Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Offer Telathrebu) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Offer Telathrebu) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090199-1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 64(3)[1] a 65(4)[2], o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[3] : - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Offer Telathrebu) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
(b) nad yw'n gynhaliwr mewn perthynas â'r safle y mae'r offer wedi'i leoli arno neu yn gysylltiedig ag ef;
ystyr "cynhaliwr" ("host") yw'r person sydd â'r hawl i gael taliad mewn perthynas â defnyddio unrhyw ran o safle gan unrhyw berson arall sy'n weithredydd sy'n meddiannu offer telathrebu;
(ii) darlledu; a
(b) strwythurau o natur cabanau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau sy'n ffurfio rhan yn unig o adeilad) a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i'w defnyddio, dim ond i gartrefu offer o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a);
ynghyd ag unrhyw offer atodol a feddiennir at ddibenion gweithredydd yn unig;
Trin offer telathrebu
(b) a feddiennir neu a berchenogir yn y fath fodd ag i ffurfio (ar wahân i'r rheoliad hwn) un neu ragor o hereditamentau.
(2) Rhaid trin offer telathrebu y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a'r hereditament y mae wedi'i gysylltu ag ef, yn ddarostyngedig i baragraff (3), fel hereditament unigol sydd ym meddiant neu berchenogaeth y cynhaliwr. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan adran 64(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy'n darparu bod rhaid i unrhyw beth a fyddai (heblaw am y rheoliadau) yn fwy nag un hereditament gael ei drin fel un hereditament. Yn rhinwedd adran 65(4) o'r Ddeddf honno, gall rheoliadau a wneir o dan adran 64(3) gynnwys rheolau ar gyfer darganfod a yw'r hereditament i gael ei drin fel pe bai wedi'i feddiannu a phwy sydd i gael ei drin fel y perchennog neu'r meddiannydd. Mae'r pwerau hyn bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod offer telathrebu sydd wedi'i gysylltu â hereditament telathrebu neu sydd wedi'i leoli ar hereditament telathrebu, ac a fyddai fel arall yn un neu fwy o hereditamentau gwahanol, i gael ei drin fel hereditament unigol gyda'r hereditament telathrebu. Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, bydd yr hereditament unigol hwnnw i'w drin fel pe bai ym meddiant neu berchenogaeth y person sydd â'r hawl i gael taliad am ddefnyddio unrhyw ran o'r safle gan weithredydd offer telathrebu. Notes: [1] 1988 (p.41); diwygiwyd adran 64 gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraffau 33 a 79(3) o Atodlen 5 iddi; gan adran 104 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a pharagraff 2 o Atodlen 10 iddi; gan adran 103 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) a Rhan I o Atodlen 9 iddi; gan adran 134(1) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (p. 50) a pharagraff 55 o Atodlen 9 iddi, a chan adrannau 2(2) a 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29) ac Atodlen 3 iddi a chan baragraff 25 o Atodlen 4 iddi.back [2] 1998 (p.41); diwygiwyd adran 65 gan adrannau 2(3)(a), 2(3)(b) a 33(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29) ac atodlen 4 iddi a chan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 34 a 79(3) o Atodlen 5 iddi.back [3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back
ISBN 0-11-090199-1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 21 May 2001 |