Offerynnau Statudol 2000 Rhif 3384 (Cy. 222 )

      Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090162 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3384 (Cy. 222 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 12 Rhagfyr 2000 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "deiliad cyfrif dysgu unigol" ("individual learning account holder") yw person sy'n barti i drefniadau ymgymhwyso (fel y'u pennir yn rheoliad 2);

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;

    ystyr "gweinyddydd cyfrifon dysgu" ("learning account administrator") yw corff sy'n darparu neu'n trefnu addysg a hyfforddiant neu sy'n cynorthwyo i'w darparu ac iddo'r fantais o fod wedi'i gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 105(5) o'r Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn, heb fod y gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl; ac

    mae i "person cymwys" ("eligible person") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Trefniadau ymgymhwyso
    
2.  - (1) At ddibenion adran 105 o'r Ddeddf mae trefniadau yn gymwys o dan yr adran honno mewn perthynas â Chymru - 

    (2) At ddibenion adran 105 o'r Ddeddf mae trefniadau yn gymwys hefyd o dan yr adran honno mewn perthynas â Chymru os ydynt - 

ac os yw'r person sy'n barti iddynt yn berson cymwys neu yn bodloni'r amodau ym mharagraff (3) isod.

    (3) Yr amodau yw - 

    (4) At ddibenion paragraff (3) mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol (oni bai bod rheoliad 9 yn gymwys).

Ystyr Person Cymwys
    
3.  - (1) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae person yn berson cymwys os yw'n bodloni'r amodau a geir ym mharagraffau (2) i (4) isod ar ddyddiad y cofrestru.

    (2) Yr amod cyntaf yw bod y person wedi cyrraedd 18 mlwydd oed ar ddyddiad y cofrestru.

    (3) Yr ail amod yw bod y person - 

    (a) yn ddinesydd Prydeinig;

    (b) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971[
    2];

    (c) yn ffoadur, yn preswylio'n gyffredin yn y Deyrnas Unedig, nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur, neu yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur o'r fath;

    (ch) yn berson sydd - 

      (i) wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn iddo aros yn y Deyrnas Unedig er na fernir ei fod yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur;

      (ii) wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny; a

      (iii) wedi bod yn preswylio'n gyffredin yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,

    neu yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath; neu

    (d) yn berson nad yw'n perthyn o fewn paragraffau (a) i (ch) ond yn wladolyn un o aelod-wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig; neu yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath.

    (4) Y trydydd amod yw bod y person, adeg y cofrestru, naill ai - 

    (a) yn preswylio yng Nghymru; neu

    (b) yn preswylio y tu allan i Gymru dros dro ond yn preswylio'n gyffredin yng Nghymru. (oni bai bod rheoliad 9 yn gymwys).

    (5) At ddibenion paragraff (4) mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol.

Cofrestru - Cyffredinol
     4.  - (1) Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd am gofrestru yn darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y bydd y gweinyddydd cyfrifon dysgu yn penderfynu arnynt er mwyn i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu benderfynu a yw'r person yn berson cymwys a chaiff wrthod derbyn cais am gofrestru oni bai bod yr wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny yn cael eu darparu.

    (2) Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu ddileu cofrestriad ar unrhyw adeg - 

    (3) Caiff person sydd wedi cofrestru gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu dynnu ei gofrestriad yn ôl ar unrhyw adeg.

    (4) Os yw person yn barti i drefniadau ymgymhwyso ni fydd unrhyw gofrestriad dilynol gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu yn dwyn unrhyw effaith.

Grantiau i ddeiliaid cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â hwy
    
5. Gall grantiau gael eu talu yn unol â rheoliadau 6 i 8 isod mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol mewn cysylltiad ag unrhyw addysg neu hyfforddiant y maent yn bwriadu ymgymryd â hwy - 

Yr addysg a'r hyfforddiant y gellir talu grant ar eu cyfer
    
6.  - (1) Yr addysg neu'r hyfforddiant y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 yw unrhyw addysg neu hyfforddiant heblaw addysg eithriedig sydd - 

    (2) Yn y rheoliad hwn, addysg eithriedig yw - 

Swm y grant
     7. Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn penderfynu ar swm y grant y gellir ei dalu i ddeiliad cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â deiliad cyfrif dysgu unigol.

