Offerynnau Statudol 2001 Rhif 495 (Cy. 22 )

      Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090160-6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 495 (Cy. 22 )

ADDYSG , CYMRU

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(2) a (3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2001.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2001.

Diwygio Rheoliadau
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)(b) yn lle "28(a) to (d)" rhowch "28(a), (b) and (d)".

    (3) Yn rheoliad 3, dilëwch yr "and" yn union o flaen paragraff (f) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch  - 

      " (g) expenditure in connection with the administration of committees dealing with education; and

      (h) expenditure in connection with external audit.".

    (4) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 28 hepgorwch is-baragraff (c) ac yn lle is-baragraff (d) rhowch "(d) revenue budget preparation and the production and publication of accounts.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Chwefror 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sydd erbyn hyn yn gymwys i Gymru yn unig), a hynny i weithredu penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n briodol i wariant ar weinyddiaeth pwyllgorau addysg na gwariant ar archwiliadau allanol gael eu cynnwys yng nghyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol. Gan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau 1999 (sy'n nodi pa wariant sydd wedi'i gynnwys a pha wariant sydd heb ei gynnwys yn y gyllideb honno) er mwyn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (sy'n pennu dosbarthiadau a disgrifiadau o wariant a all gael eu tynnu oddi ar gyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol er mwyn cyfrif eu cyllideb ysgolion unigol) a hynny i ddileu cyfeiriadau at y ddau gategori gwariant y cyfeirir atynt uchod.


Notes:

[1] 1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911(Cy.40). Yn wreiddiol yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys i Gymru a Lloegr ill dwy ond cawsant eu diddymu mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/478.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090160-6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 14 March 2001