Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090147 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas à pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001. Cymhwyso 2. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. (2) Mewn perthynas à thaliadau i ffermwr o dan unrhyw gynllun cymorth ACS, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r graddau, a dim ond i'r graddau, mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas à daliad y ffermwr. Dehongli 3. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) unrhyw gynllun sy'n darparu ar gyfer atodiadau ALlFf; ac (c) unrhyw gynllun ar gyfer talu cymorth fel iawndal amaeth-ariannol;
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae taliad yn cael ei wneud yn unol à chynllun cymorth os yw'r canlynol yn wir -
(b) i'r graddau y mae'n cael ei ariannu gan adran Warantu Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop, ei fod yn cael ei wneud yn unol ag unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol i weithredu'r cynllun hwnnw.
Modwleiddio taliadau cynlluniau cymorth
(b) 3.0% ar gyfer y flwyddyn gynllun sy'n dechrau yn 2002; (c) 3.5% ar gyfer y blynyddoedd cynllun sy'n dechrau yn 2003 a 2004; ac (ch) 4.5% ar gyfer y blynyddoedd cynllun sy'n dechrau yn 2005 a 2006;
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2001, yn gweithredu Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan bolisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t. 113) ("Rheoliad y Cyngor"). Maent yn gymwys i Gymru, ac eithrio mewn perthynas à thaliadau o dan gynllun cymorth IACS, pan fyddant yn gymwys dim ond i'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn "awdurdod cymwys perthnasol" o fewn ystyr Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993 (O.S. 1993/1317, fel y'i diwygiwyd olaf gan O.S. 2000/2573). Mae Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor yn caniatáu i'r Aelod-wladwriaethau ostwng symiau'r taliadau o dan y cynlluniau cymorth a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliad hwnnw lle (ymhlith pethau eraill) y mae cyfansymiau'r taliadau a roddir o dan gynlluniau cymorth o'r fath ar gyfer blwyddyn galendr yn fwy na'r terfynau sydd i'w penderfynu gan yr Aelod-wladwriaeth o dan sylw. Yn y Deyrnas Unedig dim yw'r terfyn sydd wedi'i osod, ac mae'r gostyngiad felly'n gymwys i bob taliad o dan y cynlluniau cymorth a bennwyd. Mae'n ofynnol trefnu bod symiau'r gostyngiadau ar y taliadau ar gael fel cymorth Cymunedol ychwanegol ar gyfer unrhyw un o'r mesurau datblygu gwledig a bennir yn Erthygl 5(2) o Reoliad y Cyngor, i'r graddau y maent yn gymwys i'r Aelod-wladwriaeth berthnasol. Mae'r Rheoliadau hyn felly yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu, yn òl fel y digwydd, y Bwrdd Ymyrraeth, dynnu cyfran benodedig (2.5% yn y flwyddyn 2001, 3.0% yn y flwyddyn 2002, 3.5% yn y blynyddoedd 2003 a 2004, a 4.5% yn y blynyddoedd 2005 a 2006) o unrhyw daliad y maent yn ei wneud yn unol ag unrhyw un o'r cynlluniau cymorth a enwyd, ac mae'r symiau a dynnir felly i'w defnyddio yn unol à'r Erthygl 5(2) a enwyd (rheoliad 4). Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (OS 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Darperir p er y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'I ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, I wneud rheoliadau sy'n ymestyn I ddaliadau sy'n cynnwys tiroed y tu allan I Gymru gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 I'r Gorchymyn.back[3] OJ Rhif L132, 22.5.90, t. 17.back [4] S.I. 1993/1317, a ddiwygiwyd gan OS 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573.back [5] OJ Rhif L349, 24.12.98, t. 1.back [6] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t. 80.back [7] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t. 113.back [8] OJ Rhif L355, 5.12.92, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cygnor (EC) Rhif 1036/1999.back
ISBN 0 11 090147 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 10 January 2001 |