Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090185-1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y p er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 32(9) a 33(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] sydd bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[2].Enw, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Grant arbennig perthnasol 2. Yn lle is-adran (12) o adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 rhoddir -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adrannau 32 a 33, yn y drefn honno, o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("y Ddeddf") yn nodi sut mae awdurdod bilio i gyfrifo anghenion ei gyllideb a swm sylfaenol ei dreth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o "relevant special grant" yn adran 32(12) o'r Ddeddf ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 mewn perthynas â Chymru yn unig. Mae'r diffiniad yn berthnasol ar gyfer gweithredu adran 32 ac adran 33. Mae copi o'r adroddiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Notes: [1] 1992 p. 14. Mewnosodwyd is-adran (12) o adran 32 gan OS 1995/234 a'i amnewid, mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 1998, gan OS 1998/213.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0-11-090185-1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 8 May 2001 |