Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2001, ISBN 0 11090322 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 74, 140(4) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 [1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol. Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru)(Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2001. (2) Yn y Rheoliadau hyn:
Diddymu Rheoliadau 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) 1995 ("y Prif Reoliadau") yn darparu bod Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn gosod ardollau ar gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol Cymru fel awdurdodau bilio ar gyfer y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Diwygiwyd y Prif Reoliadau gan Reoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) (Diwygio) 1996 ("Rheoliadau 1996"). Gwnaed diwygiadau pellach i'r Prif Reoliadau gan Reoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2000 ("Rheoliadau 2000"). Effaith Rheoliadau 2000 oedd:
b) diddymu'r darpariaethau yn y Prif Reoliadau oedd yn darparu fformwla ar gyfer cyfrifo mwyafswm yr ardoll y gallai awdurdod Parc Cenedlaethol ei osod; c) pennu mwyafswm yr ardollau y gallai pob awdurdod Parc Cenedlaethol ei osod ar gyfer y blynyddoedd ariannol a fyddai'n dechrau yn 2000 a 2001.
Effaith y Rheoliadau hyn yw ailsefydlu'r darpariaethau hynny yn y Prif Reoliadau (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 1996) a ddiddymwyd gan Reoliadau 2000 ond heb effeithio ar y darpariaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddechreuodd yn 2000. Notes: [1] 1988 p. 41back
ISBN 0 11090322 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 14 August 2001 |