Grant - darpariaeth atodol
    
8.  - (1) Caiff grantiau eu talu ar yr adegau ac yn y rhandaliadau a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ac yn benodol caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu na thelir grant nes bod y person ei hun wedi gwneud unrhyw daliad neu wedi sicrhau y telir unrhyw daliad tuag at gostau'r addysg neu'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol).

    (2) I'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant y telir y grant.

    (3) Gall grantiau gael eu talu ar y telerau a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gall y telerau hynny gynnwys telerau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhan neu'r cyfan o'r grant yn cael ei ad-dalu - 

    (4) Gall grantiau gael eu talu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan weinyddydd cyfrifon dysgu o dan drefniadau a wneir gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac os gwneir trefniadau o'r fath caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dalu tâl neu symiau i dalu ei gostau i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu.

Preswylfa aelodau'r lluoedd arfog
    
9.  - (1) At ddibenion y rheoliadau hyn penderfynir ar breswylfa aelod o lynges, byddin neu awyrlu y Goron ("aelod o'r lluoedd arfog") yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, ymdrinnir ag aelod o'r lluoedd arfog fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad lle mae'n gwasanaethu am y tro.

    (3) Os yw'r aelod o'r lluoedd arfog yn gwasanaethu mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ymdrinnir â'r aelod hwnnw fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig lle bu'n gwasanaethu yn fwyaf diweddar, gan anwybyddu unrhyw sefydliad lle bu'n gwasanaethau am gyfnod o lai na mis.

Darpariaethau Trosiannol
    
10. Ymdrinnir ag unrhyw berson cymwys a oedd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn barti i drefniadau a elwid yn Gyfrif Dysgu Unigol a wnaed gan Gyngor Hyfforddi a Menter, (yn ddarostyngedig i reoliad 4(4)) fel pe bai wedi'i gofrestru gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 105(5) o'r Ddeddf o'r dyddiad y rhoddwyd y gymeradwyaeth honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Rhagfyr 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio'r trefniadau ymgymhwyso y cyfeirir atynt yn adran 105 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac yn darparu ar gyfer talu grantiau i bersonau sy'n bartïon i drefniadau ymgymhwyso (sef personau a ddiffinnir yn y Rheoliadau fel "deiliaid cyfrif dysgu unigol").

Ymdrin â threfniadau ymgymhwyso y mae Rheoliadau 2 i 4. Rhaid i'r trefniadau hyn fod ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda chorff a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Rheoliad 3 yn nodi amodau cymhwyster sy'n cynnwys preswylio yng Nghymru (neu preswylio dros dro y tu allan i Gymru Unedig adeg cofrestru ond preswylio'n gyffredin yng Nghymru). Er hynny, o dan amgylchiadau penodol fe fydd trefniadau ymgymhwyso o dan ddarpariaethau cyfatebol a fydd yn gymwys yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn drefniadau ymgymhwyso o dan y Rheoliadau hyn.

Yn Rheoliadau 5 i 8 darperir ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol. Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer y p?er i dalu grantiau. Mae Rheoliad 6 yn darparu y gall grantiau gael eu talu mewn perthynas ag unrhyw addysg neu hyfforddiant a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru heblaw addysg uwchradd neu addysg uwch amser-llawn. Yn Rheoliad 7 darperir mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penderfynu swm y grant ac mae Rheoliad 8 yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau atodol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer talu'r grant i'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant.

Yn Rheoliadau 9 a 10 ceir darpariaethau ar gyfer penderfynu ar breswylfa aelodau'r lluoedd arfog a darpariaethau trosiannol.


Notes:

[1] 2000 p.21.back

[2] 1971 p.77; diwygiwyd a mewnosodwyd is-adran (2A), gan Ddedf Cenedligrwydd 1981 (p. 61), adran 39 ac Atodlen 4.back

[3] 1996 p.56.back

[4] 1988 p.40.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090162 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 19 March 2001