Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090222-X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y p er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 189(2) o Ddeddf Tai 1996[1] sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[2]; ar ôl ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau sy'n cynrychioli'r awdurdodau perthnasol ac unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 189(3) :Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar Ddydd Gwyl Dewi, Mawrth 1af 2001. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Personau y mae arnynt angen blaenoriaethol i gael llety 2. Mae ar y disgrifiadau o berson a bennir yn erthyglau 3 i 7 angen blaenoriaethol i gael llety o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1996. Person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed 3. - (1) Person Sydd
(b) a oedd ar unrhyw adeg pan oedd yn dal yn blentyn, ond nad yw bellach, yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu; neu (c) sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol.
(2) Ym mharagraff (1)(b) uchod, ystyr "yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu" yw:
(b) yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol neu ar ei ran; (c) yn cael ei letya mewn cartref preifat i blant;
(i) gan unrhyw awdurdod iechyd, awdurdod iechyd arbennig neu awdurdod addysg lleol, neu
(d) yn cael ei faethu'n breifat.
Person 16 neu 17 oed (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996"), mae ar yr awdurdodau tai lleol ddyletswydd i ddarparu llety ar gyfer y rhai sy'n ddigartref, yn gymwys i gael cymorth, ac arnynt angen blaenoriaethol. Mae adran 189 o Ddeddf 1996 yn nodi disgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol ac mae hefyd yn rhoi p er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu rhagor o ddisgrifiadau.Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu rhagor o ddisgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol:
Notes: [1] 1996 p.52back [2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
ISBN 0-11-090222-X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 8 June 2001 |