Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090155-X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1]. Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(b) adran 116 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae'n berthnasol i is-baragraff (15) o baragraff 14 o Atodlen 4 i'r Ddeddf.
Darpariaethau Trosiannol
(b) os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau heblaw rheini a grybwyllir ym mharagraff (3), neu os gwrthodir y cais -
(ii) os dygir apêl, hyd nes y penderfynir arni neu ei gollwng.
(3) Dyma'r amodau -
(b) amod na chaiff y cartref letya a gofalu am fwy na thri o blant.
(4) Ni fydd paragraffau 1(9) a 7(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn gymwys i'r cais. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") yng Nghymru. Mae'n dwyn i rym adran 40 o'r Ddeddf, sy'n diwygio Deddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu gweithredu'n breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant (cartrefi bach i blant) gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal. Bydd adran 40 yn dod i rym ar 1 Chwefror 2001 er mwyn galluogi ceisiadau cofrestru i gael eu gwneud, ac ar 28 Chwefror 2001 i bob diben arall. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw cartref bach i blant y mae cais cofrestru wedi'i wneud yn briodol ar ei gyfer erbyn 28 Chwefror 2001 i gael ei drin fel cartref plant anghofrestredig hyd nes bod y broses gofrestru ar ei gyfer wedi'i chwblhau. Mesurau interim yw'r rhain a fydd yn cael eu diddymu, maes o law, pan fydd Rhan II o'r Ddeddf, a fydd yn sefydlu cynllun newydd ar gyfer cofrestru pob cartref plant, gan gynnwys cartrefi bach, yn cael ei gweithredu'n llawn. O ganlyniad, mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym fân ddiwygiad i adran 66 o Ddeddf Plant 1989 sy'n ymwneud â'r diffiniad o faethu preifat. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym, o 28 Chwefror 2001 ymlaen, adran 41 o'r Ddeddf. Mae honno yn diwygio Deddf Plant 1989 i ddarparu y gellir dileu cofrestriad cartref plant o unrhyw ddisgrifiad hyd yn oed os yw'r cartref wedi peidio â bod, megis pan yw'r perchennog yn ei gau cyn i unrhyw achos gorfodi ddod i ben. Bydd canlyniadau'r dileu gan hynny yn gymwys p'un a yw'r cartref yn bodoli ai peidio ar ddyddiad y dileu. Mae hwn hefyd yn fesur interim nes gweithredir Rhan II o'r Ddeddf. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael, neu ar fin cael, eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/2992 (Cy.192)(C.93) Darpariaeth/Provision Adran/Section 72 Atodlen/Schedule 2 Adran/Section 54(1), (3)-(7) Adran/Section 55 ac Atodlen 1/and Schedule 1 Adran/Section 113 (2)-(4) Adran/Section 114 (yn rhannol) / (partially) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, gan O.S. 2000/2544 (C.72). Darpariaeth/Provision Adran/Section 96 (yn rhannol) / (partially) Adran/Section 99 Adran/Section 80(8) (yn rhannol) / (partially) Adran/Section 94 Adran/Section 96 (y gweddill) / (remainder) Adran/Section 100 Adran/Section 101 Adran/Section 103 Adran/Section 116 ac Atodlen 4/and Schedule 4 (yn rhannol) (partially) Adran/Section 117(2) ac Atodlen 6/and Schedule 6 (yn rhannol) / (partially) Yn ychwanegol, mae darpariaethau amrywiol eraill o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan O.S. 2000/2795 (C.79). Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.back
ISBN 0-11-090155-x
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 15 February 2001 |