Offerynnau Statudol 2001 Rhif 423 (Cy.17)

      Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090232-7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 423 (Cy.17)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 19 Chwefror 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynod[1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 19 Chwefror 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 ("y prif Reoliadau") gwneir y newidiadau canlynol i'r diffiniadau: - 

    (a) yn lle'r diffiniad o "the Commission Regulation", mewnosoder y canlynol: - 

    (b) yn lle'r diffiniad o "the Council Regulation", mewnosoder y canlynol: - 

      " "the Council Regulation" (Rheoliad y Cyngor) means means Council Regulation (EEC) No. 1257/99 [4]) on support for rural development from the European Agricultural Guidance and Guarantee Fund and amending certain Regulations and repealing others;"

    (c) yn lle paragraff (b) o'r diffiniad o "agri-environment scheme" (cynllun amaeth-amgylchedd) mewnosoder y canlynol: - 

      " (b) approved by the Commission of the European Communities under Article 43 of the Council Regulation as part of a Rural Development Plan drawn up pursuant to the Council Regulation;"

    (d) yn y diffiniad o "eligible person" (person cymwys) gwneir y newidiadau canlynol i'r cyfeiriadau at erthyglau yn Rheoliad y Comisiwn:

           "Article 31" yn lle "Article 10";

           "Article 48(2)" yn lle "Article 20(2)"; ac

           "Article 48(3)" yn lle "Article 20(3)".

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y prif Reoliadau sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Newidiadau i gyfeiriadau
     3.  - (1) Yn rheoliad 3(6) (Y per i wneud cytundebau), rhodder "Article 20" yn lle "Article 13".

    (2) Yn rheoliad 8(4) (Hysbysu newid meddiannaeth), rhodder "Article 29" yn lle "Article 11" ac "Article 30" yn lle "Article 12".

    (3) Ym mharagraffau (1), (4) a (6) o reoliad 11 (Dal cymorth yn ôl a'i adennill), rhodder "Article 48" yn lle "Article 20" ac "Article 20(2)".

    (4) Yn rheoliad 12(1) a (2) (Adennill llog), rhodder "Article 48(1)" yn lle "Article 20(1)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Chwefror 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Cyflwynodd Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176) ("y prif reolliadau ") y cynllun Tir Gofal yng Nghymru. Cawsant eu diwygio gan Reoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999 ("y rheoliadau diwygio") (O.S. 1999/3337 (Cy.45)).

Cafodd y prif reoliadau a'r rhai diwygio eu gwneud yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd sydd bellach wedi'i diwygio a'i disodli. Mae'r rheoliadau presennol yn cael eu gwneud felly i ddiweddaru'r cyfeiriadau at y ddeddfwriaeth Ewropeaidd a geir yn y prif reoliadau.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.J. L214 13.08.1999, t.31.back

[4] O.J. L160 26.06.1999, t.80.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090232-7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 12 June 2001