod addysg lleol o dan adran 52 o Ddeddf 1998 ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr;

    (b) sy'n dangos, yn gyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y darparwyd ei fod ar gael i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef;

    (c) sy'n rhoi manylion sut y defnyddiwyd unrhyw roddion a gafodd yr ysgol yn y cyfnod hwnnw; ac

    (ch) sy'n datgan cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.

     5. Yr wybodaeth sy'n ymwneud ag asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 408 o Ddeddf 1996[6].

     6. Yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r canlynol - 

    (a) disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer arholiadau cyhoeddus a chyraeddiadau'r disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus;

    (b) y cymwysterau galwedigaethol a enillwyd gan y disgyblion; ac

    (c) cofnodion presenoldeb y disgyblion;

a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996[7].

     7.  - (1) Yr wybodaeth a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau [8] a wnaed o dan is-adran (7) o adran 537[9] o Ddeddf 1996, gan gynnwys gwybodaeth a gyhoeddwyd gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-adran (6) o'r adran honno.

    (2) Os yw'r wybodaeth a gyhoeddir gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 537(6) o Ddeddf 1996 yn cael ei chyhoeddi yn ei ffurf lawn ac ar ffurf gryno, rhaid cynnwys yr wybodaeth lawn yn adroddiad y llywodraethwyr.

     8. Yr wybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu'r gyflogaeth neu'r hyfforddiant y mae disgyblion yn dechrau arnynt wrth ymadael â'r ysgol, a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau[10] a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996.

     9. Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).

     10. Pa wybodaeth bynnag ynghylch unrhyw dargedau - 

    (a) ar gyfer gwelliannau a osodwyd gan y corff llywodraethu ynghylch perfformiad disgyblion yn yr ysgol y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1997[11]); a

    (b) ar gyfer gostwng lefel absenoldebau diawdurdod ar ran disgyblion dyddiol perthnasol yn yr ysgol a osodwyd gan y corff llywodraethu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 63 o Ddeddf 1998[12].

     11. Mynegiad o'r canlynol mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr - 

    (a) i ba raddau y cafodd nodau'r corff llywodraethu ynghylch chwaraeon yn yr ysgol eu cyrraedd; a

    (b) unrhyw lwyddiannau nodedig mewn chwaraeon gan dimau'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw.

     12. Crynodeb o unrhyw adolygiad a gynhaliwyd gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddynt wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddynt yn dilyn adolygiad o'r fath.

     13. Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol, a dyddiadau'r gwyliau hanner tymor, am y flwyddyn ysgol nesaf.

     14.  - (1) Crynodeb o unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sy'n cael ei chynnwys (yn unol â rheoliadau[13] a wnaed o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998) yn llawlyfr yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei baratoi.

    (2) Pan fydd y Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn llawlyfrau gwahanol, rhaid cymryd bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob llawlyfr o'r fath.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn ail-ddeddfu gyda rhai mân newidiadau Reoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) (Cymru) 1999 sy'n cael eu diddymu.

Yn debyg i'r Rheoliadau 1999 hynny (a darpariaethau blaenorol yn Neddf Addysg 1996), mae'r Rheoliadau presennol yn nodi - 

    (a) yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiadau llywodraethwyr o dan adran 42 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") (rheoliad 3 a'r Atodlen);

    (b) gofynion ynghylch yr iaith neu'r ieithoedd y mae'n rhaid i'r adroddiadau hynny gael eu cynhyrchu ynddi neu ynddynt (rheoliad 4); ac

    (c) gofynion ynghylch rhoi copïau o'r adroddiadau hynny i rieni a sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i'w harchwilio yn yr ysgol (rheoliadau 5 i 7).

Dyma'r prif newidiadau i'r Rheoliadau blaenorol - 

    (a) ni fydd angen bellach i gyrff llywodraethu roi copïau o'u hadroddiad llawn i rieni os cafodd crynodeb ei roi i'r rhieni a bod y rhieni wedi cael gwybod y gallant ofyn am gopi llawn o'r adroddiad os ydynt yn dymuno;

    (b) ni fydd angen bellach i gyrff llywodraethu gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch yr ysgol yn eu hadroddiad;

    (c) rhaid bellach i gyrff llywodraethu gynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw adolygiadau ar bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd gan y corff llywodraethu wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol a'r camau a gymerwyd yn dilyn yr adolygiadau hynny.


Notes:

[1] 1998 p.31. Ar gyfer y diffiniad o "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/1406.back

[4] 1996 p.56.back

[5] 1998 p.38back

[6] Diwygiwyd is-adran (1) (a) o adran 408 gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44); diwygir is-adran (4)(f) yn rhagolygol gan baragraff 30(b) o'r Atodlen honno; diwygiwyd is-adran (2) (d) gan baragraff 106(b) o Atodlen 30 i Ddeddf 1998; diddymwyd is-adrannau (1)(b), (3) a (4)(b) ac (c) gan baragraff 106(a), (c) a (d)(i) o'r Atodlen honno ac Atodlen 31 i'r Ddeddf honno; a diwygiwyd is-adran (4)(d) gan baragraff 106(d)(ii) o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812); gweler paragraffau 18 - 20 o Atodlen 2.back

[7] Amnewidir adran 537(1) newydd gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y Rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Perfformiad Ysgolion) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1867 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/1470). Gweler rheoliad 9 ac Atodlenni 1, 2 a 4 i'r Rheoliadau hynny.back

[8] Gweler rheoliad 10 o O.S. 1998/1867.back

[9] Diwygiwyd is-adran (7) o adran 537 gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back

[10] Gweler O.S. 1999/1812, Atodlen 2, paragraffau 23 a 24.back

[11] 1997 p.44. Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Targedau Perfformiad Ysgolion a Thargedau Absenoldeb Diawdurdod) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1811).back

[12] Gweler O.S. 1999/1811.back

[13] Y rheoliadau cyfredol sy'n nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn llawlyfrau ysgolion yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812).back



English version



ISBN 0 11090334 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 11 September 2001