Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090177-0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 16 Ebrill 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion yng Nghymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu (c) y person sy'n gyfrifol am arwain unrhyw sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu le addysg neu le hyfforddiant arall y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu y gallai drosglwyddo iddo;
ystyr "diwrnod ysgol" ("school day") yw unrhyw ddiwrnod y mae sesiwn ysgol yn digwydd yn yr ysgol;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.
(b) sy'n ymwneud ag unrhyw berson sy'n ddisgybl neu sydd wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol; ac (c) a ddaeth oddi wrth neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw un o'r personau a bennir ym mharagraff (3),
heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro at ddefnydd yr athro yn unig.
(b) ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly.
(3) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) -
(b) yn achos -
(ii) ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,
athro neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);
Dyletswyddau pennaeth - cofnodion cwricwlaidd (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n disodli darpariaethau a geid yn flaenorol yn Rheoliadau Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989, yn darparu i bennaeth yr ysgol gadw cofnodion am gyraeddiadau academaidd a medrau a galluoedd a chynnydd (cofnodion cwricwlaidd) disgybl mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (ac eithrio ysgol feithrin) ac ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly (rheoliad 4). Maent hefyd yn darparu i'r pennaeth ddatgelu a throsglwyddo cofnodion addysgol (fel y'u diffinnir yn rheoliad 3) i rieni ac i ysgolion y mae disgyblion yn trosglwyddo iddynt (rheoliad 5). Os yw hynny'n ofynnol, rhaid darparu'r cofnodion addysgol gwreiddiol ynghyd â chyfieithiad i Gymraeg neu Saesneg neu i iaith arall (rheoliad 6). Mae Rheoliadau 1989 yn cael eu diddymu (rheoliad 7). Notes: [1] 1996 p.56. Diddymwyd adran 563(3)(b) gan Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr "regulations", gweler adran 579(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back [3] 1988 p.40 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).back [4] Yr un diffiniad yw hwn â'r diffiniad o "educational record" a geir yn Atodlen 11 i Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29).back
ISBN 0-11-090177-0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 19 April 2001 |