Offerynnau Statudol 2001 Rhif 606 (Cy. 29)

      Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090166-5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 606 (Cy. 29)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 527A(4) a (5) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau
    
2. Yn rheoliad 3 (ymgynghori) o Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998[3]  - 

      (i) Ym mharagraff (2)(n) yn lle'r geiriau "clerk to the justices" rhoddir y geiriau "justices' chief executive"; a

      (ii) Dilëir paragraff (5) .



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4])


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 mewn perthynas â Chymru i drosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid yn unol ag adran 90 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22) ac Atodlen 13 iddi.

Mae is-adran (5) o'r adran honno yn darparu mai holl swyddogaethau clercod ustusiaid yw eu swyddogaethau gweinyddol at ddibenion yr adran honno ar wahân i'r rhai sy'n swyddogaethau cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir iddynt gan adran 48(2) o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25), fel y'i hamnewidiwyd gan adran 89(1) o Ddeddf 1999.


Notes:

[1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 527A gan adran 9 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac mae diwygiadau dilynol nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau presennol. Ar gyfer ystyr "prescribed" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1998/644.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090166-5


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 26 March 2001