Offerynnau Statudol 2000 Rhif 3388 (Cy. 225)

      Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090235-1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3388 (Cy. 225)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 29 Rhagfyr 2000 
  Yn dod i rym
  (Sylwer: yn uniaith Saesneg y gwnaed y Rheoliadau hyn a chyfieithiad ohonynt yw'r testun Cymraeg). 1 Ionawr 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(b) ac (f), 17(1), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.

Diwygiadau i Reoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) 1996
    
2.  - (1) Mewn perthynas â Chymru, mae Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) 1996[3] yn cael eu diwygio yn unol â pharagraff 2 o'r rheoliad hwn.

    (2) Mae'r rheoliad canlynol yn cael ei fewnosod rhwng rheoliad 3 (gwahardd gwerthu cig o anifeiliaid buchol hyn) a rheoliad 4 (y Cynllun Gwarantu Cig Eidion) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

29 Rhagfyr 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/2097, fel y'i diwygiwyd eisoes) ("Rheoliadau 1996") mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliadau 1996 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.

    
2. Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gorfodi Erthygl 2.1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2277/2000 yn mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion (OJ Rhif L321, 19.12.2000, t.47). Mae'r Erthygl honno, y daw ei heffaith i ben ar 30 Mehefin 2001, yn darparu mai dim ond os ceir canlyniad prawf negyddol ar gyfer enseffalopathi sbyngffurf buchol drwy brawf cyflym a gymeradwywyd fel y cyfeirir ato yn Atodiad IV(A) o Benderfyniad y Comisiwn 98/272/EC (OJ Rhif L122, 22.4.1998, t.59, fel y'i diwygiwyd) y gellir rhyddhau cig o anifeiliaid buchol sy'n fwy na 30 mis oed ac sydd wedi'u cigydda yn y Gymuned Ewropeaidd ar ôl 1 Ionawr 2001. Mewnosodwyd Erthygl IV(A) yn y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/374/EC (OJ Rhif L135, 8.6.2000, t.27).

    
3. Yn unol ag adran 65(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) a Rheol Sefydlog 22.3 o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r Gweinidog Cynulliad wedi penderfynu nad yw'n rhesymol ymarferol cynnal arfarniad rheoliadol o dan adran 65 o'r Ddeddf oherwydd y dyddiad cau i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, sef 1 Ionawr 2001. Ymgynghorwyd yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.

    
4. Am yr un rheswm, yn unol ag adran 66(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheol Sefydlog 22.1, penderfynodd y Gweinidog Cynulliad nad oedd yn rhesymol ymarferol gwneud y Rheoliadau hyn yn Gymraeg a Saesneg. Felly mae'r testun Cymraeg yn gyfieithiad o'r Rheoliadau hyn, sydd wedi'u gwneud yn uniaith Saesneg.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999 / 672).back

[3] OS 1996/2097, a ddiwygiwyd gan OS 1996/2522 ac OS 2000/656.back

[4] OJ Rhif L321, 19.12.2000, t.47.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090235-1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 12 June 2001