Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090146 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000. (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Dysgu a Medrau 2000. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben oni nodir yn wahanol. Darpariaethau sy'n dod i rym 2. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2001. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] D. Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 7 Rhagfyr 2000 Adran 42. Adran 43. Adran 44. Adran 46. Adran 48. Adran 73. Adran 87. Adran 93. Adran 95. Adran 139. Adran 141. Adran 145. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 a bennir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 11 a bennir isod. Atodlen 5. Yn Atodlen 9 - paragraff 21(b) paragraff 34, paragraff 36, paragraff 44(3) a (4), paragraff 45, paragraff 64, paragraff 70, paragraff 81, paragraff 86, paragraff 92. Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 i rym ar 1 Ionawr 2001. Rhestrir y darpariaethau hynny, ac esbonnir eu heffeithiau, isod. Mae adrannau 42, 43 a 44 yn gosod dyletswyddau ar Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi sylw priodol i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal wrth arfer ei swyddogaethau. Mae adrannau 43 a 44 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor wneud cynllun ar gyfer pob un o'i flynyddoedd ariannol a llunio strategaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau. Mae adrannau 46 a 48 yn rhoi pwerau atodol i'r Cyngor sy'n angenrheidiol i ganiatáu iddo gyflawni ei swyddogaethau a sefydlu pwyllgorau. Mae adran 73 yn ailenwi Prif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru ac Arolygwyr Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru. Mae adran 87 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd baratoi cynllun blynyddol a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ei gymeradwyo. Mae adrannau 93 a 95 yn rhoi p er i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud cynlluniau ar gyfer trosglwyddo i'r Cyngor eiddo, hawliau a rhwymedigaethau (gan gynnwys hawliau cyflogaeth) sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod y Cyngor yn ymgymryd â'i swyddogaethau.Mae adran 139 yn caniatáu i gyfnodau ymsefydlu athrawon ac athrawesau gael eu bwrw mewn sefydliadau addysg bellach o dan rai amgylchiadau. Mae adran 141 yn rhoi p er i'r Cynulliad Cenedlaethol, o dan amgylchiadau penodol, gyfarwyddo cwmnïau y mae wedi contractio gyda hwy mewn perthynas â darparu hyfforddiant i beidio â chymryd camau penodol. Mae'n rhoi p er hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n rhagnodi'r mathau o gamau y gellir eu cynnwys mewn cyfarwyddiadau o'r fath.Mae adran 145 yn ymdrin â rhwymedigaeth sifil llywodraethwyr sefydliadau addysg bellach penodol . Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu tro yn cynnwys diwygiadau a diddymiadau canlyniadol. (Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daethpwyd neu deuir â darpariaethau canlynol Deddf Dysgu a Medrau 2000 i rym mewn perthynas â Chymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2000 p.21.back
ISBN 0 11 090146 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 10 January 2001 |