Offerynnau Statudol 2000 Rhif 3123 (Cy. 201 )

      Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000, ISBN 0-11-019145-5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3123 (Cy. 201 )

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000

  Wedi'u gwneud 23 Tachwedd 2000 
  Yn dod i rym 29 Tachwedd 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol - 

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2000.

Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997
    
2. Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliadau 3 i 13 o'r Rheoliadau hyn.

     3. Yn rheoliad 2 (dehongli) ym mharagraff (1) - 

     4. Yn union ar ôl rheoliad 3 mewnosodir y rheoliad canlynol - 

     5. Yn rheoliad 6 (addasu cwota prynwr) - 

     6. Yn rheoliad 11 (trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir) - 

     7. Yn rheoliad 14 (ailddyrannu cwota dros dro) - 

     8. Yn rheoliad 16 (trosi cwota) - 

     9. Yn rheoliad 25 (archwilio cofnodion yng nghofrestrau'r Bwrdd Ymyrraeth) - 

     10. Yn rheoliad 30 (pwerau swyddogion awdurdodedig) ym mharagraff (6) yn union ar ôl y gair "regulation" mewnosodir y geiriau "and in regulation 30A".

    
11. Yn union ar ôl rheoliad 30 mewnosodir y rheoliad canlynol - 

     12. Yn rheoliad 31 (cosbau), ym mharagraff (1), yn lle is-baragraff (b) rhoddir yr is-baragraff canlynol - 

     13. Yn Atodlen 5 (ailddyrannu cwota a chyfrifo rhwymedigaeth ardoll), ym mharagraffau 8 a 18 ill dau, yn lle'r geiriau "within 45 days of" rhoddir y geiriau "on or before 14th May immediately following".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Tachwedd 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 29 Tachwedd 2000, yn diwygio ymhellach Reoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997 (O.S. 1997/733) ("y prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Mae'r prif newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn - 

    (a) yn ymestyn y diffiniad o "cynllun iawndal Cymunedol" i gynnwys yr un a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2330/98 sy'n darparu bod iawndal yn cael ei gynnig i gynhyrchwyr penodol llaeth a chynhyrchion llaeth sydd wedi'u cyfyngu dros dro rhag cyflawni eu masnach (OJ Rhif L291, 30.10.98, t.4) (rheoliad 3(a));

    (b) yn dileu Islay o'r trefniadau cwota llaeth penodol sy'n gymwys i Ynysoedd yr Alban (rheoliad 3(b)) ac yn egluro i ba raddau ac ym mha ffordd y mae'r trefniadau hynny'n gymwys (rheoliad 4);

    (c) yn ymestyn y cyfnod (o 28 i 56 o ddiwrnodau, yn ddarostyngedig i ddyddiad terfynol o 14 Mai yn y flwyddyn gwota nesaf sy'n dilyn) y bydd rhaid i brynwyr hysbysu'r Bwrdd Ymyrraeth o unrhyw gynhyrchydd sydd newydd gofrestru gyda hwy o'i fewn (rheoliad 5(a)(ii));

         (ch) drwy reoliad 6(4A) newydd o'r prif Reoliadau, yn egluro pwy sy'n cael caniatâd, ai prynwr gwreiddiol ynteu prynwr newydd llaeth cynhyrchydd, i wneud cais i'w gwota gael ei addasu o ganlyniad i newidiadau dilynol yn lefel nodweddiadol y braster a geir yn llaeth y cynhyrchydd hwnnw (rheoliad 5(c));

    (d) yn dileu'r gofyniad (gynt yn rheoliad 11(5) o'r prif Reoliadau), a oedd yn gymwys yn achos trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir hefyd, ar ôl i'r trosglwyddiad gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Ymyrraeth, i'r trosglwyddai ddarparu datganiad i'r Bwrdd ynghylch y cwota a ddefnyddid a'r cwota nas defnyddid a oedd ar gael iddo ef ac i'r trosglwyddwr ar ddyddiad y trosglwyddiad (rheoliad 6(c));

         (dd) drwy reoliad 11(7) diwygiedig yn y prif Reoliadau, yn ymestyn gallu'r Bwrdd Ymyrraeth i ryddhau trosglwyddai o'i ymrywmiad, fel bod y p er yn gymwys nid yn unig lle mae amgylchiadau eithriadol yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y llaeth sy'n cael ei gynhyrchu, ond hefyd lle maent yn arwain at fethiant sylweddol â sicrhau cynnydd a gynlluniwyd yn y llaeth sy'n cael ei gynhyrchu (rheoliad 6(d));

    (e) yn egluro'r sail y gellir ail-ddyranu cwota dros ben dros dro arni (rheoliad 7(a)) ac yn dileu o gategori'r cynhyrchwyr sy'n gymwys i gael ailddyraniadau dros dro o'r fath y cynhyrchwyr y mae cydnabyddiaeth ffurfiol bod yna gamgymeriad wrth gyfrifo eu hardoll yn effeithio arnynt (rheoliad 7(b));

    (f) yn galluogi'r Bwrdd Ymyrraeth, yng nghyd-destun penderfyniad i drosi cwota cynhyrchydd yn barhaol ac os bydd amgylchiadau eithriadol wedi arwain at ostyngiad arwyddocaol yn y llaeth sy'n cael ei gynhyrchu neu fethiant arwyddocaol â sicrhau cynnydd a gynlluniwyd yn y llaeth sy'n cael ei gynhyrchu, i ryddhau'r cynhyrchydd hwnnw o'r cyfyngiad a fyddai fel arall yn ei atal rhag trosglwyddo allan gwota o'r math y mae wedi trosi iddo yn yr un flwyddyn gwota â'r un y digwyddodd y trosi hwnnw ynddi (rheoliad 8);

         (ff) yn caniatáu i'r Bwrdd Ymyrraeth ei gwneud yn ofynnol i'r cyfryw bersonau a ddiffinir fel "relevant persons" yn rheoliad 30(6) o'r prif Reoliadau gynnal a chadw cofnodion (rheoliad 11);

    (g) yn ymestyn y tramgwydd a ddisgrifir yn rheoliad 31(1)(b) o'r prif Reoliadau i gynnwys achosi elfennau o'r tramgwydd hwnnw (rheoliad 12).

Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn, ac mae copi ohono ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1997/733; y diwygiadau perthnasol yw O.S. 1997/1093 a 2000/698.back

[4] OJ Rhif L291, 30.10.98, t.4.back

[5] OJ Rhif L335, 10.12.98, t.33.back

[6] O.S. 1992/314.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-019145-5


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 10 January 2001