Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2000, ISBN 0-11-090153-3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2000 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1992" yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[3]. Diwygio Rheoliadau 1992 2. Yngl n â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: -
(b) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle "1.005" y rhoddir "1.004"; (c) ym mharagraff 8(1) o Atodlen 2, yn lle "1.2 per cent" y rhoddir "1 per cent"; a (ch) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhwysir rheolau i gyfrifo'r symiau hynny yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy roi fformwla newydd ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1 (didyniadau o'r swm gros), lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau yngl n â'r swm gros), canran newydd ym mharagraff 8(1) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau yngl n â didyniadau o'r swm gros) ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).Notes: [1] 1988 p.41.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back [3] O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962 a 1999/3439.back
ISBN 0-11-090153-3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 5 February 2001 |