Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090315 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 434(1) a (3) a 551 o Ddeddf Addysg 1996[1], sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio 3. Diwygir Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995[3] fel a ganlyn fel y maent yn gymwys i Gymru. 4. Yn lle rheoliad 2 (Dehongli) rhoddir y rheoliad canlynol -
2. In these Regulations -
(b) in relation to a pupil who has attained that age, the pupil.".
5.
Yn rheoliad 7 (Cynnwys y Gofrestr Bresenoldeb) -
(b) yn lle paragraff (4A)[5] rhoddir y canlynol-
(ii) of an educational nature, including work experience under section 560 of the Education Act 1996 and a sporting activity; and (iii) supervised by a person authorised in that behalf by the proprietor or the head teacher of the school; or
(b) in the case of a pupil, other than a pupil to whom regulation 10(3A) applies, that pupil's attendance at another school at which he or she is a registered pupil."[6].
6.
Yn rheoliad 8 (Absenoldeb gyda chaniatâd), ym mharagraff (2)(c), yn lle'r geiriau "a police magistrate as defined in paragraph (9) of that section" rhoddir y geiriau "a justice of the peace".
(ii) the time for bringing an appeal has expired and no appeal has been brought within that time; or (iii) an appeal brought within that time has been determined or abandoned."
8.
Yn rheoliad 16 (Defnyddio Cyfrifiaduron), ym mharagraff (6), yn lle "Data Protection Act 1984" rhoddir "Data Protection Act 1998"[7]. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 fel y maent yn gymwys i Gymru. Effaith rheoliad 5, yn achos disgybl sydd wedi'i gofrestru fel disgybl mewn mwy nag un ysgol (ac eithrio disgybl sydd heb gyfeiriad parhaol oherwydd natur deithiol masnach neu fusnes rhieni'r disgybl), yw newid y ffordd y mae absenoldeb y disgybl o un o'r ysgolion hynny o achos ei bresenoldeb mewn ysgol arall o'r fath yn cael ei gofnodi yn nghofrestr bresenoldeb ysgol. Yn yr amgylchiadau hyn bydd absenoldeb y disgybl yn cael ei gofnodi fel gweithgaredd addysgol a gymeradwywyd yn hytrach nag absenoldeb sydd wedi'i awdurdodi. Mae rheoliad 6 yn cymryd i ystyriaeth y diwygiad i adran 25 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 gan reoliad 5 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn yn y Gwaith) 1998. Mae rheoliad 7 yn cymryd i ystyriaeth y darpariaethau yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ynghylch pryd y mae effaith gwaharddiad parhaol disgybl yn dechrau. Notes: [1] 1996 p.56. Gweler y diffiniad o "prescribed" a "regulations" yn adran 579(1).back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 434 a 551 o Ddeddf Addysg 1996, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r rheoliadau hyn.back [3] O.S. 1995/2089; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2624. Diddymwyd y pwerau y cafodd y rheoliadau hyn eu gwneud odanynt gan Ddeddf Addysg 1996, adran 582(2) ac Atodlen 38 ac yn rhinwedd adran 582(3) o'r Ddeddf honno, a pharagraff 1(2) o Atodlen 39 iddi, mae'r Rheoliadau yn awr yn cael effaith o dan adrannau 434 a 551 o'r Ddeddf honno.back [5] Mewnosodwyd paragraff (4A) gan O.S. 1997/2624.back [6] Bydd absenoldeb disgybl y mae rheoliad 10(3A) yn gymwys iddo (plentyn teithwyr) er mwyn mynd i ysgol arall lle mae ef neu hi yn ddisgybl cofrestredig yn cael ei gofnodi nid fel gweithgaredd addysgol a gymeradwywyd ond fel absenoldeb a awdurdodwyd; gweler y diwygiad i reoliad 7(3)(c) o O.S. 1995/2089 fel y rhoddir effaith iddo gan reoliad 5(a) o'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11090315 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 9 August 2001 |