Offerynnau Statudol 2000 Rhif 3122 (Cy. 200 )

      Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090138 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3122 (Cy. 200 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 23 Tachwedd 2000 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cofrestru gorfodol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
    
2.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni all neb sy'n athro neu athrawes gymwysedig gael ei gyflogi neu ei chyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol yng Nghymru onid yw wedi'i gofrestru neu ei chofrestru yn unol ag adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[3], gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol os yw'r person hwnnw wedi'i gyflogi dim ond i ddarparu - 

    (a) addysg ran-amser i bersonau dros oedran ysgol gorfodol yn unig; neu

    (b) addysg amser-llawn i bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed yn unig; neu

    (c) addysg ran-amser ac addysg amser-llawn o'r fath.

    (3) Yn y rheoliad hwn  - 

    (a) mae i "athro neu athrawes gymwysedig" yr un ystyr ag a roddir i "qualified teacher" yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[4];

    (b) mae cyfeiriadau at berson a gyflogir fel athro neu athrawes yn cynnwys cyfeiriadau at berson y cytunwyd ei fod i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth; ac

    (c) mae cyfeiriadau at ysgol yn gyfeiriadau:

      (i) at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[5]; neu

      (ii) at ysgol arbennig o fewn ystyr adran 337(1) o Ddeddf Addysg 1996[6] nad yw'n cael ei chynnal felly.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]).


John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Tachwedd 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r rheoliadau hyn yn darparu na all unrhyw athrawon cymwysedig, ar wahân i eithriadau penodol, gael eu cyflogi mewn ysgolion a gynhelir neu mewn ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal oni chofrestrir hwy gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.


Notes:

[1] 1988 p.40. Mewnosodwyd adran 218(1)(aa) gan adran 11 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 218 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back

[3] 1998 p. 30.back

[4] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau a oedd mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Cymru oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)); adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau a oedd mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Lloegr oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).back

[5] 1998 p.31.back

[6] 1996 p.56; mae adran 337(1) wedi'i diwygio gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090138 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 21 December 2000