Offerynnau Statudol 2000 Rhif 3387 (Cy. 224)

      Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000, ISBN 0-11-090164-9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3387 (Cy. 224)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000

  Wedi'u gwneud 29 Rhagfyr 2000 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) a chan adrannau 16(1)(a), (b), (c), (d) ac (f), (2)(a) a (3), 17(1), 19(1)(a), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[3] a pharagraffau 2(1), 3(1), 5 a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[4]), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.

Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997
    
2.  - (1) Mewn perthynas â Chymru, mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997[5] yn cael eu diwygio unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn.

    (2) Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff (1) o reoliad 4 (deunydd buchol penodedig)  - 

        " (1) In these Regulations, "specified bovine material" means  - 

      (a) the intestines from the duodenum to the rectum of any bovine animal which was slaughtered or has died elsewhere than in Australia or New Zealand;

      (b) the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or has died in the United Kingdom or Portugal at an age greater than 6 months  - 

        (i) the head (excluding the tongue but including the brain, eyes, trigeminal ganglia and tonsils);

        (ii) the thymus;

        (iii) the spleen; and

        (iv) the spinal cord;

      (c) in relation to a bovine animal which was slaughtered or has died at an age greater than 30 months, other than one which was accompanied at the time of slaughter by a slaughter certificate issued under the Beef Assurance Scheme as described in Schedule 1 to the Fresh Meat (Beef Controls) (No. 2) Regulations 1996[6]), the vertebral column, including dorsal root ganglia; and

      (d) the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or has died at an age greater than 12 months elsewhere than in the United Kingdom, Portugal, Australia or New Zealand - 

        (i) the skull (including the brains and eyes);

        (ii) the tonsils; and

        (iii) the spinal cord.".

Diwygiad i Orchymyn Risg Penodedig 1997
     3.  - (1) Mewn perthynas â Chymru, diwygir Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 [7] yn unol â pharagraff 2 o'r Rheoliad hwn.

    (2) Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff (1) o erthygl 4 (deunydd buchol penodedig)  - 

        " (1) In this Order, "specified bovine material" means  - 

      (a) the intestines from the duodenum to the rectum of any bovine animal which was slaughtered or has died elsewhere than in Australia or New Zealand;

      (b) the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or has died in the United Kingdom or Portugal at an age greater than 6 months  - 

        (i) the head (excluding the tongue but including the brain, eyes, trigeminal ganglia and tonsils);

        (ii) the thymus;

        (iii) the spleen; and

        (iv) the spinal cord;

      (c) in relation to a bovine animal which was slaughtered or has died at an age greater than 30 months, other than one which was accompanied at the time of slaughter by a slaughter certificate issued under the Beef Assurance Scheme as described in Schedule 1 to the Fresh Meat (Beef Controls) (No. 2) Regulations 1996), the vertebral column, including dorsal root ganglia; and

      (d) the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or has died at an age greater than 12 months elsewhere than in the United Kingdom, Portugal, Australia or New Zealand  - 

        (i) the skull (including the brains and eyes);

        (ii) the tonsils; and

        (iii) the spinal cord.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

29 Rhagfyr 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965) ("Rheoliadau 1997") a Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964 fel y'i diwygiwyd gan OS 2000/2811) ("Gorchymyn 1997") yn diffinio deunydd penodol o anifeiliaid buchol, defaid a geifr yn Ddeunydd Risg Penodedig ac yn cyfyngu ar ddefnyddio deunydd o'r fath i bobl ei fwyta. Mae Rheoliadau 1997 a Gorchymyn 1997 yn gymwys i'r Deyrnas Unedig gyfan.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Erthygl 1 o Benderfyniad gan y Comisiwn Ewropeaidd a fabwysiadwyd ar 6 Rhagfyr ("y Penderfyniad") mewn perthynas â Chymru. Mae Erthygl 1 o'r Penderfyniad yn diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/418/EC yn rheoli defnyddio deunydd sy'n peri risgiau o ran enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy (OJ Rhif L158, 30.6.2000, t.76) drwy ymestyn y diffiniad o Ddeunydd Risg Penodedig i gynnwys y cyfan o goluddyn anifeiliaid buchol.

Mae Rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4(1) o Reoliadau 1997, sy'n ymdrin â deunydd buchol penodedig. Yn rhinwedd y diwygiad, bydd paragraff (1) newydd yn disodli paragraff 1 presennol rheoliad 4. Bydd y paragraff (1) newydd yn darparu fel a ganlyn  - 

Diffinnir y coluddyn o'r dwodenwm i'r rectwm bellach yn ddeunydd buchol penodedig, mewn perthynas ag anifeiliaid buchol sydd wedi'u cigydda neu sydd wedi marw mewn mannau heblaw Awstralia neu Seland Newydd (paragraff 1(a));

Diffinnir y pen, y thymws, y ddueg a'r madruddyn cefn sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw yn y Deyrnas Unedig neu Bortiwgal yn fwy na chwe mis oed yn ddeunydd risg buchol (paragraff (1)(b));

Diffinnir yr asgwrn cefn, gan gynnwys ganglia'r nerf ddorsal, sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw yn y Deyrnas Unedig neu Bortiwgal yn fwy na 30 mis oed, yn ddeunydd risg buchol. Ceir eithriad yn achos anifeiliaid buchol sydd wedi'u hardystio o dan y Cynllun Sicrwydd Eidion (paragraff (1)(c));

Diffinnir y benglog, y tonsilau a'r madruddyn cefn sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu Bortiwgal (heblaw Awstralia neu Seland Newydd) dros 12 mis oed, yn ddeunydd risg buchol (paragraff 1(d)).

Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff (1) o Erthygl 4 o Orchymyn 1997 yn yr un modd.

Mae ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 wedi digwydd. Yn unol ag adran 65(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheol Sefydlog 22.3 o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, penderfynodd Gweinidog y Cynulliad dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol na ddylid cynnal unrhyw arfarniad rheoleiddiol am nad oedd yn rhesymol ymarferol gwneud hynny o fewn yr amser a oedd ar gael, oherwydd y gofyniad i'r Penderfyniad gael ei weithredu erbyn 1 Ionawr 2001.


Notes:

[1] OS 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] 1990 p.16.back

[4] (ch) Mae swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back

[5] OS 1997/2965, a ddiwygiwyd gan OS 1997/3062, OS 1998/2045 (a ddiwygiwyd ei hun gan OS 1998/2431), OS 1999/539, OS 2000/656 a OS 2000/2659 (Cy.172).back

[6] OS 1996/2097, a ddiwygiwyd gan OS 1996/2522 ac OS 2000/656.back

[7] OS 1997/2964, fel y'i diwygiwyd gan OS 2000/2811.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090164-9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 19 March 2001